Bachgen yr Oes Efydd - 4,000 o flynyddoedd yn ôl
Derw ydy fy enw i, ar ôl y goeden dderwen, ac ar hyn o bryd rydw i’n
byw mewn cwt bach crwn gyda tho brwyn, yn agos iawn at y pwll copr lle mae pawb yn fy nheulu’n gweithio.
Rydyn ni’n lwcus fod ffermydd gerllaw sy’n gallu rhoi bwyd i ni.
Fy nheulu
Rydw i’n byw gyda fy mam, fy nhad, fy chwaer fawr a fy nhad-cu, sef tad fy nhad.
Bydda i wrth fy modd yn gwrando ar fy nhad yn adrodd hanes ein teulu. Daethom ni yma amser
maith yn ôl, i’r wlad hon sydd ar siâp mwydyn neu sarff môr yn ymestyn i ganol y môr.
Mae fy nhad yn cofio bod yn fachgen bach, a chael ei gario yma gan ei rieni. Weithiau bydden nhw’n teithio
mewn cwch ond fel arfer bydden nhw’n cerdded a cherdded a cherdded ar hyd llawer o dymhorau gwahanol.
Mae ein teulu ni wastad wedi gwybod cyfrinach troi cerrig yn fetel. Yn ôl fy nhad-cu, cafodd ein cyndeidiau
eu dysgu i wneud hyn gan dduwiau Annwfn a dyna pam rydyn ni’n gwybod sut mae cymysgu’r copr gwyrdd
gyda thamaid bach o dun i wneud efydd cryf a gwerthfawr.
Offer a masnach
Rydyn ni’n gwneud cymaint o efydd erbyn hyn nes bod masnachwyr yn dod o ffordd bell
i brynu’r pethau y byddwn ni’n eu gwneud. Pan wnaeth fy nhad-cu ddechrau gwneud pethau hardd allan
o efydd dywedodd ei fod wedi gwneud llawer o fwyelli i bobl oedd yn ymsefydlu fan hyn yn nes at y môr,
ac yn adeiladu tai newydd. Roedd angen bwyelli arnyn nhw i dorri coed er mwyn clirio lle ar gyfer eu cytiau
newydd. Mae hyn yn newyddion da i ni oherwydd bydd angen llawer o goed tân ar gyfer eu llosgi i wneud
efydd. Mae’n debyg nad ydyn ni’n masnachu cymaint o fwyelli nawr felly mae fy nhad a fy nhad-cu
yn gwneud mwy o gyllyll hir a byr a thariannau hefyd, oherwydd mae llawer o bobl eisiau amddiffyn eu hunain
yn erbyn pobl ddrwg sydd eisiau dwyn oddi arnyn nhw. Bydd fy mam yn cadw cyllell fach yn ei gwregys bob amser.
Mae hi’n dweud na allwch chi fod yn rhy ofalus y dyddiau hyn. Rydyn ni hefyd yn gwneud raseli sy’n
ddefnyddiol ar gyfer dynion sydd eisiau crafu’r blew oddi ar eu hwynebau.
Gorlenwi
Oherwydd bod mwy a mwy o bobl yn dod i fyw yn y tiroedd isel mae hi wedi mynd yn llawn iawn
yma, ac maen nhw’n dechrau cecru ac ymladd cryn dipyn dros y tir. Mae fy nhad yn dweud y dylen ni fod
yn gwneud mwy o flaenau saethau a chyllyll miniog sy’n gallu cael eu defnyddio mewn brwydrau ond mae fy
nhad-cu yn dweud na fydd yr ymladdwyr y mae e’n eu hadnabod byth yn defnyddio blaenau saethau efydd am
eu bod nhw’n rhy hoff o’r rhai fflint sydd ganddyn nhw!
Cloddio copr
Rydw i wedi bod yn cloddio copr ers fy mod i’n gallu siarad. Mae’r ogofau tanddaearol
mor fawr a thywyll weithiau nes bod angen i ni adael cliwiau i ni ein hunain ger pob tro neu groesffordd, fel
pentwr o gerrig, neu mae’n bosib na fydden ni byth yn dod o hyd i’r ffordd allan o’r ddrysfa
o dwneli a llwybrau! Fe fyddwn ni’n cynnau ffaglau mawr wedi’u gwneud o frwyn wedi’u trwytho
mewn braster anifeiliaid, ond pan fyddan nhw’n diffodd, weithiau bydd angen i ni deimlo ein ffordd yn
ôl i’r wyneb.
Pan es i dan ddaear am y tro cyntaf, rhoddodd fy nhad gorn carw a min arno i mi a byddai e’n
fy ngwthio i mewn i’r tyllau bach i dorri’r garreg gopr werdd. Nawr, gan fy mod i’n rhy fawr
i fynd i’r tyllau bach yma, mae’r teulu’n disgwyl i mi helpu gyda gwaith yr oedolion.
Cracio’r cerrig
Os ydy’r graig yn rhy galed i’w thorri gyda cherrig morthwyl, rydw i wedi dysgu
mai’r ffordd orau o gael y garreg gopr werdd allan yw casglu pentwr mawr iawn o bren a’i wthio yn
erbyn wyneb y graig a’i roi ar dân nes bod y graig galed yn mynd yn dwym iawn, iawn. Unwaith y bydd
y tân yn diffodd, rydych chi’n taflu llawer iawn o ddwr oer ar wyneb y graig, a bydd y graig dwym
yn cracio a gwneud swn ffrïo, sy’n dod â’r copr allan yn llawer iawn haws.
