Adnabod nodweddion tirwedd afoddwyd – 3D

Dadansoddwyd yr holl ddata 3D gan feddalwedd arbenigol, fu’n ei ddaear-gyfeirio er mwyn cynhyrchu map a allai leoli’r data mewn perthynas â’r arfordir. Dehonglwyd hwn wedyn i ddewis nodweddion o ddiddordeb archeolegol o fewn y dirwedd a foddwyd. Dehonglwyd y rhan fwyaf o’r nodweddion fel cwysi hen afonydd, sy’n cael eu henwi fel arfer gan archeolegwyr fel paleosianelau. Mae’r rhain yn bwysig oherwydd bod llwybrau dwr yn aml yn ffocws ar gyfer gweithgareddau helwyr a lloffwyr. Bydd dyddodion ynddyn nhw yn aml yn cadw arteffactau a thystiolaeth amgylcheddol. Mae nodweddion eraill a fapiwyd yn cynnwys llynnoedd rhewlifol, dyffrynnoedd, bryniau bach a thiroedd uwch. Nid oedd pob nodwedd yn dyddio o’r un amser. Trwy astudio eu dyfnder a’u perthynas stratigraffig â nodweddion eraill, llwyddwyd i glustnodi pob nodwedd i un cyfnod neu’r llall – y Paleolithig neu’r Mesolithig. Fel hynny, gallai’r tîm archeolegol ail-greu’r tirweddau wrth iddyn nhw newid ac wrth i’r tir gael ei golli o dan y môr. Defnyddiwyd dyfnder presennol y dwr (bathymetreg) i ddatblygu model yn dangos uchder perthynol y nodweddion a gladdwyd o dan ddyddodion morwrol bellach i ddarparu darlun cyffredinol o dirwedd y tiroedd a foddwyd, gan gynnwys hen arfordiroedd a nodweddion cwysi mwy. Yn ogystal, gall data ar safleoedd gwybyddus o amgylch arfordir Cymru helpu wrth lunio cymeriad a natur debygol safle a foddwyd.

 

Darlun o’r broses ddehongli ar gyfer darn o ddata seismig 3D o ardal Bae Lerpwl. Dengys y ffigwr uchaf (a) y data 3D mewn gwelediad 3D cyn adnabod y nodweddion. Datguddir gwahanol gyfnodau o nodweddion tirwedd o fewn haenau’r data 3D. Dengys y ffigwr canol (b )ganlyniadau’r dehongliad, gan adnabod un cyfnod o nodweddion tirwedd hynafol gan gynnwys arfordir ar y chwith, a’r môr ar y dde yn amgylchynu ynys fach. Cafodd tystiolaeth o afon yn llifo i’r môr ei adnabod hefyd. Dengys y ffigwr olaf (c) fodel ffrâm-weiren o’r dehongliad hwn, y gellir ei ddefnyddio i gynhyrchu map o’r cyfnod hwnnw yn hanes y dirwedd a foddwyd.

 

 

English