Cyflwyniad
Yr Arfordir Newidiol
Sut i Ymuno
Gweithgareddau
Prosiectau
Adroddiadau
Ffurflennau
English

Mae angen gwirfoddolwyr arnom, i ddysgu sut i adnabod safleoedd newydd a chofnodi’r newidiadau sy’n digwydd i’n treftadaeth arfordirol.
Mae’r arfordir yn newid yn barhaol ac felly uchelgais prosiect ‘Arfordir’ yw y bydd yn parhau i’r dyfodol drwy eich ymglymiad a’ch cefnogaeth barhaus.

 

Mae ‘Arfordir’ yn chwilio am wirfoddolwyr!
Y bobl sy’n adnabod yr arfordir orau yw’r rheiny sydd yno amlaf, bydd trigolion lleol ac ymwelwyr rheolaidd yn gallu sylwi ar y newidiadau yn well na rhywun sy’n ymweld ond unwaith bob rhyw flwyddyn neu ddwy. Bydd gwirfoddolwyr yn gweithio ochr yn ochr ag archaeolegwyr proffesiynol a fydd yn ymddwyn fel ‘mentoriaid’, gan gynnig hyfforddiant, cyngor a chymorth.

Trefnir y prosiect gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ac Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Sir Benfro, ac fe’i hariennir gan Cadw ac Awdurdod y Parc Cenedlaethol.

Mae Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd yn rhedeg prosiect cyfochrog ar arfordir gogledd orllewin Cymru.

Ydych chi’n byw ger yr arfordir, neu’n ymweld yn rheolaidd? Hoffech chi ein helpu ni i ganfod mwy am dreftadaeth arfordirol Cymru, ac a oes gennych awr neu ddwy i’w sbario bob hyn a hyn?

Mae angen pobl i ganfod mwy am safleoedd archaeolegol rydym yn gwybod amdanynt eisoes ac i adnabod rhai sydd newydd gael eu darganfod. Yn ogystal, mae arnom angen gwirfoddolwyr i ymweld â safle yn fynych gan gofnodi newidiadau yng nghyflwr y safle.

Bydd prosiect ‘Arfordir’ yn darparu hyfforddiant, ynghyd â phecyn gwybodaeth ac ychydig o offer y gellir eu benthyg. Yn achos safleoedd sy’n hynod o bwysig mae’n bosibl y byddwn yn gallu eich helpu i wneud mwy, cynnal arolwg neu gloddiad efallai, neu gynhyrchu taflen neu gynnal digwyddiad. Mae fyny i chi.

Bydd yr holl wybodaeth newydd hyn yn ein helpu i adeiladu’r darlun mawr – beth yw ein treftadaeth arfordirol, a sut mae’n newid?


Os ydych am ymuno, neu os ydych yn aelod o grwp neu gymdeithas sydd am fod yn rhan o’r prosiect, yna cysylltwch â ni. Rydym bob amser yn falch i gael sgwrs!

James Meek
j.meek@dyfedarchaeology.org.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed
01558 823121

Andrew Davidson
andrew.davidson@heneb.co.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Gwynedd
01248 352535
www.heneb.co.uk

Elinor Graham
ellie@ggat.org.uk
Ymddiriedolaeth Archaeolegol Morgannwg Gwent
www.ggat.org.uk