Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

LLANDEILO ABERCYWYN

CYFEIRNOD GRID: SN 312131
ARDAL MEWN HECTARAU: 185.90

Cefndir Hanesyddol
Yn ystod y cyfnod canoloesol maenor demên ac is-arglwyddiaeth Arglwyddiaeth Ystlwyf (Rees 1932) oedd Llandeilo Abercywyn, yn cyffinio â phlwyf eglwysig Llandeilo Abercywyn. Mae'n bosibl bod hen eglwys blwyf Teilo Sant gynt wedi'i sefydlu cyn y goresgyniad, ond mae'r adeiladwaith presennol (adfeiliedig) yn perthyn i'r Oesoedd Canol diweddarach; dywedwyd bod yr eglwys wedi'i hailadeiladu o dan Richard de Laundrey, Arglwydd Llanddowror a Llandeilo Abercywyn tua 1270 (RCAHM 1918, 83). Mae'r ardal hon yn cynnwys y rhan honno o Arglwyddiaeth Llansteffan lle'r oedd tirddaliadaeth (o statws ansicr) Pentrewyn, sy'n fferm erbyn hyn; mae'n bosibl ei bod bellach yn safle capeliaeth i Lansteffan a elwid yn 'Eglwys Trewyn' yn ôl pob golwg yn y 14eg ganrif (Rees 1932). Erbyn diwedd y cyfnod canoloesol roedd is-arglwyddiaeth Llandeilo Abercywyn yn eiddo i'r teulu Dwnn o Benallt, Cyd-weli (Jones 1987, 100), a fyddai'n un o brif deuluoedd a sylwebyddion bonedd Cymru. Caffaelwyd y ddeiliadaeth gan y teulu Morgan o Muddlescwm, hefyd yn ymyl Cyd-weli, drwy briodas erbyn 1488 (ibid.) ac mae'n bosibl mai hwy oedd yn gyfrifol am adeiladu'r maenordy o'r 16eg ganrif drws nesaf i'r eglwys, a elwir yn draddodiadol (ond yn ffug) yn 'Orffwysfa'r Pererinion' o'i leoliad ar lwybr tybiedig y pererinion i Dyddewi (Hartwell Jones 1912, 372), a safle posibl fferi i Dalacharn; mae'n bosibl bod hen anheddiad gynt yn gysylltiedig â'r faenor. Nodweddir y tirlun gan gaeau eithaf mawr ond braidd yn afreolaidd, yr ymddengys eu bod yn ganlyniad uno ac amgáu caeau, o bosibl yn rhannol yn cwmpasu stribedi agored, am fod system cefnen a rhych wedi'i chofnodi i'r gogledd o'r ardal (Marshall 1985, 19). Digwyddodd yr uno hwn yn ystod yr 17eg a'r 18fed ganrif naill ai o dan y teulu Mansel a gaffaelodd y ddeiliadaeth tua 1600, y teulu Dawkins a'i holynodd ym 1660 (Jones 1987, 100), neu'r sawl a'u holynodd hwy o 1791, ac a ddaliai Pentrewyn (ibid.) hefyd. Roedd wedi'i gwblhau erbyn 1840 o leiaf (map degwm). Mae gan fferm Cwm Celyn, ar y blaendraeth, gysylltiadau â Glyn Jones, awdur Eingl-Gymreig llawer o straeon a cherddi a leolwyd o amgylch aber Taf (James, n.d.).

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hon yn ardal fach ond serch hynny yn dirlun hanesyddol cymharol hynod o gaeau eithaf mawr â therfynau afreolaidd, mewn ardal o fryniau a phantiau sy'n codi o aber Afon Taf i uchafswm uchder o dros 90m. Mae'r tir cyfan bron yn dir pori wedi'i wella, ar wahân i rai clystyrau bach o goetir collddail eilradd a thir prysglog ar lethrau serth sy'n edrych dros yr aber, a chlytiau o dir brwynog mewn rhai pantiau. Mae ffermydd gwasgaredig yn nodweddu'r patrwm anheddu, wedi'u lleoli mewn tirlun o gaeau o faint canolig sy'n tueddu i fod yn rheolaidd o ran ffurf, ac yn ôl pob tebyg yn dyddio o'r 17eg ganrif neu ddechrau'r 18fed ganrif. Gwrychoedd ar wrthgloddiau yw terfynau'r caeau. Mae'r gwrychoedd mewn cyflwr da, yn cael ei cadw'n dda gydag ychydig o goed nodweddiadol ar hyd y gwrychoedd. Mae nodweddion archeolegol ychwanegol yn cynnwys elfennau o dirluniau cynharach megis y ddau bâr o feini hir o'r Oes Efydd ym mhen gogleddol yr ardal hon, 'Maen Llwyd' a 'Meini Llwydion'; cloddiwyd yn un o'r safleoedd a nodwyd nifer o nodweddion gwasgaredig, gydag ychydig o batrymau neu swyddogaethau amlwg (Marshall 1985, 19). Gorwedd dwy domen losg yn ymyl Cwm Celyn hefyd. Mae Gorffwysfa'r Pererinion yn adeilad rhestredig Gradd II o'r 16eg ganrif gyda chladdgell gromennog; mae rhywun yn dal i fyw yno a gorwedd y drws nesaf i'r eglwys Ganoloesol adfeiliedig Llandeilo Abercywyn, y mae'r nodwedd cynharaf sy'n goroesi yn dod o'r 15fed ganrif. Mae adeiladau eraill o gerrig, â thoeau llechi, ond nid ydynt yn nodweddiadol ac mae ffermydd megis Pentrewyn, â chnewyllyn hanesyddol, bellach yn cwmpasu tai allan modern mawr yn bennaf. Safai gefail Ôl-ganoloesol ym mhen gogleddol yr ardal ar un adeg. Er ei bod yn ardal tirlun hanesyddol weddol hynod, nid yw'n hawdd pennu terfynau clir rhwng yr ardal hon a'r ardaloedd i'r dwyrain a'r gogledd. Ceir terfynau mwy pendant i'r de a'r gorllewin yn erbyn morfa heli adferedig.