Cyflwyniad
Yr Arfordir Newidiol
Sut i Ymuno
Gweithgareddau
Prosiectau
Adroddiadau
Ffurflennau
English

Peilot prosiect yw ‘Arfordir’, neu ‘Coastline’ a sefydlwyd er mwyn cofnodi, deall a monitro newidiadau yn ein treftadaeth arfordirol.
Bydd y prosiect yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i adnabod a chofnodi safleoedd treftadaeth arfordirol a’r newidiadau sy’n digwydd iddynt, gyda chymorth archaeolegwyr proffesiynol.

 
 

Ers canrifoedd bu’r môr yn ffurfio tirwedd Cymru, a bywoliaeth ac agweddau pobl.
Un o drysorau Cymru yw ei harfordir, gyda’i thraethau ysgubol tywodlyd, clogwyni aruthrol, cilfachau diarffordd a bywyd gwyllt toreithiog. Am filoedd o flynyddoedd fe ddenwyd pobl i’r arfordir hwn ac maent wedi gadael eu holion ar ei hyd yn gyfan gwbl. O bentrefi bach sy’n nythu o amgylch harbwr i gaerau anferth a adeiladwyd i ddiogelu dyfrffyrdd strategol, o gyfnodau cynhanesyddol i’r hyn sydd o fewn cof, mae treftadaeth arfordirol Cymru heb ei hail.



Pob peth a phob man! Edrychwch yn ofalus wrth i chi gerdded ar hyd yr arfordir, ac fe welwch dystiolaeth o weithgareddau dynol.
Dros 10,000 o flynyddoedd yn ôl, roedd helwyr-casglwyr yn defnyddio’r arfordir hwn; gallwn ddod o hyd i’w harfau cerrig hyd y dydd heddiw. Yn y parth llanw – rhwng y llanw uchel a’r llanw isel – gallwn weld olion hen fforestydd ar adegau, a foddwyd gan lefelau’r môr sy’n codi.
Tua 2,500 o flynyddoedd yn ôl adeiladwyd caerau o’r Oes Haearn ar y pentiroedd ac ar ben y clogwyni, ac ers hynny mae’r bobl yn parhau i ddiogelu eu harfordir. Bellach, fe erys y caerau a’r tyrrau ar wyliadwriaeth ddistaw, ac mae’r gorsafoedd radar a’r safleoedd drylliau gwag yn adleisiau o’r gwrthdaro a fu.
Mae olion diwydiant yn hollol amlwg gyda phorthladdoedd, odynnau calch a chwareli’n tystio i waith pobl; ceir tystiolaeth o wahanol fath yn y capeli, eglwysi ac allorau lle'r oedd pererinion a theithwyr yn cynnig diolch am deithio’n ddiogel dros y môr.
Yn bentrefi pysgota ac ierdydd cychod, ceiau, porthladdodd a dociau...mae yma gannoedd o adeiladau sy’n dogfennu ein perthynas â’r môr.
Gall ein harchaeoleg arfordirol ein cynorthwyo i ddweud yr holl hanes am aneddiad dynol Cymru. Ond mae llawer i’w ddarganfod o hyd, ac mae’n bosibl bod llawer ohono dan fygythiad.