Cartref >

Dyddiadur Cloddio Castell Penfro 2018

CYFLWYNIAD

Trwy gyllid a ddarperir gan Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll a chefnogaeth Ymddiriedolaeth Castell Penfro bwriedir cloddio dau ffos treial o fewn Ward Allanol Castell Penfro. Bydd y ffosydd yn targedu safle adeilad posibl o'r canoloesoedd diweddar a gafodd ei ddarganfod yn y 1930au, ond heb ei gofnodi.

Mae amlinelliad yr adeilad yn ymddangos yn aml fel marciau sych yn y gwair. Mae cynllun llawr yr adeilad yn awgrymu y gallai fod yn gartref-neuadd ar wahân gydag adain ddwbl o'r cyfnod canoloesol hwyr - ac a allai hyn felly fod yn fan geni Henry VII? Beth gall y safle ddweud wrthym am ddefnydd ward allanol Castell Penfro yn y cyfnod canoloesol diweddar? Sut effeithiodd gwaith y 1930au yr adeilad, a wnaethynt gael gwared y waliau a lloriau?

Gobeithir gall y safle ddarparu atebion i rhain a llawer mwy o gwestiynau. Bydd y gwybodaeth yn bwydo i mewn i ymchwil barhaus Neil Ludlow, arbenigwr cestyll sy'n partnerio Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed ar y prosiect. Mae'r gwaith ar y safle yn cael ei wneud gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed gyda 10 o wirfoddolwyr pob dydd, sy'n cynnwys cymysgedd o'r rhai sydd â llawer o brofiad a'r rhai sydd â phrofiad ychydig neu ddim o gwbl.

Bydd Ffos 1, sydd yn mesur 10m x 3m yn targedu wal allanol ochr ddeheuol yr adeilad a phorth neu carthbwll sydd yn sticio allan ohoni. Bydd Ffos 2 yn mesur 5m x 3m ac yn targedu wal allanol aden gogleddol yr adeilad.

 

Dydd 1

Yn dilyn cyflwyniad ddi-ddiwedd i'r castell gan Jim, y gwaith doniol o adeiladu pabell a gosod rhwystrau o gwmpas ardal yr archwiliad, o'r diwedd fe wnaeth y tîm ddechrau cloddio'r ffosydd gan llaw.

Tynnwyd tyweirch o'r ddwy ffos ac roedd wal bosibl yn weladwy bron ar unwaith yn Ffos 1. Yn Ffos 2 roedd hen arwyneb y llwybr trwy dir y castell, gyda awgrymiad o'r wal allanol yn bosibl yn dechrau dangos isod. Mae llawer o ddarganfyddiadau eisoes wedi'u hadennill o'r ffosydd, gan gynnwys esgyrn, crochenwaith, brics a theils yn bennaf o'r 20fed ganrif cynnar ond gyda peth deunydd ôl-ganoloesol a chanoloesol hwyr hefyd. Dechreuad da!



Peter, Rob, Alex, Ellie, Hayley a Jon yn dechrau torri'r tyweirch yn Ffos 1


Trosolwg o'r ardal cloddio (yn ystod egwyl te y bore)



Geraint a Peter yn cael gwared o'r tywyrch, gyda Dan o Gwmni Teledu Showboat yn ffilmio'r gwaith



Mae'r tîm yn gwneud gwaith ysgafn o gael gwared o'r tyweirch yn Ffos 2


Dydd 2

Cynnydd da iawn heddiw. Yn Ffos 1 cadarnhawyd y wal yr oeddem wedi'i weld ddoe ac fe ddatgelwyd ail wal hyd yn oed yn well i'r dwyrain. Mae'r waliau'n ymddangos yn rhy agos at eu gilydd i fod yn gysylltiedig â'r waliau a welir yn y marciau sych yn a gwair. Datgelwyd mannau mawr eraill o gylchoedd cerrig gyda morter i'r gorllewin yn nodi waliau pellach eto. Mae wal allanol yr adeilad yr oeddem yn chwilio amdano yn Ffos 2 newydd ddechrau fod yn weladwy hefyd. Rydym eisoes wedi casglu llawer o gregen wystrys o'r safle yn ogystal â mwy o grochenwaith ac esgyrn. Fe ymwelodd aelodau Ymddiriedolaeth Castell Penfro heddiw a chawsom lawer o ddiddordeb gan ymwelwyr i'r castell.



