Bachgen modern - 2011

Fy enw i ydy Morgan ac rydw i’n byw ar ystâd fawr o dai ar gyrion Caerdydd.

Fy nheulu

Rydw i’n 11 mlwydd oed ac rydw i’n byw gyda fy mam a fy chwaer fawr. Dydy fy nhad ddim yn byw gyda ni ddim mwy oherwydd cafodd e a fy mam ysgariad pan oeddwn i’n fach. Mae e wedi priodi eto ac mae e’n byw tua dwy filltir i ffwrdd oddi wrthym ni gyda fy llysfam, ei merch hi a fy hanner brawd newydd. Dim ond chwe mis oed ydy e ac mae e’n ciwt iawn, ond nid mor ciwt â fi pan oeddwn i’n fabi, yn ôl fy mam!

Mae fy mam-gu a fy nhad-cu yn byw yn agos iawn atom ni a nhw fydd yn mynd â fi i’r ysgol, sydd tua thair stryd i ffwrdd, yn eu car nhw. Byddan nhw hefyd yn dod i fy nôl i adre os oes angen i fy mam weithio oriau hirach. Mae hi’n gweithio shifftiau mewn archfarchnad fawr, yn llenwi’r silffoedd ac yn gweithio ar y tiliau. Bydd hi hefyd yn gwerthu colur a phersawr o gatalog i’w ffrindiau. Mae angen yr arian arni hi oherwydd mae hi’n dal i dalu am ein hanrhegion Nadolig!

Ein ty ni

Rydw i’n byw mewn ty pâr neis gyda gardd fach. Dydy fy mam ddim yn hoffi garddio felly bydd fy nhad-cu yn dod draw i dorri’r lawnt. Llynedd cafodd fy mam gegin newydd wedi’i gosod ac ystafell haul fach ar gefn y ty. Does gyda ni ddim garej i gadw’r car, dim ond dreif, sy’n iawn oherwydd dim ond llenwi’r garej gyda sothach fydden ni’n ei wneud!

Ysgol

Rydw i’n mynd i’r ysgol leol o ddydd Llun i ddydd Gwener ac rydyn ni’n cael llawer o wyliau. Mae hynny’n iawn, heblaw eu bod nhw wedi gwahardd defnyddio ffonau symudol yn yr ysgol; fe wnaethon nhw hyd yn oed ein gwahardd ni rhag mynd â’n peiriannau bach gêm gyda ni hefyd. Fe ddywedon nhw y dylen ni fod yn chwarae tu allan yn amlach. Roeddwn i’n teimlo fod hyn ddim yn deg felly fe ddywedais i wrth fy mam ac fe aeth hi i’r ysgol i gwyno. Wnaeth hynny ddim gwneud gwahaniaeth, maen nhw’n dal wedi’u gwahardd.

Mae fy chwaer yn mynd i’r ysgol gyfun leol, ac mae hi’n astudio’n galed. Mae hi’n dweud ei bod hi eisiau bod yn gyfreithiwr neu rywbeth pan fydd hi’n fawr. Mae fy nhad yn dweud fy mod i’n dda iawn am chwarae pêl-droed ac y gallwn i fod yn bêl-droediwr enwog pan fydda i’n fawr, yn ennill llawer o arian er mwyn prynu teledu mawr ar gyfer chwarae fy ngêmau cyfrifiadur. Rwy’n meddwl y byddai hynny’n grêt! Gweithio i’r Cyngor y mae fy nhad ac mae ganddo fe ei swyddfa ei hun. Weithiau bydd e’n anfon e-bost ata i er mwyn cadw mewn cysylltiad os nad yw e’n gallu cyrraedd y ffôn.

Dillad

Bydd fy mam yn cael y rhan fwyaf o fy nillad i o’r archfarchnad lle mae hi’n gweithio ond weithiau byddwn ni’n cael bargen yn y farchnad ar ddydd Sul. Fe ges i bâr newydd o esgidiau pêl-droed gan fy mam-gu a fy nhad-cu adeg fy mhen-blwydd. Roedden nhw’n olreit, ond nid yr un enw â rhai fy ffrindiau, felly fe aeth fy mam â nhw yn ôl i’r siop i’w newid nhw, gan fod y daleb ganddi hi. Bydda i’n gwisgo tracwisg, crys-t a threinyrs i fynd i’r ysgol ond pan fydda i’n ymlacio gyda fy ffrindiau bydda i wrth fy modd yn gwisgo dillad ffasiynol iawn. Fe gafodd fy nhad grys pêl-droed Caerdydd i mi ond bydd angen iddo fe gael un arall i mi flwyddyn nesaf, siwr o fod, oherwydd byddan nhw’n newid y cynllun.

