COEDWIG PENYBEDD
CYFEIRNOD GRID: SN 415017
ARDAL MEWN HECTARAU: 33.73
Cefndir Hanesyddo l
Am hanes cyffredinol tirlun Coedwig Penybedd gweler yr ardaloedd tirlun
cyfagos. Mae'n wir mai Coedwig Penybedd yw cnewyllyn y llain o dir sych
wrth droed Mynydd Pen-bre lle adferwyd y tir o'i gwmpas o'r 17eg ganrif
ymlaen, ond nid ymddengys iddi fod yn rhan o Faenordy Canoloesol ac Ôl-ganoloesol
Caldicot (James 1991, 153). Ar fap degwm Pen-bre ym 1841 ac yn argraffiad
cyntaf 6" Arolwg Ordnans 1891 gwelir yr ardal fel clwt bach o dir heb
ei amgáu. Fe'i plannwyd â chonifferau ar ôl yr Ail Ryfel Byd.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Yn yr ardal fach iawn hon o dirlun hanesyddol ceir planhigfa o gonifferau
o gyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Prin y gorwedd y tir uwch law lefel y
môr, ac yn wahanol i'r ardaloedd o'i chwmpas nid yw'n cwmpasu mignen adferedig,
ond yn hytrach twyni tywod isel. Defnydd economaidd cyfyng iawn sydd i
ardaloedd o dywod a chwythwyd gan y gwynt, felly nid oedd yn agored i'w
hamgáu yn y cyfnod hanesyddol, ac o ganlyniad fe'i plannwyd ar gyfer coedwig.
Sefydlwyd safle picnic bach yn y goedwig.
Nid oes unrhyw archeoleg wedi'i chofnodi o fewn yr ardal.
Nid oes adeiladau yno.
Mae hon yn ardal tirlun hanesyddol hynod gyda therfynau
clir gydag ardaloedd cyfagos sy'n cynnwys hen fignen amgaeëdig gynt, neu
ddatblygu preswyl.
|