Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

MIGNEN PINGED

CYFEIRNOD GRID: SN 424043
ARDAL MEWN HECTARAU: 555.30

Cefndir Hanesyddol
Ardal o iseldir arfordirol o darddiad cymharol ddiweddar yw Mignen Pinged. Datblygodd wrth geg Afon Gwendraeth Fawr, y tu cefn ac i'r dwyrain o gasgliad o dwyni mawr Pen-bre, dros gyfnod o amser ond yn bennaf yn ystod y cyfnod Ôl-ganoloesol. Gweithredai'r twyni fel morglawdd a hefyd rhwystrent ddraeniad y tir y tu ôl iddynt, y gellid ymhen amser ei adfer, oherwydd gwaddodiad. Dechreuodd y tirlun corsog ddatblygu erbyn 1609 pan ddosrannwyd yr ardal i estroniaid Arglwyddiaeth Cyd?weli. Nododd arolwg ar y pryd 'y fignen ar bob ochr y bont o'r enw Pont y Spowder' (Rees, 1953, 209) hy. Pont Spudder, yr adeiladwaith cerrig canoloesol diweddar sy'n dal i groesi'r Gwendraeth Fawr tuag at ddwyrain yr ardal. Defnyddiwyd y tir fel tir pori cyffredin ar y pryd; dangosir rhan o'r ardal ar Fap Ystad o tua 1681 lle caiff ei labelu'n 'Dir Comin' (James, 1991, 153), gyda chilfach i'r de-orllewin o'r enw Salthouse Pill yn derfyn. Roedd 160 o erwau o'r tir comin wedi'u hamgáu erbyn 1638, gan y tirfeddiannwr lleol Syr Richard Vaughan a Maer a Bwrdeisiaid Cyd?weli (James 1991, 152). Cafodd ochr ogleddol yr ardal ei draenio erbyn 1766 pan adeiladodd y diwydiannwr Thomas Kymer ei gamlas o Bont-iets i Gyd?weli, cloddwaith sy'n dal i ffurfio terfyn gogleddol yr ardal nodwedd. Yn y cyfamser, sefydlwyd Fferm Penybedd ym mhen deheuol eithaf yr ardal rhwng 1681 a 1841 (map degwm Pen-bre). Fodd bynnag, roedd yn amlwg fod llawer o'r ardal yn dal yn gorstir ac yn agored i orlifo cyson hyd at ddechrau'r 19eg ganrif, a chynhaliwyd llawer o fasnach forol Cyd?weli ar y pryd o Gei Frankland a safai bryd hynny ar afon Gwendraeth Fawr 800m i'r de-orllewin o Bont Spudder. Adeiladwyd o leiaf dau ddarn o forglawdd o fewn yr ardal, y naill a'r llall yn ffinio â thir sychach i'r de a'r de-orllewin yn erbyn aber Gwendraeth Fawr i'r gogledd. Gwelir y cyntaf yn argraffiad cyntaf yr Arolwg Ordnans ac mae'n perthyn i'r 18fed ganrif o leiaf, ond ni ellir ei olrhain mwyach. Fodd bynnag, galluogodd Arglwydd Maenor Pen-bre, Iarll Ashburnham, i adeiladu camlas o'r pyllau glo ar y tir uchel i'r de o'r ardal, i fan hwylio ar yr aber, ym 1796-1801 (James 1991, 155). Sefydlwyd camlas fer gan George Bowser ym 1806 o Bentref Pinged i lein fach a groesai'r fignen i fan hwylio ar afon Gwendraeth Fawr. Cloddiwyd trydedd gamlas gan Pinkerton and Allen ym 1814-24, ar ran Kidwelly & Llanelly Co., rhwng cyffordd â Chamlas Ashburnham drwy Fignen Pinged i Gei Frankland. Derbyniai Gamlas Bowser ac roedd ganddi gangen yn arwain i'r gorllewin i Drimsaran dros draphont ddwr, ond daeth rheilffordd yn ei lle ym 1865 (Ludlow 1999, 30). Amharwyd ar y gwaith ar y gamlas gan lifogydd rheolaidd ac o ganlyniad adeiladwyd morglawdd arall, Banc-y-Lord, gan Pinkerton ac Allen ym 1817-18. Mae hwn yn gloddwaith sylweddol sy'n gorwedd tuag at orllewin yr ardal (James 1991, 156). Ym 1830 a 1842 pasiwyd Deddfau Seneddol preifat i amgáu rhannau o Fignen Pinged yr oedd gan denantiaid Iarll Ashburnham hawliau pori arno yn flaenorol (Jones 1983, 31). Fodd bynnag, dim ond pan orffennwyd y gwaith ar yr A484 argloddiedig, ym 1850, ynghyd â gwneud camlas ar Gwendraeth Fawr islaw pont newydd ('Pont Comisiynwyr'), adeiladu arglawdd arall ar hyd yr un llinell yn fras i gludo prif reilffordd De Cymru, Rheilffordd y Great Western ym 1852 (Ludlow 1991, 84), a Gwobr Tir Amgaeëdig eang ym 1854 (CRO AE3), yr enillwyd yr ardal o'r diwedd o'r môr, ond erys o hyd yn wlyb iawn ac yn ffiniol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae'r fignen adferedig hon yn dir isel, gwastad prin ychydig fetrau uwchlaw lefel y môr. Mae'r elfennau tirlun hanesyddol yn gymysgedd o isadeiledd o'r 18fed a'r 20fed ganrif, gydag aneddiadau a systemau caeau o'r cyfnod wedi 1854. Mae nodweddion o gyfnod cyn Cau'r Tir gan y Senedd yn dal i fodoli ac yn tystio i ddefnyddio'r tir cyn sefydlu'r patrwm presennol o gaeau ac aneddiadau. Ymhlith y rhain mae'r morgloddiau o wahanol gyfnodau, Camlesi Kymer a Bowser, a Chamlas Pen-bre a Chyd?weli, ac mae dwy elfen olaf y tirlun yn dal yn amlwg er eu bod bellach yn ddiffaith. Fferm Penybedd yw'r unig brif anheddiad sy'n perthyn i'r cyfnod cyn 1854. Mae system caeau Cau Tir y Senedd 1854 yn cynnwys caeau rheolaidd bach a chanolig eu maint, gyda'r caeau rheolaidd iawn, llai o faint ar ochr ddwyreiniol yr ardal a'r caeau ychydig yn llai rheolaidd canolig eu maint i'r gorllewin. Ffosydd yw'r math o derfyn mwyaf cyffredin. Weithiau ceir gwrychoedd prysglog a/neu ffensys gwifrau hefyd. I gyfeiriad Pinged ar ochr ddwyreiniol yr ardal mae'r gwrychoedd yn fwy sylweddol, ond wedi tyfu'n wyllt ar y cyfan a phrin yn cadw anifeiliaid rhag crwydro. Tir pori yw prif ddefnydd y tir. Mae ansawdd y tir pori yn amrywio'n sylweddol o dir wedi'i wella ger Penybedd i dir garw, brwynog dros y rhan fwyaf o'r ardal, drwodd i dir gwlyb â dwr llonydd ym Mhant-teg. Ni cheir coetir. Mae prif reilffordd De Cymru yn elfen amlwg o'r tirlun hanesyddol, yn yr un modd ag y mae amddiffynfeydd yr Ail Ryfel Byd, gan gynnwys blociau gwrth-danciau ar hyd ymyl y rheilffordd.

