Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MIGNEN PINGED - ALLGRAIG HEB EI HAMGÁU

CYFEIRNOD GRID: SN 420025
ARDAL MEWN HECTARAU: 50.07

Cefndir Hanesyddol
Ardal o Fignen Pinged sydd wedi aros heb ei hamgáu. Ardal o iseldir arfordirol yw Mignen Pinged a ddatblygodd wrth geg Afon Gwendraeth Fawr y tu ôl, ac i'r dwyrain o gyfuniad o dwyni mawr Twyni Tywod Pen-bre dros gyfnod o amser ond yn bennaf yn ystod y cyfnod Ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, roedd yr ardal yn dal yn agored i lifogydd cyson hyd nes dechrau'r 19eg ganrif, ac er gwaethaf y ddarpariaeth o forgloddiau yn y 18fed a'r 19eg ganrif, ac adeiladu arglawdd rheilffordd ym 1852, mae'n parhau i fod yn wlyb iawn ac yn ffiniol. Ni fu neb erioed yn byw yno.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hwn yn ddarn bach o dir gwastad, heb ei amgáu, wrth droed Mynydd Pen-bre, ond ychydig o fetrau uwchlaw lefel y môr, gan gwmpasu tir pori gwlyb heb ei wella. Prif linell rheilffordd y Great Western yn Ne Cymru, a agorwyd ym 1852, yw ei ffin orllewinol. Yn croesi'r ardal mae hen Gamlas Cyd-weli a Llanelli gynt, a adeiladwyd ym 1814-1820 ac y'i disodlwyd gan Reilffordd Porthtywyn a Chwm Gwendraeth a osodwyd dros y gamlas ym 1866 (Ludlow 1999,30), ac mae'r arglawdd yn dal i oroesi. Mae cangen o'r gamlas hefyd yn goroesi fel cloddwaith sy'n croesi'r ardal; cludai lo i'r brif gamlas o'r pyllau uwchlaw Coed.

Nid oes archeoleg sylfaenol wedi'i chofnodi.

Nid oes adeiladau yn yr ardal.

O ran cymeriad mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod a phendant. I'r gogledd, de a'r dwyrain mae tir uwch yn derfyn gyda ffermydd a systemau caeau hirsefydlog, ac i'r gorllewin mae ardal amgaeëdig Mignen Pinged yn derfyn.