|
Safle Burry Holms wrthi’n cael ei gloddio
(Llun Amgueddfa Cymru)
|
|
Grwp o naddion fflint Mesolithig
cynnar a gafwyd o gloddfeydd yn Burry Holms
(Llun Amgueddfa Cymru) |
|
|
Er nad oes un enghraifft yng Nghymru, cofnodwyd nifer fechan o dai Mesolithig mewn mannau
eraill yn Ynysoedd Prydain, megis yn Howick, Northumberland, lle cafwyd hyd i olion cwt Mesolithig. Awgryma
dyddio radiocarbon fod y cwt wedi’i adeiladu ychydig dros 9,700 o flynyddoedd yn ôl. Cafwyd hyd
i dros 18,000 o ddarnau o fflint yn ystod y cloddio, ynghyd ag esgyrn llosg anifeiliaid, plisg llosg cnaucyll,
ocr coch ac ambell ddarn o gregyn. Dengys y darluniau hyn gloddio seiliau crwn y ty ar ymyl clogwyn ac ar
y dde, ail-grêad modern o sut y gallai’r cwt fod wedi edrych.
(Lluniau Clive Waddington)
|
|
Burry Holms, Penrhyn Gwyr
Heddiw, mae Burry Holms yn ynys ar lanw a leolir ar ben gogleddol Penrhyn
Gwyr, ond yn ystod y Mesolithig, byddai’n fryn amlwg yn edrych dros wastatir Afon
Hafren. O ganlyniad i gloddio diweddar gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru, cafwyd hyd i ystod
o ddarganfyddiadau Mesolithig cynnar, gan gynnwys blaenau fflint a llifiau bach. Yn sownd
yn un o’r blaenau fflint roedd olion tar o risgl bedwen, resin gludiog a ddefnyddid
unwaith fel glud. Mae hyn yn awgrymu fod y glud hwn wedi helpu i ludo’r blaen fflint
wrth waywffon, arfer y cafwyd tystiolaeth ohono mewn mannau eraill yn Ewrop ond nid cyn
hyn yng Nghymru.
Llun o’r awyr o Ynys Burry Holms ar ben gogleddol Penrhyn Gwyr
(Llun © Hawlfraint y Goron: CBHC)
|
|