Bydd fy mam a’i ffrindiau wedyn yn casglu’r cerrig mwyn copr gwyrdd mewn basgedi
mawr ac yn eu cario nhw i’r wyneb. Rydw i’n hoffi helpu fy mam i falu’r garreg yn bowdwr gyda
charreg fawr, gron mewn powlen garreg galed, ac yna golchi’r mwyn gyda dwr.
Gwneud efydd
Unwaith y byddwn ni wedi casglu digon o bowdwr copr gwyrdd, dyna pryd y bydd fy nhad-cu yn
dangos ei bwer hud a lledrith trwy droi’r powdwr yn fetel caled.
Gan fy mod i yr un mor dal â fy nhad-cu erbyn hyn, mae e wedi dechrau dysgu fi sut i
wneud odyn glai fydd yn troi’r powdwr copr gwyrdd yn hylif twym. Bydd fy mrodyr a minnau’n mynd
yn ein tro i chwythu’r fegin er mwyn cadw’r tân yn yr odyn ynghynn fel y gall aros yn wynias
am amser maith er mwyn toddi’r powdwr gwyrdd. Unwaith y bydd e wedi toddi, bydd fy nhad-cu yn ychwanegu
ychydig bach o dun, sy’n cael ei brynu oddi wrth fasnachwyr o’r de, i’r hylif metel, ac yna
pan fydd y cyfan wedi cymysgu bydd e’n ei arllwys i mewn i fowld o garreg neu glai, allai fod yn siâp
llafn cyllell, neu flaen saeth neu gleddyf hir.
Nid dim ond gydag efydd y bydd e’n gwneud yr hud a lledrith yma; weithiau bydd e’n
gweithio gyda metel o’r enw aur, er mwyn gwneud broitsys a chwpanau arbennig, mor arbennig mai dim ond
arweinydd y llwyth lleol sy’n cael yfed ohonynt. Unwaith, fe wnaeth e goler aur ar gyfer gwraig arweinydd
y llwyth. Yn anffodus, buodd hi farw yn fuan wedyn, felly dydyn ni ddim yn gallu gweld y goler ddim mwy am ei
fod wedi cael ei chladdu gyda hi.
Crefydd a chladdu
Digwyddodd gorymdaith fawr pan fuodd hi farw. Fe wnaeth pawb ddilyn cert oedd yn cario ei
chorff hi i’w siambr gladdu hi ar ochr y bryn. Roedd rhan o’r ffordd i’r siambr ar hyd tir
gwlyb a chorsiog ond yn ffodus, roedd rhodfa bren wedi cael ei hadeiladu felly gallai pawb ddilyn y gert heb
fynd yn sownd yn y mwd.
Yn y nos cafodd pawb barti mawr yn y cylch cerrig pan wnaethon ni ofyn i’r duwiau fynd
â gwraig arweinydd y llwyth i’r Annwfn hyfryd lle byddai hi’n iach eto. Cafodd y gyllell efydd
hardd y byddai hi’n ei defnyddio i dorri cig ei rhoi yn y siambr gladdu hefyd, a fy nhad-cu oedd wedi
gwneud y gyllell honno hefyd. Roedden ni’n falch iawn ei bod hi’n gwisgo’r goler aur yr oedd
e wedi’i gwneud o un lwmp bach iawn o aur. Roedd llawer o gig rhost i’w fwyta ac fe yfon ni ddiod
wedi’i gwneud o fêl, wnaeth wneud i fy mam chwerthin pan oedd hi’n yfed gormod ohono. Y cyfan
wnaeth e i mi oedd gwneud i mi fod eisiau cysgu! Canwyd utgyrn efydd ac roedd llawer o ddawnsio, ond unwaith
y cafodd yr haul ei gwrso i ffwrdd drwy’r awyr gan y lleuad a diflannu, safodd pawb gyda’i gilydd
mewn cylch ac fe wnaeth dyn doeth y llwyth aberthu gafr er mwyn i’r duwiau fod yn falch o weld gwraig
arweinydd y llwyth pan fyddai hi’n cyrraedd Annwfn.
Coginio
Y peth mwyaf y gofynnodd unrhyw un i fy nhad-cu ei wneud o efydd oedd crochan goginio fyddai’n
ddigon mawr i wneud cawl ar gyfer pawb yn y llwyth. Mae gan fy mam grochan sydd yn gallu hongian uwchben y tân
yn ein cwt ni ond fel arfer bydd hi’n coginio mewn cwt arall ble mae twll mawr sgwâr yn y ddaear
gyda phren yn leinio’r ymylon. Bydd hi’n llenwi’r twll â dwr ac yna bydd hi’n
cynhesu pentwr mawr o gerrig ar y tân a’u rhoi nhw yn y dwr i’w dwymo. Bydd fy chwaer yn lapio’r
cig mewn gwellt er mwyn iddo arnofio pan fydd hi’n ei roi yn y dwr twym i goginio.
Symud ymlaen
Pan fyddwn ni wedi tynnu’r holl garreg gopr o’r ogofau fan hyn, mae fy nhad yn
dweud y byddwn ni’n symud i rywle arall i weithio ac edrych am garreg newydd y mae e wedi clywed amdani
fydd yn gallu cael ei throi’n fetel. Rwy’n meddwl mai haearn neu rywbeth tebyg yw ei enw.
Yn ôl i'r llinell-amser>>
|