Mae'r rhan fwyaf o nodweddion archeolegol yn Ôl-ganoloesol; mae'r camlesi, y ddyfrbont, morgloddiau, ceiau a'r rheilffyrdd a nodwyd uchod oll yn goroesi fel tystiolaeth ffisegol i amrywiol raddfeydd.

Mae'r Bont Spudder o waith maen yn perthyn i'r 14eg neu'r 15fed ganrif ac yn adeilad rhestredig Gradd II. Mae Fferm Penybedd, yr unig anheddiad o bwys cyn 1854, yn ffermdy cerrig gyda rhes o dai allan cerrig sylweddol, erbyn hyn mewn cyflwr gwael. Mae adeiladau eraill yn anheddau sy'n perthyn i ddiwedd y 19eg ganrif a'r 20fed ganrif, ar wasgar ar draws y tirlun; nid oes un ohonynt yn nodweddiadol. Gellir nodi'n benodol dai teras o'r 20fed ganrif a adeiladwyd yn arddull Mansard. Yn ystod y blynyddoedd diweddar adeiladwyd uned ddiwydiannol fach.

O ran cymeriad mae Mignen Pinged yn ardal tirlun hanesyddol hynod ag iddi ffiniau pendant. I'r gogledd a'r dwyrain y ffin yw'r tir sy'n codi, gyda ffermydd a systemau caeau sydd wedi'u hen sefydlu. I'r gorllewin gorwedd ardal o ddiwydiant a chyfleusterau hamdden, a morfa heli i'r gogledd-orllewin.