Hywel, Alex a Roger yn datgelu'r wal yn Ffos 2 (dim un ohonynt mewn lle i edrych ar y camera!)


Hayley, Nik a Jeremy yn cael gwared o'r olion olaf o uwchbridd o Ffos 1 ac yn datguddio wal ac ardaloedd mawr o forter


Golwg ar draws Ffos 1 gyda dwy wal glir a rhagor o ardaloedd o gerrig yn weladwy, gyda Gorthwr Fawr y castell a'r Ward Mewnol y tu ôl

 

Dydd 3

Mae holl led y wal yn Ffos 2 yn awr yn weladwy ar ei ben gorllewinol. Mae ychydig dros 1m o led, sy'n ehangach nag oeddem yn disgwyl, yn awgrymu strwythur sylweddol. Mae gennym rhagor o waith ddatgelu ei led llawn ar draws y ffos yn gyfan gan mae'n ymddangos ei bod wedi cael ei wastadu ychydig dros y blynyddoedd.

Yn Ffos 1, mae'n debyg fod y ddau wal a leolir yn agos at ei gilydd bellach yn garthbwll yr oeddem yn ei edrych amdano ar ochr orllewinol siambr fach, ac mae wal ddwyreiniol ohono bellach wedi'i ddatgelu. Mae'r rhain yn agos iawn i un o'r ddau ffotograff a dynnwyd o'r safle yn y 1931. Mae ardaloedd sylweddol o waith maen hefyd wedi dod i'r amlwg i'r gorllewin o'r carthbwll posibl, unwaith eto fel y dangosir yn y llun o 1931, ond mae disgrifio beth y maent yn cynrychioli yn mynd i gymeryd lawer mwy o waith.



Ffos 2 yn dangos wal Gorllewinol yr adeilad


Golwg ar draws olion yr adeilad yn 1931 yn ystod y gwaith gan Uchgapten Ivor Phillips


Yr un olygfa - llun wedi ei dynnu heddiw, sef 05/09/2018


Golwg yr ardal cloddio o'r Gorthwr Fawr

 

Dydd 4

Yn wahanol i'r haul disglair dros y ddau ddiwrnod diwethaf, mae Dydd 4 wedi bod yn gymylog iawn, yn oer gyda glaw mân. Nid oeddem yn gadael i'r tywydd wanhau ein ysbryd ac roedd y cynnydd yn dda, gyda mwy o ôl-lenwi yn cael ei waredi o'r ddwy ffos i ddatgelu waliau'r strwythur sydd wedi goroesi. Roeddem yn falch iawn o gael ymweliad gan Uchgapten Ramsden y prynhawn yma, ŵyr Uchgapten Phillips a adferodd y castell yn y 1930au.


Hazel a Nigel yn datgelu yr ochr ddeheuol o'r wal fawr yn Ffos 2


A Roger hefyd - yn dal i wenu, er bod ganddo ardal anodd iawn i ddelio gyda


Trosolwg Ffos 1 o dwr Henry VII ar ddiwedd y dydd

 

Dydd 5

Cynnydd da iawn yn cael gwared ar bron holl gweddill yr ôl-lenwi yn Ffos 1 i ddatgelu haen rwbel cwympo - sy'n cyn-dyddio cloddiadau'r 1930au. Mae Neil Ludlow, arbenigwr cestyll, hefyd wedi bod ar y safle y prynhawn yma. Efallai bod y casgliad mawr o waith maen a ddatgelir yn nawr yn dechrau rhoi ei gyfrinachau i fyny. Mae yna awgrymiad posibl o risiau crwm - ond gall ein barn ar hynny newid. Mae uchafbwynt y wal fawr yn Ffos 2 yn awr wedi ei ddatgelu yn gyflawn. Mae haenau cwympo, unwaith eto cyn-ddyddio cloddiadau'r 1930au yn bresennol gyda'r adeilad. Byddwn yn gwneud peth cloddio sampl cyfyngedig o'r dyddodion hyn dros y dyddiau nesaf ar ôl i ni gynhyrchu cofnod manwl o'r dyddodion rydym wedi'u hamlygu yn y ffosydd - er gall y cynnydd fod yn araf iawn yfory oherwydd y rhagolygon glaw. Mae Neil Ludlow hefyd wedi bod ar y safle y prynhawn yma ac roedd ef yn falch iawn o'n cynnydd a goroesiad yr olion.



