Bachgen Oes y Cerrig (Neolithig) - 5,500 o flynyddoedd yn ôl
Fy enw i ydy Mellt, oherwydd cefais fy ngeni yn ystod storm fawr. Rydw i’n
byw mewn cwt bach pren gyda fy nheulu, gerllaw’r cerrig gleision. Rydyn ni wedi byw yma am amser maith
ond cyn bo hir byddwn ni’n symud i ffwrdd o’r tir uchel yma i fan lle bydd y grawn yn tyfu’n
well.
Fy nheulu
Rydw i’n byw gyda fy nhad-cu, fy mam a fy nhad, a dwy chwaer fach gafodd eu geni r’un
pryd. Roedd fy mam wedi blino drwy’r amser pan roedden nhw’n fabis bach felly fe wnaeth ei chwaer
hi roi help llaw gyda’r bwydo am ei bod hi newydd gael babi hefyd. Mae gan chwaer fy mam a’i dyn
hi fachgen bach, a merch sydd tua’r un oed â fi. Rydyn ni i gyd yn byw gyda’n gilydd yn yr
un cwt ond, drws nesaf, mae brawd fy nhad newydd adeiladu cwt sydd yr un siâp â’r lleuad lawn.
Mae menyw gyda fe nawr, ond mae ei theulu hi’n byw yn bell iawn i ffwrdd. Fe wnaethon nhw gyfarfod pan
arhosodd ei theulu hi gyda ni ar eu ffordd i’r dwr mawr a phenderfynodd fy modryb newydd aros yma. Does
ganddyn nhw ddim babis eto. Mae hi’n gallu gwneud basgedi yn arbennig o dda ac mae hi wedi dysgu fy mam
a fy chwaer sut i wneud dillad allan o wlân defaid hefyd. Dydw i ddim yn meddwl y bydd fy mam yn rhoi’r
gorau i wisgo ei ffwr, waeth pa mor gynnes ydy’r dillad gwlân.
Ffermio
Mae fy nheulu wedi ffermio fan hyn am dipyn o amser ond dydy’r tymhorau cynnes diweddar
heb fod yn rhai da iawn. Dydy’r cnydau barlys, ceirch a gwenith ddim yn tyfu mor uchel nac yn cynhyrchu
cymaint o had ar gyfer ei droi’n flawd er mwyn i ni gael bara. Yn ystod y tymor oer diwethaf, pan oedd
yr haul yn isel yn yr awyr, a dim llawer o olau dydd, roedd pawb yn llwgu o eisiau bwyd oherwydd bod dim digon
o rawn na chnau wedi cael eu cadw er mwyn i ni eu bwyta. Y rheswm am hyn oedd nad oedd fy mam wedi gallu llenwi
ei llestri pridd gyda chymaint o rawn ag y byddai hi wedi’i hoffi. Byddwn ni’n cadw’r holl
rawn sydd yn sbâr mewn llestri mawr yn ein cwt fel nad ydy’r anifeiliaid gwyllt yn gallu ei ddwyn.
Crochenwaith
Mae fy mam wrth ei bodd yn gwneud llestri o’r clai y bydd hi’n ei ddarganfod ar
lan afonydd. Roedd y llestr diwethaf wnaeth hi mor fawr nes bod un o fy chwiorydd bach wedi cropian i mewn iddo
a doedd hi ddim yn gallu dod allan! Dywedodd fy nhad ei bod hi’n lwcus na wnaeth y llestr gwympo drosodd
ond chwerthin wnaeth fy mam a dweud na allai’r llestr gwympo am ei bod hi wedi rhoi gwaelod gwastad iddo
fe er mwyn aros yn llonydd. Mae fy mam wedi dechrau rhoi ei phatrwm arbennig hi o amgylch ceg y llestri nawr,
ac maen nhw’n edrych yn bert iawn. Mae hi’n dweud fod hyn yn ffordd dda o atal ei chwaer rhag dweud
mai hi biau’r llestri pan nad hi sy’n berchen arnyn nhw.
Dwyn ein bwyd
Bydden ni’n arfer cadw llestri enfawr yn llawn o rawn a bwyd y tu allan i’n cwt
ni ond bu’n rhaid i ni roi’r gorau i wneud hynny pan wnaeth fy nhad-cu ddal teulu arall, oedd yn
teithio heibio i’n cytiau ni yn y nos, yn ceisio dwyn ei had gorau. Mae fy mam hefyd yn gwneud yn siwr
fod ein ci ni’n cysgu tu allan, fel y bydd e’n cyfarth os daw pobl ddieithr yn rhy agos pan fydd
yr haul wedi diflannu o’r awyr.
Amddiffyn ein cartrefi
Dywedodd fy ewythr y byddai’n syniad da pe bai pawb yn dod at ei gilydd i roi ffens
fawr o gwmpas ein cytiau er mwyn stopio’r bobl ddrwg yna pe tasen nhw’n dod yn ôl eto. Bu’n
rhaid i ni dorri llawer o goed er mwyn cael pren ar gyfer y ffens. Doedd dim ots gyda ni wneud hynny oherwydd
fe wnaeth roi mwy o le i ni adael i’r moch a’r gwartheg a’r defaid bori. Mae fy nhad-cu yn
gwneud bwyeill allan o gerrig sy’n finiog iawn, iawn ac mae e hefyd yn gwneud offer cerrig er mwyn palu’r
ddaear yn barod i blannu hadau ar yr adeg pan fydd yr haul yn uwch yn yr awyr. Credwch chi fi, mae’r offeryn
yna’n llawer haws i’w ddefnyddio na brigyn miniog!
