|
COEDWIG MYNYDD PEN-BRE
CYFEIRNOD GRID: SN 427023
ARDAL MEWN HECTARAU: 49.60
Cefndir Hanesyddol
Ardal o sgarp coediog ar lethr ogledd-orllewinol Mynydd Pen-bre a
oedd, yn y cyfnod hanesyddol, yn llinell ar glogwyn y môr (James 1991,
147). Roedd Mynydd Pen-bre yn cynrychioli rhan helaethaf maenor Penrhyn
yn ystod y cyfnod Canoloesol, a ddaliwyd yn y lle cyntaf, ynghyd â maenordy
Pen-bre, gan Arglwyddiaeth Cyd-weli fel brodoriaeth ac estroniaeth (Rees
1953, 200). Bu'n mwynhau statws faenoraidd o leiaf mor gynnar â 1361 a
daeth, erbyn 1630, yn annibynnol ar Arglwyddiaeth Cyd?weli (Jones 1983,
18). Yn ôl pob tebyg roedd yr ardal yn goediog drwy gydol y cyfnod Canoloesol
(Williams 1981, 5). Gorweddai'r pen deheuol, a elwid yn 'Court Wood' o
fewn cwrtil Llys Pen-bre, canolfan ffiwdal y faenor, ac mae'r ardal hefyd
yn cynnwys Coed y Marchog y rhoddwyd iddi'r un enw yn nogfennau'r 18fed
ganrif (Williams, 1981, 5). Rhennir gweddill yr ardal rhwng Coed a Choed
Rhyal; fferm yw Coed a welir ym 1891 (Argraffiad Cyntaf 6" Arolwg Ordnans,
Dalen LIII SW). Roedd o leiaf pedair lefel o waith glo yn gweithredu o
fewn Coed Rhyal ar ddechrau'r 19fed ganrif, ond roeddynt wedi cau erbyn
1891 (argraffiad cyntaf Arolwg Ordnans, Dalen LIII SW), tra'r oedd chwareli
yn ymyl Coed ac yn Court Wood. Yn ogystal, wrth droed pen de-orllewinol
Mynydd Pen-bre roedd Pwll Glo Craig-lon a sefydlwyd yn y 18fed ganrif,
a ehangwyd yn y 19eg ganrif, a unodd â phyllau glo lleol eraill fel 'Pembrey
Collieries Ltd' ym 1918, ac a gaeodd yn y 1930au (Ludlow 1999, 31). Defnyddiwyd
pen de-orllewinol yr ardal fel maes tanio yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Bellach
plannwyd planhigfa o gonifferiaid ar draws rhan o'r ardal.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Gorwedd yr ardal ar lethr sgarp serth sy'n wynebu'r gogledd-orllewin gan
ddisgyn o 100 m i ychydig uwchlaw lefel y môr mewn ardal sy'n 150 m o
led ar gyfartaledd; mae'n lletach yn ei phen deheuol lle mae'r llethr
yn troi tua'r dwyrain, ac yn yr ardal olaf hon mae dwy fryngaer o'r Oes
Haearn (Williams, 1981). Mae'n drwch o goed, gan gynnwys prysg derw yn
bennaf sy'n eilradd i raddau helaeth. Nid yw'r rhan fwyaf o'r ardal yn
amgaeëdig ond mae olion cefnen a rhych, a glasleiniau aredig â gwreiddiau
cynhanesyddol, i'r de (Williams 1981, 11-12), tra rhennir y pen gogleddol
eithaf gan gyfres o derfynau yn ddarnau o dir amgaeëdig, unionlin, afreolaidd
o ran siâp, a nodwedd o'r ardal ganolog, o amgylch Fferm Coed, yr unig
anheddiad, yw'r darn mawr o dir amgaeëdig. Mae planhigfa eang o gonifferau
o'r 20fed ganrif wedi'i lleoli mewn rhan fawr o'r ardal hon. Mae chwarel
Court Wood i'w gweld o hyd ond bellach ychydig o dystiolaeth ffisegol
sydd ar gael o'r hen byllau glo gynt. Mae rhai pantiau gwneud a llwyfannau
i'r de?ddwyrain yn ymwneud â'r defnydd o'r fan fel maes tanio yn ystod
yr Ail Ryfel Byd (Williams, 1981, 12).
Mae'r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol,
gan gynnwys y ddwy fryngaer o'r Oes Haearn, dwy gromlech gron bosibl o'r
Oes Efydd, nodweddion amaethyddol gan gynnwys system gaeau o'r Oes Haearn,
cefnen a rhych Ganoloesol, a nodweddion diwydiannol Ôl-ganoloesol hy.
chwareli a phyllau glo.
Nid oes adeiladau nodweddiadol yma.
Mae'r ardal hon o dirlun hanesyddol yn cyferbynnu'n gyfan
gwbl â'r tir mwy gwastad wrth droed y llethr i'r gogledd a'r gorllewin
a chopa Mynydd Pen-bre i'r de a'r dwyrain.
|