Hazel, Nigel a Hywel yn dategelu maint llawn y wal fawr yn Ffos 2


Ffos 2 ar ddiwedd Dydd 5


Golygfa wahanol o'r safle o ben Tŵr Northgate ar ddiwedd Diwrnod 5 (nodwch y lloches newydd a godwyd yn barod am y glaw ar gyfer yfory)

Dydd 6

Roedd ein diwrnod cyntaf o dywydd gwael yn golygu dechrau araf iawn i'r bore. Treuliodd Rita, Hazel, Helen a Nigel y diwrnod yn trefnu'r darganfyddiadau - golchi a didoli'r darganfyddiadau ar gyfer eu bagio. Tynnodd Gaynor, Joan, Rob a Jude gynlluniau Ffosydd 1 a 2. Erbyn y prynhawn fe wnaeth y tywydd wella rhywfaint a fe dechreuon gael gwared o'r haenau adeilad cwymp tu fewn y ffosydd, gan rhoi blas cyntaf i Charlie (sy'n amenyddgar iawn) o archeoleg tywydd gwlyb. Roedd fy nghydweithwyr, Alice a Felicity wrth law heddiw am ddiwrnod o allgymorth i ddangos i ymwelwyr i'r castell, cymysg o ddarganfyddiadau yr ydym wedi eu hadennill o'r safle a rhai o'n casgliad trin. Roedd y cynnydd cyffredinol yn ôl pob tebyg yn llawer gwell na roeddem wedi disgwyl.


Jude, Rob a Charlie yn Ffos 2


Joan yn tynnu cynllun o Ffos 1, tra bod Gaynor a Nigel yn cael gwared o'r olion olaf o ôl-lenwi modern

Dydd 7

Fe ymwelodd aelodau o'r Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll sy'n ariannu'r ymchwiliad â'r safle heddiw i weld y cynnydd a chael taith o'r safle a'r Castell. Rydym yn gobeithio eu bod yn bles ar y gwaith mae ein gwirfoddolwyr wedi gwneud dros yr wythnos ddiwethaf ac ansawdd yr archeoleg sydd wedi ei ddatgelu. Mae llawer o gwestiynau wedi'u codi a fydd yn gymorth yn ein dehongliad o'r archeoleg. Parhaodd y gwaith yn Ffos 1 gan ddatgelu ardal o faen gwely yn yr ystafell fechan bosibl yn y pen dwyreiniol. Cawsom wad yr haen rwbel a morter ym mhen gorllewinol y ffos i ddatgelu mwy o elfennau o waith cerrig sy'n gysylltiedig â'r ardal mawr o waith maen. Efallai bod ein grisiau troellog yn drefniant symlach o risiau, ond mae'n amlwg bod mwy i'w ddatgelu i benderfynu beth mae'n cynrychioli (gan gynnwys llinell wal arall bosibl). Mae deunydd cwymp wedi cael ei dynnu oddiwrth Ffos 2 i ddatgelu lledaeniad morter a llechi, a allai fod yn do cwympo o fewn y strwythur. Mae awgrymiadau o ardal cobls ar wyneb allanol y wal, newydd ddechrau cael eu hadnabod a byddynt yn cael eu hymchwilio'n bellach yn ystod y dyddiau nesaf.



Grisiau tu fewn yr ardal mawr o haenwaith yn Ffos 1


Yr ardal ymchwil ar ddiwedd Dydd 7 gyda Jeremy Cunnington o'r Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll a Neil Ludlow

 

Dydd 8

Dechrau ein hail wythnos. Cwblhawyd y gwaith cloddio yn yr ystafell fach yn Ffos 1 gan Gaynor a Joan, gan ddatgelu mwy o frig mawr o faen calch yn ei sylfaen. Bu Andrew, Roger, Ruth a Beth yn trowelio'n ofalus yng nghanol Ffos 1, i benderfynu a oedd grisiau pellach yn bresennol yn ein màs mawr o waith maen fel y dangosir yn yr ail lun o 1931. Cafodd Peter a Helen wared o'r haenau ôl-lenwi ar wyneb allanol y wal fawr yn Ffos 1 i ddatgelu wyneb coblog posibl. Cawsom ganiatâd gan Cadw i ymestyn ein ffosydd ychydig ac fe ddechreuwyd hyn yn y prynhawn gan Joan a Gaynor yn Ffos 1 ac mae'n debyg y byddwn yn ymestyn Trench 2 yfory, i ddatgelu dychweliad y wal fawr. Daeth disgyblion o Ysgol Gynradd y Santes Fair yn Noc Penfro i ymweld â'r cloddiad a chawsant gyfle i weld rhai o'r darganfyddiadau.



