|
ALLT HILLTOP
CYFEIRNOD GRID: SN 397090
ARDAL MEWN HECTARAU: 344.80
Cefndir Hanesyddol
Ardal a ddaliwyd fel estroniaeth Arglwyddiaeth Ganoloesol Cyd-weli,
ac a roddwyd gan y Brenin Harri I i'r Esgob Roger o Gaersallog ym 1106
(Avent 1991, 167). Newidiodd ddwylo rhwng yr Eingl-Normaniaid a'r Cymry
yn ystod y 12fed a dechrau'r 13eg ganrif hyd nes y cafwyd amodau mwy sefydlog
ddiwedd y 13eg a'r 14eg ganrif o dan ddeiliadaeth y teulu Chaworth ac,
o 1327, Dugiaeth Caerhirfryn. Mae'r patrwm o gaeau mawr, rheolaidd o ran
siâp yn awgrymu ei fod o bosibl yn dir amgaeëdig cymharol ddiweddar, ac
o bosibl gorweddai rhan ohono o leiaf o fewn tir comin Allt Cunedda a
ddisgrifiwyd ym 1609 fel 'free and common of pasture for all manner of
cattle' (Rees 1953, 208-9). Mae cae o'r enw Park-y-lan yn awgrymu bod
adran o ran ogleddol yr ardal o bosibl, mewn gwrthgyferbyniad, wedi bod
yn dir eglwysig. Dechreuwyd amgáu tir comin tua 1575 pan amgaeodd Edward
Downley a Henry Vaughan o Gyd-weli 'two closes' a lenwai saith erw o'r
tir comin 'and converted the same to their own use' (ibid.). Mae'r ffermydd
Penlan-uchaf a Phenlan-isaf yn tarddu o ddeiliadaeth fwy o faint a gall
gynrychioli cam cychwynnol amgáu'r tir. Estynnwyd y broses o amgáu'r tir,
fodd bynnag, ac roedd cnewyllyn y tir comin, a orweddai i'r dwyrain o'r
ardal hon, yn dal i fod heb ei amgáu ym 1841 (map degwm Llanismel). O
gwmpas yr ymylon roedd nifer o ffermydd gan gynnwys Allt a Phenlan-uchaf,
ond nid ymddengys bod y rhain wedi datblygu o aneddiadau sgwatwyr. Ym
1630 gwerthwyd Arglwyddiaeth Cyd-weli i ieirll Carbery a'i daliodd tan
1804 pan y'i trosglwyddwyd i ystad Cawdor (Jones 1983, 18). Ni chafwyd
datblygiad wedi hynny yn yr ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal ar lethr ddeheuol Allt Cunedda, rhwng 100 a 160 m. Fe'i nodweddir
gan batrwm o ddarnau mawr o dir amgaeëdig, cymharol reolaidd o ran siâp,
gyda gwrychoedd ar wrthgloddiau mewn cyflwr da, a sefydlwyd fwy na thebyg
yn ystod y 16eg a'r 17eg ganrif. Defnyddir y tir fel tir pori wedi'i wella
bron i gyd ac nid oes coetir yno. Mae'r ffermydd yn wasgaredig ond mae
clwstwr sylweddol o amgylch tir comin Allt Cunedda gynt i'r gogledd-ddwyrain.
Ymhlith y nodweddion archeolegol mae beddrod crwn a chistfaen
o'r Oes Efydd i'r de, ac mae enwau ar gaeau i'r gogledd yn awgrymu beddrodau
crwn a meini hirion. Mae bryngaer fawr o'r Oes Haearn y tu hwnt i ffin
ogleddol yr ardal yn rhoi ei enw i'r bryn.
Ymddengys bod y ffermydd yn perthyn yn gyffredinol i'r
18fed neu'r 19eg ganrif, wedi'u hadeiladu o gerrig â thoeon llechi, yn
ddeulawr â thair ffenestr fae, ac yn y traddodiad brodorol. Mae tai allan
cerrig o'r 19eg ganrif yn bresennol ar y rhan fwyaf o ffermydd ac wedi'u
trefnu'n anffurfiol. Mae gan ffermydd dai allan modern helaeth.
Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol pendant, yn wahanol
i'r darnau llai o faint, culach o dir amgaeëdig i'r de, dwyrain a'r gorllewin,
a'r darnau afreolaidd o ran siâp o dir amgaeëdig yn yr ardal i'r gogledd.
|