Darganfuwyd safle mawr Mesolithig (c. 10900 –5900CP) yn ystod cloddio yn nhref ganoloesol Rhuddlan, Sir Ddinbych. Cafwyd hyd i fwy na 13,000 o dwls cerrig, ac o fewn y casgliad, roedd pum carreg fechan wedi’u haddurno, yn cynnwys un wedi’i hysgythru ar y ddwy ochr ac sydd, o bosib, yn cynrychioli’r corff dynol. Maen nhw’n cynrychioli rhai o’r ychydig enghreifftiau o gelf addurniadol a gafwyd yng Nghymru yn y cyfnod hwn.
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

Trwyn Du, Ynys Môn

Yn aml, daw archeolegwyr ar draws tystiolaeth o weithgaredd Fesolithig ar hap wrth gloddio safleoedd diweddarach amlycach, fel y digwyddodd ar safle Rhuddlan ganoloesol, y soniwyd amdano yn y cyflwyniad i'r rhan yma, ac yn Nhrwyn Du, Ynys Môn. Yn yr achos hwnnw, cofnodwyd olion o sefydliad Mesolithig yn dyddio rhwng 8,000 a 9,000 o flynyddoedd yn ôl, yn gorwedd o dan domen gladdu o’r Oes Efydd, a oedd dan fygythiad gan erydu arfordirol. Serch hynny, byddai’r bobl fu’n byw yn Nhrwyn Du adeg y Mesolithig cynnar, wedi bod yn byw mewn dyffryn rhyw 7km o’r môr. Cafodd y safle ei adnabod am fod yno dros 5,000 o ddarnau o fflint, gan gynnwys pigau a chrafwyr, ynghyd ag offer arall, yn cynnwys dwy fwyell garreg. Awgrymodd y cloddwyr fod dau bydew yn llawn o fflint wedi cynnal pyst ar gyfer lliain wynt i warchod y gweithwyr fflint yn ystod gwneud yr offer cerrig. Oherwydd bod cynifer o fflintiau o fathau gwahanol yma, mae’n debygol fod y safle wedi’i ddefnyddio’n dymhorol am gyfnod maith.

 


Gorwedd safle Mesolithig Trwyn Du o dan garn o’r Oes Efydd a adeiladwyd ryw 4,000 mlynedd yn ôl. Cafodd ei gloddio yn 1974 pan ddaeth yn amlwg fod y safle o dan fygythiad gan erydiad arfordirol
(Llun Amgueddfa Cymru)

 

English