Merch Baleolithig - 25,000 o flynyddoedd yn ôl

Fy enw ydy Machlud ac rydw i’n byw mewn ogof gyda fy nheulu. Pan fydda i’n sefyll ar ben y tir uchel sydd ar bwys y lle rwy’n byw, galla i edrych allan dros y tiroedd gwastad o dan ein hogof , sy’n ymestyn mor bell ag y galla i weld.

Fy nheulu

Rydw i’n byw gyda fy mam a fy nhad, dau frawd mawr a brawd fy mam. Mae fy mam-gu yn byw yma hefyd gyda’i chwaer. Weithiau bydd brawd fy nhad a’i deulu’n dod yma i aros yn ystod y tymor oer.


Ein cartref

Rydyn ni’n byw mewn ogof yn ystod yr amseroedd oer ar y tir uchel ond pan fydd yr awyr yn fwy cynnes byddwn ni’n symud i dir isel a gwneud cysgodion allan o ganghennau a chrwyn anifeiliaid. Yn ystod yr amseroedd cynnes bydd y dynion yn dechrau dilyn preiddiau o famothiaid blewog ar draws y tiroedd isel.

Hela a dillad newydd

Rydw i’n hapus iawn heddiw oherwydd mae dynion fy nheulu wedi dod yn ôl gyda charw yr oedden nhw wedi’i hela a’i ladd. Pan gyrhaeddodd y carw, bu fy mam a fy mam-gu yn cweryla ynghylch beth ddylem ni ei wneud â fe. Roedd fy mam eisiau’r croen ar gyfer gwneud dillad newydd i mi oherwydd fy mod i wedi tyfu ac mae fy esgidiau’n gwasgu fy nhraed, ond mae fy mam-gu a’i chwaer eisiau defnyddio’r croen fel dillad gwely gan fod yr eira ar ei ffordd. Yn lwcus iawn, fy mam enillodd y ddadl a chyn bo hir bydd gen i ddillad newydd i’w gwisgo. Rydw i’n gwybod y byddan nhw’n dwym iawn lle bydd y ffwr meddal yn cyffwrdd â fy nghroen i a bydd yr ochr allanol, sy’n fwy sgleiniog, yn cadw’r glaw i ffwrdd yn enwedig ar ôl i fy mam rwbio braster oddi ar gorff y carw drosto fe i gyd.

Offer a masnach

Does dim byd yn cael ei wastraffu ar ôl hela oherwydd byddwn ni’n bwyta’r cig ac wedyn yn defnyddio pob asgwrn yn y carw i wneud offer o bob math, gan gynnwys pethau bach iawn fel nodwyddau gwnïo. Mae fy nhad yn gwneud morthwylion allan o gyrn ceirw, a bydd e’n defnyddio’r morthwylion i dorri’r garreg fflint i wneud offer eraill fel bwyelli, crafwyr ac arfau fel gwaywffyn a blaenau saethau. Rydyn ni’n lwcus iawn fod brawd fy nhad a’i deulu yn dod i’n gweld ni bob hyn a hyn oherwydd byddan nhw’n dilyn preiddiau o anifeiliaid lawer yn bellach nag y byddwn ni. Bydd e’n dod ag anrhegion i ni oddi wrth bobl eraill y mae e wedi eu cwrdd ac wedyn byddwn ni’n gallu gwneud rhagor o’r pethau hyn ein hunain. Y tymor oer diwethaf daeth e â mwclis hyfryd i fy mam-gu wedi’i wneud allan o’r pethau caled yna y bydd anifeiliaid yn byw ynddyn nhw yn y dwr mawr sydd heb ddiwedd iddo. Roedd e’n eu galw nhw’n gregyn gwichiaid. Roeddwn i eisiau mwclis hefyd ond dywedodd e y byddai’n rhaid i mi roi rhywbeth iddo fe er mwyn iddo fe allu cyfnewid gyda’r bobl y tro nesaf y byddai e’n eu gweld nhw. Fe wnes i gerfio ffigwr o famoth bach allan o ddarn o gorn carw. Roedd e’n meddwl fod hyn yn glyfar iawn ac fe ofynnodd e i mi wneud mwy ohonyn nhw er mwyn iddo fe allu masnachu gyda’r bobl a chyfnewid am ragor o bethau i ni.

