TWYNI TYWOD PEN-BRE
CYFEIRNOD GRID: SN 376026
ARDAL MEWN HECTARAU: 444.10
Cefndir Hanesyddol
Lleolir yr ardal yn y rhan honno o Dwyni Tywod Pen-bre (neu 'Towyn') nad
yw wedi'i phlannu â choedwig o gonifferau, hy. llain gul tua 150m o led
ar gyfartaledd ar ochr Coedwig Pen-bre sy'n wynebu'r môr. Datblygodd y
Twyni Tywod wrth geg Afon Gwendraeth Fawr dros gyfnod hir, ar hyd ymyl
cyfres o adferiadau o amgylch anheddiad cnewyllol cychwynnol a ffurfiwyd
gan lain o dir sych wrth droed Mynydd Pen-bre. Datblygodd y Twyni Tywod
ers yr 17eg ganrif o leiaf ond, yn ôl James, nid ydynt yn perthyn i gyfnod
cyn yr Oesoedd Canol. Mae eu datblygiad yn parhau tua'r môr, a dim ond
ers 1830 y datblygodd y rhan honno lle lleolir yr ardal hon (James 1991,
155). Ymgorfforwyd yr ardal i system amddiffynfeydd yr Ail Ryfer Byd o
amgylch Maes Glanio a Ffatri Ordnans Pen-bre.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Ardal forol heb ei hamgáu o fryniau tywod, ychydig uwchlaw lefel y môr
ond yn codi'n unigol i dros 2 m, a ddatblygodd ers 1830. Amgylchedd cyfnewidiol
er ei fod wedi'i sefydlogi'n rhannol drwy blannu corswellt y tywod.
Lleolir dau lwyfan gynnau o'r Ail Ryfel Byd yn rhan ogleddol
yr ardal, fel arall nid oes yno unrhyw archeoleg wedi'i chofnodi.
Nid oes adeiladau nodweddiadol yno.
Ardal tirlun hynod iawn sydd â Nod Penllanw yn derfyn i'r
de a'r gorllewin, ardal o forfa heli i'r gogledd eithaf, a phlanhigfa
o goed conifferaidd a thirlun milwrol/hamdden o'r 20fed ganrif i'r gogledd
a'r dwyrain.
|