GLAN-Y-FFERI CYFEIRNOD GRID: SN 367102 Cefndir Hanesyddol
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221 Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol Ardal adeiledig Glan-y-fferi sy'n gorwedd rhwng ychydig uwchlaw lefel y môr a 50 m (ar ei huchaf), ar lan ddwyreiniol aber Tywi. Mae'n cwmpasu datblygiad strimyn ar hyd y ffordd o'r gogledd i'r de yn gyfochrog â'r llinell rheilffordd, a ddigwyddodd yn bennaf ers 1859; mae yno dai teras o tua 1900 a llawer o waith adeiladu o'r 20fed ganrif. Mae'r tai yn bennaf i'r gogledd o'r orsaf, a chyfyngwyd y datblygiad ar hyd ffordd Cyd-weli, a'r ffordd i Lanismel, gan natur serth y llechwedd. Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn bennaf ar ffurf adeiladau ond, yn ogystal â safle'r fferi a safle posibl capel coll a nodwyd uchod, mae hefyd yn cynnwys darganfyddiadau o ddyddiad cynhanesyddol o Cockle Rock ym mhen deheuol eithaf yr ardal. Mae'r rhan fwyaf o'r adeiladau yn perthyn i'r 19fed a'r 20fed ganrif, maent yn gymysgedd o gerrig a briciau, concrid wedi'i rendro, a deunyddiau eraill â thoeau llechi a theils concrid. Fodd bynnag, mae yno annedd o'r 18fed ganrif a restrwyd fel adeilad Gradd II, ac Eglwys Sant Thomas a sefydlwyd ar ddechrau'r 20fed ganrif (na restrwyd). Yn ogystal, mae yno orsaf bad achub, y llinell rheilffordd a'r orsaf, a gweithfeydd briciau gynt. Gorwedd yr ardal tirlun hanesyddol rhwng y Nod Penllanw a'r tir amaethyddol i'r dwyrain.
|