Bwyd

Rydw i’n lwcus oherwydd does dim rhaid i mi fynd i siopa am fwyd gyda fy mam gan ei bod hi’n gallu ei wneud cyn dod adre o’r gwaith. Rydw i’n hoffi cael grawnfwyd coco yn y bore, gyda llawer o siwgr a llaeth. Yn yr ysgol rhaid i ni fwyta’n iach felly does dim hawl cael byrgyr, ffish-ffingyrs, pitsa na sglodion i ginio bellach. Unwaith fe benderfynon nhw roi llysiau gyda phopeth ac roedd y tatws pob yn llawn o diwna a salad, felly fe benderfynais i roi’r gorau i fwyta cinio ysgol ac fe ddywedodd fy mam fod hynny’n iawn. Roedd fy mam-gu yn grac iawn a dywedodd hi wrth fy mam am beidio bod mor ddwl gyda fi. Diolch byth, wnaeth fy mam ddim gwrando arni hi ac felly rydw i’n cael brechdanau, creision, bisgedi siocled a diod feddal i ginio. Mae hyn yn well o lawer ac mae fy mam yn dweud fy mod i wedi stopio gwastraffu cymaint o fwyd nawr. Mae fy nhad-cu yn dweud os bydda i’n dal ati i fwyta fel yna, y bydd gen i ddannedd gosod fel ei rai ef. Beth mae e’n ei wybod? Mae e’n siarad rwtsh weithiau!

Teithio

Rydw i’n byw ychydig y tu allan i ddinas fawr iawn ond dydyn ni ddim yn y wlad chwaith. Byddwn ni’n defnyddio’r car i fynd i bob man, er mwyn mynd i’r wlad neu i’r traeth i gael barbeciw, ond rydyn ni hefyd yn mynd yn y car ar siwrneiau byr pan fydden ni’n gallu cerdded. Ond fyddwn ni byth yn gyrru i mewn i’r ddinas. Byddwn ni’n defnyddio’r cynllun Parcio a Theithio. Mae defnyddio’r Parcio a Theithio’n beth da oherwydd mae fy nhad yn dweud bod parcio ynghanol y ddinas yn anodd ac yn ddrud. Os byddwn ni’n mynd ar ein gwyliau, byddwn ni’n mynd i rywle fel Sbaen fel arfer. Dim ond dwy awr i ffwrdd ar yr awyren yw Sbaen, ac mae’r maes awyr yn eithaf agos at ein ty ni.

Helpu’r amgylchedd

Dydw i ddim yn gwybod a fyddwn ni’n mynd ar ein gwyliau eleni oherwydd mae pawb yn dechrau poeni am yr haen oson a chynhesu byd-eang. Maen nhw’n dweud yn yr ysgol ein bod ni’n gorfod ceisio lleihau ein ‘ôl-troed carbon’ neu rywbeth. Mae fy mam yn dweud bod hyn yn golygu defnyddio llai ar y car, felly mae’n bosib y byddwn ni’n gallu mynd i Sbaen wedi’r cyfan, oherwydd dydyn ni ddim yn defnyddio’r car i fynd i fan’na! Oherwydd cynhesu byd-eang, mae ein Cyngor ni wedi penderfynu newid y ffordd y byddwn ni’n cael gwared ar ein sbwriel. Bydd fy mam yn didoli popeth i fagiau gwahanol ar gyfer gwydr, papur, cardfwrdd a gwastraff bwyd. Maen nhw’n mynd i fagiau o liwiau gwahanol ac yn cael eu casglu ar ddiwrnodau gwahanol o flaen ein ty. Rydw i’n meddwl taw peth da ydy ailgylchu gwastraff ond mae fy mam yn cwyno pan fydd yn rhaid iddi hi wneud.

Diwrnod hamdden

Weithiau bydd fy nhad yn mynd â fy chwaer a mi allan am ddiwrnod. Fe aeth e â ni ar y trên i Lundain dros y penwythnos er mwyn i fy chwaer gael mynd i’r siopau. Fe wnaethon ni aros mewn gwesty dros nos ac yna fe aethon ni i weld yr Amgueddfa Brydeinig oherwydd roedd fy chwaer eisiau gweld sut roedd pobl yn byw yn y gorffennol ar gyfer ei phrosiect ysgol, Rydw i’n falch fy mod i’n byw nawr oherwydd dydw i ddim yn meddwl y baswn i’n gallu byw heb fy ngliniadur!

Bywyd haws

Ar ôl bod yn yr Amgueddfa Brydeinig, rydw i wedi sylweddoli gymaint yn haws ydy ein bywydau ni heddiw. Dydw i ddim yn gwybod sut y gallai pobl fyw heb deledu, Mae fy mam-gu yn dweud na fyddai hi’n gallu byw heb ei pheiriant golchi. Rydyn ni’n cael ein bwyd o’r archfarchnad a does dim angen i mi feddwl am gael swydd nes fy mod i’n 16 o leiaf. Os bydda i’n sâl, rydw i’n gallu mynd i weld y meddyg am ddim ac er mod i ddim yn hoff iawn o’r ysgol, byddai’n llawer gwell gen i fod yn yr ysgol na gorfod gweithio mewn pwll glo neu’n mynd i hela cig.

Y dyfodol

Weithiau bydd fy chwaer yn codi ofn arna i wrth ddweud bod yr olew a’r glo yn mynd i ddod i ben rhyw ddiwrnod ac na fyddwn ni’n gallu byw fel hyn wedyn. Fe wnes i ddweud wrthi hi y byddwn ni’n siwr o feddwl am ffordd arall o greu ynni, gyda’r gwynt neu’r haul yn fwy na thebyg. Roedd hi’n cytuno gyda fi ond fe ddywedodd hi y byddai hi’n dechrau torri’n ôl ar faint o drydan roedd hi’n ei ddefnyddio. Yn lwcus i fi, fe wnaeth hi benderfynu cael gwared ar ei theledu o’i hystafell wely, ac mae e gen i nawr!

 

 

Yn ôl i'r llinell-amser>>

 

English