Yr ail lun o 1931 yn bosibl yn dangos yr archaeoleg a ddatgelwyd yn Ffos 1 o'r gogledd


Mwy neu lai yr un olygfa (yn bosib) ar 10/09/2018


Pennau i lawr yn trowelio'n ofalus (Andrew, Beth, Roger a Ruth)

 

Dydd 9

Fe wnaethom ymestyn Ffos 2 i ddatgelu dychweliad y mur mawr yng nghornel gogledd-orllewinol yr adeilad. Mae eto yn ymddangos i fod yn wal sylweddol, gan awgrymu adeilad tal. Parhawyd hefyd yr estyniad yn Ffos 1, ond ni welwyd barhad o unrhyw waliau. Fodd bynnag, fe ddatgelwyd tomen fawr o sbwriel yn cynnwys llawer iawn o lechi to, cregyn wystrys, esgyrn ac ychydig iawn o ddarnau o deils gwydrog (yn bosibl teils crib opwynt uchaf y to). Ar ddiwedd y dydd fe wnes i ddechrau gloddio'r cartbwll posibl i bennu dyfnder a natur ei gynnwys! Er na ellid cadarnhau bod y deunydd yn bendant yn gynnwys arferol carthbwll, mae'r adneuon wedi'u selio'n dda, yn debygol iawn o fod yn gyfoes â'r strwythur ac yn cynnwys deunydd gwastraff, gyda llawer o esgyrn a chregyn wystrys. Mae samplau yn cael eu cymryd ar gyfer dadansoddiad amgylcheddol manwl o'r adneuon a gobeithir nodi deunydd y gellir ei ddyddio. Ymwelodd Ysgol Priordy Monkton â'r safle y prynhawn yma.


Ruth, Caralinda ac Andrew yn Ffos 1


Roger a Rob (neu Popeye?) yn datgelu dychweliad y wal yn Ffos 2


Helen yn glanhau'r wyneb goblog tu allan yr adeilad yn Ffos 2

 

Dydd 10

Cafodd dychweliad y wal yn Ffos 2 ei ddatgelu yn llwyr gan Roger, Rob a Peter. Gorffennodd Helen y dasg ddi-ddiolch o lanhau'r wyneb coblog tu allan y wal. Erbyn diwedd y dydd roedd y Ffos wedi'i gynllunio a'i lefelio, yn aros am arolwg a lluniau traws-adran dros y ddau ddiwrnod nesaf. Yn Ffos 1, mae'n ymddangos bod Beth a Ruth wedi datgelu llawr garreg garw garw nesaf i'r grisiau. Mae'r llawr yn stopio ar drothwy drws posibl sy'n croesi'r ffos, gyda gris i lawr i llawr posibl arall a gafodd ei ddatgelu'n rhannol gan Andrew. Gorffennodd Fawaaz a Hugh i gymryd estyniad dwyreiniol y ffos i lawr i'r lefel cywir. Dechreuodd Hywel gloddio rhan o'r carthbwll posibl, sy'n cael ei samplo ar gyfer dadansoddiad amgylcheddol. Parhaodd Rita i brosesu'r nifer cynyddol o ddarganfyddiadau a chynorthwyodd Caralinda drwy dweud wrth yr ymwelwyr am y cloddiadau. Ymwelodd dau ddosbarth o ysgol Golden Grove ym Mhenfro yn ystod y bore a'r prynhawn. Daeth Newyddion ITV Cymru i'r safle peth cyntaf y bore i gyfweld aelodau'r tîm a ffilmio'r cloddiadau.