Claddu

Fel arfer bydda i wrth fy modd pan ddaw dynion y teulu yn ôl ar ôl hela, ond dair lleuad yn ôl roeddwn i’n drist iawn oherwydd fe wnaeth mamoth blewog mawr ladd brawd fy mam. Dywedodd y dynion ei fod e’n meddwl bod y mamoth wedi marw pan aeth e’n agos ato fe, ond roedd e’n dal yn fyw ac fe wnaeth e fwrw brawd fy mam yn galed ar ei ben gyda’i ysgithr. Neidiodd y dynion eraill i mewn a lladd y mamoth ond doedden nhw ddim yn gallu achub brawd fy mam, ac fe fuodd e farw.

Rhoddodd fy nheulu ei gorff e yng nghefn yr ogof ac fe roddodd fy mam-gu ei mwclis cregyn gwichiaid o gwmpas ei wddf. Fe wnaeth fy mam orchuddio’i gorff e gyda chlai coch a rhoddodd fy nhad benglog y mamoth oedd wedi’i ladd e ar ei bwys. Fe wnes i wregys trwy gerfio darnau hir a chylchoedd o ysgithrau’r mamoth i’w rhoi o amgylch ei ganol er mwyn iddo fe edrych yn hardd. Rydyn ni i gyd yn gweld ei eisiau’n fawr iawn oherwydd byddai e’n gwneud i ni chwerthin pan fyddai’n dawnsio o gwmpas yr ogof os oedd e’n oer!

Tân a bwyd

Bydd fy mam yn coginio’r cig carw heno ar y tân. Fy hoff ran i ydy’r ymennydd ond mae fy mrodyr yn hoffi’r llygaid wedi’u rhostio ar flaen brigyn. Hyfryd! Ar ôl i bawb fwyta rydyn ni’n gwneud yn siwr na fydd y tân byth yn diffodd oherwydd pe byddai hynny’n digwydd byddai’r llew oedd yn arfer byw yn yr ogof yma’n dod yn ôl. Dydy llewod ddim yn hoffi tân, mae arnyn nhw ofn tân, felly pan fydd y tân yn aros ynghynn byddwn ni’n gwybod ein bod ni’n ddiogel. Unwaith daeth rhinoseros blewog enfawr yn agos iawn at geg ein hogof ni ac fe fuon ni’n taflu cerrig mawr ato fe er mwyn iddo fe fynd i ffwrdd. Roedd cymaint o ofn arna i nes i fy nhad wneud bwyell i mi fy hun. Rydw i’n cadw’r fwyell honno wrth law bob amser rhag ofn i’r rhinoseros blewog ddod yn ôl.

Peintio’r ogof

Weithiau, fyddwn ni ddim yn bwyta cymaint ag y dylem ni a bydd fy mol yn teimlo’n dynn iawn. Pan fydda i’n teimlo fel hyn y cyfan fydda i eisiau fydd i ddynion y teulu ddod o hyd i geffylau a gwartheg mawr i ni gael eu bwyta, ond weithiau fyddan nhw ddim i’w gweld yn un man. Yn ddiweddar fe wnes i dynnu lluniau ohonyn nhw ar wal yr ogof gyda fy mysedd gan ddefnyddio sudd aeron oherwydd roeddwn i’n siwr y byddai gwneud hyn yn helpu i ddod â’r anifeiliaid yn nes atom ni. Fe wnes i dynnu llun o fy nhad a fy mrodyr yn eu hela nhw gyda gwaywffyn ac yn eu dal nhw er mwyn i ni allu cael gwledd am ddyddiau.

Tyfiant newydd

Mae’n rhaid ei fod wedi gweithio oherwydd cyn bo hir roedden ni’n gallu gweld preiddiau mawr o anifeiliaid yn rhedeg ar draws y tiroedd gwastad o dan ein hogof ni. Mae fy mam-gu yn sicr y bydd mwy yn dod cyn bo hir oherwydd maen nhw’n hoff iawn o’r coed a’r llwyni sydd wedi dechrau tyfu o’n cwmpas ni. Mae cnau brown yn tyfu ar rai o’r coed ac yn ogystal â bod yn flasus iawn, mae’r plisgyn caled yn gwneud gleiniau tlws iawn, yn enwedig os byddwch chi’n rhoi clai coch drostyn nhw i’w lliwio nhw. Efallai y gwna i fwclis ohonyn nhw yn barod ar gyfer y tro nesaf y daw fy ewythr heibio ac yna bydd e’n gallu ei fasnachu e am rywbeth arall – rhywbeth pert dim ond i fi!

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English