BAE LERPWL - CANLYNIADAU A THREFN BODDI
Paleolithig
Roedd y cyfan, bron, o ardal astudio Bae Lerpwl uwchben lefel y dwr yn
ystod y cyfnod Paleolithig. Roedd yn dirwedd o weirdir agored a gwastatiroedd wedi’u
hollti gan sawl llif dwr a lifai o’r tiroedd uwch â’i amgylchynai i lynnoedd
mawr bas. Roedd yr awyrgylch ôlrewlifol yn oer a sych, ac efallai fod rhai ardaloedd
o ia yn parhau, ond byddai’r gweirdiroedd eang wedi cynnal anifeiliaid pori, megis
yr elc cynhanesyddol Megaloceros, gâi eu hela ar gyfer eu bwyta. Daw tystiolaeth o
ogofâu cyfagos sy’n dangos fod helwyr yn mynd â chig o’r lladdfeydd
i’w bwyta yno, ac y gellid defnyddio darnau eraill o gyrff yr anifeiliaid, megis esgyrn
a gewynnau i wneud offer.
Mesolithig
Digwyddodd boddi’r dirwedd yn weddol gyflym yn ystod y cyfnod Mesolithig,
ond mae’n debyg fod ardal lanw eang yn bodoli gydol y cyfnod. Ni wyddys i sicrwydd
o hyd beth oedd effaith y codiad yn lefel y môr ar y llynneodd Paleolithig ond mae’n
bosib eu bod yn dal yn nodweddion amlwg yn y dirwedd. Llifai sawl system afon fawr ar draws
yr ardal ac efallai eu bod yn perthyn i’r afonydd a welir heddiw, yn arbennig ,afonydd
Mersi a Dyfrdwy. Defnyddiai’r helwyr a lloffwyr Mesolithig yr afonydd hyn fel coridorau
er mwyn cyrraedd at yr adnoddau arfordirol cyfoethog. Byddai lleoliadau hela ardderchog
i’w cael yn y gwastatiroedd sychach, lle byddai’r bual, y carw coch a’r
iwrch, ynghyd â baedd gwyllt, yn pori, gan yfed dwr croyw o’r pyllau fyddai’n
gartref i adar y dwr a physgod.
|