 


Mwynhau'r heulwen bendigedig yn ystod amser te


Golygfa o'r ardal cloddio ar ddiwedd Diwrnod 10 o Dŵr Henry VII

 

Dydd 11

Heddiw, fe dechreuom recordio, gyda Hubert yn ymuno â ni i wneud yr arolwg o'r safle. Cofnodwyd Ffos 2 gan Helen, Peter, Rob a Roger. Parhaodd Hywel i gloddio'r cathbwll posibl. Fe orffennodd Hazel gloddiad o bwll prawf bach yn Ffos 1 a ddengys ail lawr garreg bosibl. Glanhaodd Georgina a Huw y gwaith maen ym mhen gorllewinol y ffos cyn dechrau lluniau traws-adran. Ar pen arall y ffos, fe orffennodd Chris a Ellie glanhau cyn dechrau lluniau traws-adran hefyd. Mae'r ardal hon yn cynnwys cymysgedd go iawn o ddeunydd, gyda chrochenwaith yn dyddio trwy'r cyfnod canoloesol a'r cyfnod ôl-canoloesol yn ogystal â thri darn o grochenwaith Rhufeinig hefyd! Cawsom ymweliadau o Ysgol Lamphey yn y bore ac Ysgol Penrhyn yn y prynhawn.

 


Helen, Rob a Peter yn recordio yn Ffos 2


Georgina a Huw yn recordio pen gorllewinol y Ffos

Dydd 12

Gwariwyd y diwrnod yn cofnodi a thynnu rhagor o luniau yn y ddwy ffos wrth i'r gwaith ddod i ben cyn i ni ôl-lenwi. Mae'r gwaith hwn ychydig yn arafach a diolchaf y gwirfoddolwyr am eu hamynedd gan fod na ychydig o bwyntiau tawel yn ystod y dydd. Cawsom ddau ymweliad arall oddiwrth dosbarthiadau o Ysgol Golden Grove ym Mhenfro. Rwyn deall fod y safle wedi cael ei ddangos ar Newyddion ITV Cymru neithiwr, er nad oedd yr un ohonom wedi gallu ei wylio. Efallai y byddwn yn dodi dolen i'r eitem ar ein tudalen Facebook ar gyfer y rhai sydd am ei weld.

 


Andrew, Huw a Rob yn recordio lefelau


Hazel a Hubert yn arolygu llinellau'r wal i gwblhau ein harolwg topograffig o'r castell

 

Dydd 13

Fe wnaethom orffen y recordio cyn dechrau ôl-lenwi yn y prynhawn. Ond cyn hynny, fe wnaethom stopio'r gwaith i wylio'r Bataliwn 1af Brenhinol Cymraeg yn cael rhyddid Penfro. Roedd Ffos 2 wedi ei hôl-lenwi bron yn gyfangwbl erbyn diwedd y dydd. Diweddariad byr ar gyfer y diwrnod - gan fy mod wedi cyrraedd adref yn hwyr oherwydd digwyddiad anffodus gyda clo wedi'i dorri, gan olygu fy mhod wedi fy ngloi yn y castell am beth amser!



Maxine a John o Gwmni Teledu Showboat sydd wedi ffilmio'r holl gloddiad


Golygfa olaf o'r ffosydd a'r tîm allgymorth yn difyrru'r ymwelwyr


Y tîm, yn ymlacio cyn i'r ôl-lenwi ddechrau 


Ac felly, mae'r ôl-lenwi yn cychwyn

Dydd 14

Y diwrnod olaf. Gellir reportio'r cynnydd fel - ôl-lenwi! Erbyn diwedd y dydd, roedd y ddwy ffos wedi cael eu ôl-lenwi a'u hailweirio. Diolch yn fawr iawn i Adrian, Andrew, Geraint, Hywel, Jon, Peter, Raymond a Rob, a Beth hefyd am gynnig ei help. Ac wrth gwrs, byddem yn dal i fod yno nawr heblaw am gymorth Jason o Castell Penfro.

 


Y tîm ôl-lenwi - Peter, Jon, Rob, Hywel, Geraint, Adrian, Andrew a Raymond


Y ffosydd wedi eu hail-lenwi ar ddiwedd y dydd

 

CRYNODEB

Nod gwerthusiad 2018 oedd i ddysgu mwy am y strwythur carreg annibynnol yma, i bennu ei ddyddiad, ei bwrpas a'i gyflwr ar ôl y gwaith o'r 1930au. Mae ffurf cynllun yr adeilad yng Nghastell Penfro yn awgrymu bod y strwythur yn dŷ neuadd, ac mae'r dyddiad canoloesol hwyr yn cyd-fynd â'r math hwn o adeilad. Cloddwyd dwy ffos ar draws gweddillion yr adeilad: Safle Ffos 1 i groesi ardal y carthbwll posibl a choridor tu fewn yr adeilad, a gredid iddo gael ei ddatgelu yn y 1930au; Ffos 2 yn targedu cornel gogledd-orllewinol y strwythur.