Offer fflint
Mae fy nhad-cu yn dda iawn ar wneud offer allan o garreg arbennig sy’n cael ei galw’n
fflint, ac mae e wedi dechrau fy nysgu i sut i wneud hefyd. Y peth cyntaf wnaeth e fy nysgu i’w wneud
oedd rhoi darn trwchus o groen anifail dros fy mhengliniau cyn dechrau torri’r garreg. Fel yna, does dim
byd yn gwastraffu oherwydd bydd y croen anifail yn dal unrhyw dameidiau bach fydd yn cwympo oddi ar y garreg
wrth i mi ei tharo â charreg fach neu ddarn o gorn carw. Mae hefyd yn fy atal i rhag cael anaf os ydw
i’n colli’r garreg ac yn taro fy nghoes yn lle!
Rydyn ni’n gwneud llawer o bethau o fflint, fel pennau saethau, gwaywffyn ac offer i
grafu perfeddion oddi ar grwyn anifeiliaid. Rydyn ni hefyd yn gwneud cerrig torri ar gyfer torri cig.
Masnach
Weithiau bydd rhai o’n teulu ni sy’n byw ymhellach i ffwrdd yn ymweld â
ni a byddwn ni’n cyfnewid pethau gyda nhw. Fe wnaeth fy nhad a mab ei chwaer gyfnewid bwyell finiog iawn
am ffwr meddal arth frown, i fy mam gael gwisgo i gadw’n gynnes. Weithiau daw pobl i’n cytiau ond
dydyn nhw ddim yn perthyn i’n teulu ni, ond byddwn ni’n cyfnewid pethau gyda nhw hefyd. Roedd gen
i saethau fflint oedd wedi’u haddurno â phlu mwyalchen hardd a dywedodd y dyn y byddai e’n
fodlon rhoi mwclis wedi’i wneud o gregyn pinc sgleiniog i mi pe bawn i’n rhoi yr un faint o saethau
i mi ag sydd o fysedd ar fy llaw. Doeddwn i ddim eisiau mwclis, ond roeddwn i eisiau’r cyrn carw oedd
ganddo fe yn ei fag. Dywedodd e y byddai angen i mi roi llawer iawn mwy o saethau iddo fe os oeddwn i eisiau’r
rheiny!
Gadael cartref
Ar ôl y cynhaeaf gwael diwethaf penderfynodd fy nhad-cu y byddai’n well pe bydden
ni’n symud o’r ardal hon, unwaith y bydd yr eira wedi mynd, a mynd yn ôl i’r lle y cafodd
e ei eni. Does neb wedi byw yno ers i’r teulu symud i ffwrdd felly mae e’n dweud y bydd y pridd
yn fwy caredig i ni yno, am ei fod wedi cael cyfle i gysgu.
Tomenni claddu
Mae e hefyd yn dweud y bydd y ddaear yn ein croesawu ni am fod ein cyndeidiau ni yno hefyd.
Fe ddywedodd e wrtha i fod tomen fawr yn agos at y lle y byddwn ni’n byw sy’n cael ei chynnal gan
gerrig mawr, ac yno y mae esgyrn aelodau fy nheulu sydd wedi marw ers amser maith. Dywedodd e y byddai e’n
siwr y bydden nhw’n garedig i ni ac yn gofalu amdanom ni os bydden ni’n rhoi anrhegion iddyn nhw
yn y claddfeydd hyn. Fe wnes i ofyn iddo fe sut roedd ein cyndeidiau ni’n edrych ond roedd e’n dweud
nad ydyn ni ddim yn gallu eu gweld nhw bellach ond eu bod nhw o’n cwmpas ni ymhobman yn barod i helpu.
Er mwyn gwneud yn siwr eu bod nhw’n helpu, mae fy mam yn mynd i roi llestr pridd yn y domen ac mae fy
nhad yn mynd i roi bwyell ddu sgleiniog, y bu’n rhaid iddo’i chyfnewid am lawer o grwyn bleiddiaid.
Rydw i’n meddwl y bydda i’n rhoi un o’r saethau plu mwyalchen yno.
Symud ymlaen
Bydd hi’n cymryd llawer machlud i ni cyn cyrraedd lle fy nghydeidiau a bydd yn rhaid
i ni bacio popeth rydyn ni’n berchen arno fe ar gefn slediau. Mae fy nhad wedi dysgu’r cwn i dynnu’r
llwythi trwm hyn, fydd yn help ond rwy’n gwybod y bydd fy mam yn dal i ddisgwyl i mi gario un o fy chwiorydd
bach ar fy nghefn yr holl ffordd i’n ty newydd ni. Gobeithio na fydd hi’n gwneud pw dros fy nghefn
i gyd!
Yn ôl i'r llinell-amser>>
|