Astudiaethau Amgylcheddol
Amrywiai planhigion a chreaduriaid y cyfnod Paleolithigyn ôl newidiadau
yn yr hinsawdd, o fforestydd eang yn ystod y cyfnodau mwy cynnes, i dirwedd agored lle nad
oedd ia yn ystod y cyfnodau oer. Cafwyd hyd iesgyrn a dannedd hipopotamws ac eliffant sythgorn
yn Ogof Cefn yn Sir Ddinbych, yn dyddio i’r cyfnod cynhesaf olaf cyn yr Oes Ia ddiweddaraf,
a cheir cofnodion o famothiaid a rhinoserosiaid gwlanog mewn llawer o safleoedd yng Nghymru
gan gynnwys yr ogofeydd yng Nghoegan, Sir Gaerfyrddin, a Phen-y-fai.
Oddi mewn i’r stalactidau a’r stalagmidau sy’n tyfu
mewn ogofeydd calchfaen, ceir cofnod o newidiadau hinsawdd all ddyddio’n ôl
i filoedd o flynyddoedd. Gan nad ydyn nhw ond yn tyfu ar adegau o dywydd cynhesach, pan
fydd dwr yn llifo, gellir adnabod cyfnodau cynnes ac oer wrth fesur eu tyfiant. Yn ogystal,
gellir mesur lefel dirywiad wraniwm yn y dyddodiadau er mwyn ddyddio’r newidiadau
hinsawdd hyn. Doedd dim dyddodi stalagmidaidd yn yr un ogof ararfordir Gwyr adeg claddfa
Pen-y-fai, sy’n arwydd fod hynny wedi digwydd yn ystod cyfnod oerach.
Cymharwyd llawer o’r rhywogaethau o drychfilod addarganfuwyd mewn
samplau amgylcheddol Paleolithig gyda’r rheiny sy’n gyfarwydd i ni heddiw. Dengys
llawer o’r trychfilod a gymerwyd o samplau sy’n dyddio i 29,000 o flynyddoedd
yn ôl eu bod yn rhywogaethau oedd wedi addasu i ddygymod â thywydd oer. Y mwyaf
cyffredin yw’r chwilen bwm Dibetaidd, sydd ond i’w gweld heddiw ar lwyfandir
Tibet, ac sy’n awgrymu adeg o oerfel cynyddol.
|