Gellir fitio'r olion strwythurol sydd i'w gweld yn Ffos 1 gyda'r ffotograffau a gymerwyd yn y 1930au. Roedd yr olion yn cynnwys pedair wal o gwmpas siambr fechan a charthbwll tebygol diweddarach. Ar ben orllewinol y ffos hon, roedd bloc mawr o waith maen yn dangos wal fewnol sylweddol yn cynnwys gweddillion grisiau crwm (nid grisiau troellog). Nodwyd llawr garreg garw gerllaw hyn. Yn Ffos 2 fe nodwyd bod cornel gogledd-orllewinol y strwythur yn wal fawr tua 1m o led, gyda gwyneb coblog garw ar ei ochr allanol a chwymp rwbel yn y tu mewn. Ni nodwyd unrhyw arwyneb llawr gan eu bod yn dal i gael eu claddu o dan y dyfnder sylweddol o gwymp rwbel. Mae trwch y waliau yn awgrymu adain tri-llawr i'r adeilad.

Ar y cyfan, mae'r gwerthusiad wedi cadarnhau presenoldeb y strwythur carreg annibynnol mawr yn y Ward Allanol, ac mae ei weddillion yn bendant yn nodi ei fod yn gartrefol ac o statws uchel. Datgelwyd y grisiau crwn, a chofnodwyd dau o risiau troellog yn y 1930au. Dengys canfyddiadau bod y to o lechi gyda theils apig o wydr ceramig gwyrdd. Roedd ganddo o leiaf un carthbwll annatod a gofnodwyd yn y 1930au ac un ychwanegol posibl a nodwyd yn ystod y gwaith hwn. Mae maint yr adeilad hefyd yn dynodi statws, yn enwedig gan fod ganddo un adain o uchder tri llawr posibl. Er na allwn ddatgan yn bendant ei fod o ddyddiad canoloesol hwyr nes i ni gwblhau dadansoddiad pellach o'r cofnodion, darganfyddiadau a'r samplau amgylcheddol yr ydym wedi'u cymryd, ar hyn o bryd mae'r tystiolaeth yn dangos bod hyn yn debygol iawn. Mae olion y strwythur yn goroesi mewn cyflwr da, yn well na'r hyn yr oeddem wedi gobeithio, ar ôl y gwaith a wnaethwyd yn y 1930au. Mae'n edrych fel bod Uchgapten Phillips wedi datguddio'r strwythur ac yna wedi lleihau uchder y gweddillion ychydig cyn ei ail-gladdu. Rydym wedi adfer nifer sylweddol o ddarganfyddiadau o'r gwerthusiad, gan gynnwys llawer o grochenwaith o'r cyfnod canoloesol ac yn ddiweddarach, esgyrn anifail a llawer mil o gregyn wystrys. Adferwyd y mwyafrif o'r darganfyddiadau o ôl-lenwi'r 1930au, ond mae gennym ychydig o gyd-destunau sydd yn gyfoes gyda defnyddiad yr adeilad a gobeithiwn y gellir dyddio'r deunydd yma. Ar y cyfan, mae'r gwaith wedi cyrraedd pob amcan y prosiect. Fel bonws annisgwyl ychwanegol, rydym hefyd wedi adfer nifer o dafarn o grochenwaith Rhufeinig hefyd!

