Cloddio archaeolegol yn Aber Hafren gan Brifysgol Reading yn 2001
(Llun © Hawlfraint y Goron : CBHC)

 



Dwyrain Goldcliff, Aber Hafren – cloddio manwl iawn o olion traed dynol ar draws wyneb Mesolithig y tir


Olion traed Mesolithig wedi’u cadw’n eithriadol o dda o’r un safle
(Lluniau Eddie Sacre)

 

Olion traed mewn tirwedd fyw

Dangosodd gwaith Prifysgol Birmingham y potensial a gynigir gan astudio’r tiroedd coll hyn ar gyfer deall yn well fywydau ein cyndadau cynhanesyddol. Nid tiroedd pontio na chynefinoedd anial oedd yr ardaloedd hyn, ond yn hytrach diroedd byw lle byddai pobl yn hela, yn lloffa yn chwarae ac yn ymgartrefu.

Ceir cyswllt rhyfeddol o uniongyrchol i’r bobl hyn mewn olion troed a gadwyd mewn safleoedd arfordirol megis Formby Point, yng ngogledd-orllewin Lloegr, Dwyrain Goldcliff yn Aber Hafren, a Lydstep, Sir Benfro. Cofnodwyd dros 200 o lwybrau traed dynol, llawer ohonyn yn dyddio o’r Mesolithig ddiweddar, yn Formby Point. Amlygir bodolaeth grwpiau teuluoedd Mesolithig oherwydd olion eu traed yn Nwyrain Goldcliff, yn dyddio’n ôl mor gynnar â rhyw 7,500 o flynyddoedd yn ôl. Ceir tystiolaeth fod nifer fawr o blant yn bresennol, efallai’n rhoi help llaw i’r oedolion loffa am fwyd môr, a hefyd yn chwarae. Cofnodwyd olion traed anifeiliaid, gan gynnwys carw, bual, blaidd a garan. Ymddengys nad perthynas anymyrrol oedd gan y bobl hyn â’u hamgylchedd. Awgryma pentyrrau a phydewau o gregyn, sawl un ohonynt yn cynnwys olion dynol, a gofnodwyd ar hyd glannau Aber Hafren ac mewn safleoedd megis Prestatyn ar arfordir Bae Lerpwl eu bod yn defnyddio adnoddau lleol dros gyfnodau hir, hyd yn oed os oedd hynny’n digwydd yn dymhorol. Awgryma tystiolaeth amgylcheddol fod coedwigoedd ac ardaloedd brwynog yn cael eu llosgi’n rheolaidd, er ei bod yn dal yn bwnc dadleuol ai yn fwriadol ai peidio y gwnaed hyn. Y naill ffordd neu’r llall, roedd yn gymorth i greu cynefin addas ar gyfer anifeiliad oedd yn pori ac er mwyn cael mynediad haws at ddwr.

 

English