Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

PARC GWLEDIG PEN-BRE

CYFEIRNOD GRID: SN 417004
ARDAL MEWN HECTARAU: 271.80

Cefndir Hanesyddol
Ardal nodwedd sy'n cwmpasu rhan o Dwyni Tywod Pen-bre, ac i'r dwyrain ohonynt gorwedd rhan o'r twyni tywod a ddatblygodd y tu ôl iddynt. Mae'r ardal yn nodweddiadol am ei ddefnydd diweddar o'r tir sy'n gysylltiedig â diwydiant a hamdden. Mae'r Twyni Tywod yn ardal o fryniau tywod o darddiad cymharol ddiweddar, gan ddatblygu ers yr 17eg ganrif o leiaf ac nid ydynt yn gynharach na'r cyfnod Canoloesol (James 1991, 159). Ar yr un pryd â'r gwaith adfer a wnaed i ogledd yr ardal yn ystod y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif, datblygwyd corstir a llaciau tywod i'r de-ddwyrain o lafn gwreiddiol o dir sych a orweddai wrth droed Mynydd Pen-bre. Roedd yr ardal hon yn eiddo i Faenor Pen-bre ond roedd yn dir comin ym 1841 pan oedd yn rhan o'r 'Great Outlet' ar fap degwm Pen-bre. Datblygwyd yr ardal fel safle diwydiannol ar ddiwedd y 19eg ganrif pan sefydlodd Cwmni Nobel Dynamite ffatri yno (Page 1996, 15); fe'i prynwyd yn ddiweddarach gan y llywodraeth a'i gweithio fel y Ffatri Ordnans Frenhinol. Daeth yn ystad ddiwydiannol ar ôl yr Ail Ryfel Byd ond roedd yn ddiffaith i raddau helaeth erbyn dechrau'r 1970au pan y'i caffaelwyd gan yr awdurdod lleol, a'i datblygu fel Parc Gwledig - prif atyniad Cymru i ymwelwyr erbyn hyn. Yn y cyfnod ar ôl y rhyfel gwelwyd hefyd sefydlu Cwrs Golff Ashburnham yn hanner dwyreiniol yr ardal.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r tirlun sydd bellach yn bodoli yn yr ardal hon wedi'i greu bron yn gyfan gwbl yn yr 20fed ganrif. Mae'n cwmpasu bryniau tywod a llaciau tywod/mignen heb eu hamgáu sy'n gorwedd ychydig uwchlaw lefel y môr, ac wedi'u lleoli yno'n rhannol mae coedwig, Parc Gwledig Pen-bre, unedau diwydiannol ysgafn a chwrs golff. I gyd-fynd â'r defnyddiau olaf hyn cafwyd newid dirfawr yn y tirlun a'r topograffi gwreiddiol. Mae llawer o nodweddion sy'n gysylltiedig â defnydd milwrol/diwydiannol yr ardal yn yr 20fed ganrif yn goroesi mewn amrywiol gyflyrau, ac yn cynnwys adeiladau, cysgodfeydd, llinellau a thraciau'r rheilffordd, daeardai, ceiri tanddaearol ac ati.

Ychydig o archeoleg tirlun gwaelodol sydd ar gael ond ym mhen dwyreiniol eithaf yr ardal, lle lleolir y cwrs golff, mae cloddwaith parhaol Arglawdd Stanley, tramffordd ar oleddf a sefydlwyd yn yr 1820au i gludo glo o New Pit Stanley, ym Mhen-bre, i Hen Borthladd Pen-bre (Nicholson 1991, 126). Cludai ail dramffordd lo o Gamlas Pen-bre i'r porthladd (gweler Ardal 163).

Nid oes adeiladau nodweddiadol yno.

Ardal tirlun hynod iawn sy'n gwrthgyferbynnu ag ardal adeiledig i'r dwyrain, system o ddarnau amgaeëdig o dir o ddiwedd y 18fed ganrif i'r gogledd, planhigfa o goedwig gonifferaidd i'r gorllewin a bryniau tywod heb eu hamgáu i'r de.