O ddiddordeb a chyffro mawr yw'r syniad, os gallwn brofi bod y strwythur o ddyddiad canoloesol hwyr ac roedd yn sefyll yn ystod geni Henry Tudor (Henry VII) yn y castell ar 28 Ionawr 1457, yna mae'n debyg ei fod wedi ei eni yn y strwythur hwn yn hytrach na mewn thŵr ar y wal allanol neu tu fewn yr adeiladau yn y Ward Mewnol a gofnodwyd eu bod mewn cyflwr gwael ar yr adeg honno. Rhaid fod yr adeilad wedi cael ei adeiladu gan berson o bwysigrwydd a oedd yn ôl pob tebygrwydd wedi cael ei rhodd y castell ar y pryd, iddo gael ei adeiladu yn y Ward Allanol. Rhoddwyd i Jasper Tudor, ewythr Henry, y castell ym 1452 pan gafodd ei wneud yn Iarll Penfro, er fe gofnodir nad oedd yn byw yn y castell tan ychydig o flynyddoedd yn ddiweddarach. Yn dilyn marwolaeth ei frawd Edmund ym 1456, daeth ei chwaer yng nghyfraith Margaret Beaufort i mewn i'w ofal a rhoddodd enedigaeth i Henry Tudor y flwyddyn ganlynol. Efallai yn ystod y dair blynedd rhwng cael y castell ac yn byw yno, adeiladodd Jasper dŷ 'modern' newydd iddo i fyw yno, yn y Ward Allanol fawr ym Mhenfro, gan roi amddiffyniad waliau'r castell iddo ei hun yn ystod yr amser gwleidyddol anodd hyn. Mae Neil Ludlow hefyd yn nodi bod Humphrey Plantagenet, a ddaliodd Penfro o 1413 hyd 1447, yn bosiblrwydd arall am fod yn adeiladwr y strwythur - o leiaf, yn ystod rhan olaf ei ddaliadaeth. Y naill ffordd neu'r llall, mae'n ymddangos yn debygol iawn bod y strwythur yn sefyll pan bu Margaret Beaufort yn rhoi geni i Henry Tudor, Brenin dyfoldol Lloegr - ac efallai mai'r adeilad hwn yw man geni Henry VII, ond mae'n annhebygol y byddwn ni byth yn gallu cadarnhau hyn yn bendant.

Ta beth, mae presenoldeb adeilad annibynnol fel hyn yn ward allanol castell, o'r fath ddyddiad, yn anarferol. Yn gyffredinol, credir fod wardiau allanol yn cynnwys adeiladau sy'n gysylltiedig â bywyd pob dydd y gastell. Beth bynnag, ni wyddwyd hyn yn bendant gan fod nifer bach ohonynt yn unig wedi cael eu hymchwilio'n gynhwysfawr - efallai bod statws uwch ward allanol Penfro yn fwy eang nag a feddylir ar hyn o bryd.

Rhaid rhoi diolch i'r gwirfoddolwyr: Adrian, Alex, Andrew, Beth, Caralinda, Charlie, Chris, Ellie,, Fawwaz,, Gaynor, Georgina, Geraint, Hayley, Hazel, Helen Ga, Helen Gr, Hugh, Hywel, Jeremy, Joan, Jon, Jude, Nik, Nigel, Peter, Raymond, Rita, Rob H, Rob W, Roger, Ruth a Wendy a fu'n gweithio ar y prosiect, ac rwyf yn ymddiheuro i'r nifer o bobl nad oeddynt yn llwyddiannus yn ymuno a'r prosiect.

Diolch i Ymddiriedolaeth Astudiaethau Cestyll am wneud y prosiect yn bosibl ac i Neil Ludlow am drefnu'r prosiect a'i gefnogaeth a'i anogaeth. Diolch i staff Castell Penfro a gynorthwyodd drwy gydol y prosiect a gwnaethpwyd y gwaith yn un o'r cloddiadau archeolegol mwyaf taclus a wnaed erioed (yn enwedig Jason) ac aelodau Ymddiriedolaeth Castell Penfro a ymwelodd yn rheolaidd â'r cloddiadau i weld y cynnydd.

Diolch hefyd i Teledu Showboat (Dan, Jon a Maxine) sydd wedi cofnodi'r broses gyfan trwy ffilm a ffotograff - a gobeithio na fyddant byth yn dangos rhai darnau o'r ffilmio! Roeddem yn falch iawn o gael cymaint o ymwelwyr i'r castell yn dod i weld y gwerthusiad a gofyn i ni amdano'r hyn a ddarganfuwyd yn ogystal ag ymweliadau gan ysgolion lleol a ddaeth i weld y safle, rhai o'r darganfyddiadau ac i ddysgu mwy am archeoleg. Rydym yn gobeithio bod profiad pawb wedi bod yn bleserus ac yn addysgol.

 

 

 

 

[click for navigation menu if not present]

[cliciwch am rhestr y pynciau os nad yw'n bresennol]