Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

TREF TALACHARN A BROADWAY

CYFEIRNOD GRID: SN 301108
ARDAL MEWN HECTARAU: 51.10

Cefndir Hanesyddol
Tref fechan a bwrdeistref canoloesol yw Talacharn lle y goroesodd llawer o nodweddion hanesyddol. Mae Heneb Gristnogol gynnar a mynwent gist hir yn awgrymu bod eglwys Sant Martin yn Nhalacharn wedi'i sefydlu yn y cyfnod cyn-Normanaidd (Ludlow 1998). Fodd bynnag, sefydlu castell Eingl-Normanaidd erbyn 1170 a arweiniodd at ddatblygu tref yn Nhalacharn. Yn ôl pob tebyg tyfodd anheddiad y tu allan i'r castell yn fuan ar ôl ei sefydlu, ac o gwmpas y gilfach fechan a ddatblygodd yn borthladd. Ym 1278-82 rhoddwyd statws bwrdeistref i Dalacharn a chyflwynwyd tiroedd iddo gan Syr Guy de Brian (Williams, n.d.). Awgryma'r topograffi a thystiolaeth ddogfennol ddiweddarach fod mur o amgylch y dref gynnar a oedd yn cynnwys ychydig dros 30 o anheddau, a bod yr anheddiad wedi ymestyn yn gyflym y tu allan i'r muriau hyn (Murphy, 1987). Nid ymddengys bod trwydded hwyrach ym 1465 (Delaney a Soulsby, 1975; Soulsby, 1983) i adeiladu mur o amgylch y dref wedi'i gweithredu. Roedd fferm neu faenordy Castell Roche o ddiwedd yr Oesoedd Canol, i orllewin Talacharn yn ddeiliadol ar wahân i'r bwrdeistref. Ymddengys bod Talacharn yn dref fechan eithaf llwyddiannus drwy gydol y cyfnod Canoloesol, ac erbyn 1595 cofnodwyd dros 161 o leiniau bwrdais (Corfforaeth Talacharn). Er yr ymddengys bod y nifer hwn o leiniau fel petai wedi aros yn weddol gyson hyd at ganol y 19eg ganrif, gwnaed newidiadau pwysig erbyn hynny, fel y cofnodwyd gan Mary Curtis (1880). Yn niwedd y 19eg ganrif datblygodd tref Talacharn yn 'dref glan môr' ffasiynol. Ailadeiladwyd nifer o'r anheddau dinod o gyfnod cynharach i gyd?fynd â ffasiwn y dydd. Erbyn canol y 19eg ganrif collodd y dref ei statws ffasiynol, a gweddillion ei masnach arfordirol, ac aeth yn ddifywyd ac â'i phen iddi. Ers yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd ystad fach o dai y tu allan i graidd y dref hanesyddol. Yn y blynyddoedd diweddar adnewyddwyd nifer o'r hen adeiladau ac adeiladwyd tai newydd mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau y tu mewn i'r craidd hanesyddol ac ar y cyrion. Profodd Broadway, sef 'maestref' i'r de orllewin o'r dref, lawer o ddatblygiad diweddar. Adeiladwyd canolfan wyliau yng Nglan-y-môr i'r dwyrain o'r dref, a maes carafanau i'r gogledd.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol

Mae tref fechan Talacharn wedi'i chanoli ar y castell Canoloesol. Mae'r adeiladwaith hwn yn tra-arglwyddiaethu'r blaendraeth a'r dref. Un o nodweddion allweddol y dref yw'r adeiladau ysblennydd o garreg a stwco o'r 18fed a'r 19eg ganrif sydd ar hyd Stryd y Brenin, gan orffen yn neuadd y dref a Thy'r Castell. Mae'r tai yn y strydoedd eraill yn tueddu i fod yn llai mawreddog, ond er hynny mae'r bythynnod o garreg a'r rhesi o dai teras, sydd fel arfer wedi'u eu rendro a'u paentio'n lliw, gyda thoeon talcen llechi yn sicrhau arddull unffurf. O fewn y craidd hanesyddol mae tai mwy diweddar yn fwy dinod o ran cymeriad, ac yn cynnwys anheddau unigol neu ystadau bach. Mae datblygiadau mwy o faint yn Broadway yn cynnwys ystad o dai cyngor yn edrych dros y dref i'r de, ag ysgol gerllaw, a chlwstwr o anheddau mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau. Saif eglwys Sant Martin, adeiladwaith croesffurf o ganol y 15fed ganrif, i'r gogledd o'r dref gyda chlwstwr llac o dai o'r 19eg ganrif yn bennaf. Cysyllta datblygiad hirgul o'r 20fed ganrif yr ardal hon â'r brif dref. Mae datblygiad y diwydiant twristiaid yn cynnwys canolfan wyliau fawr o gabanau yng Nglan-y-môr, maes carafanau yn Ants Hill a gweithfeydd llai amlwg yn gysylltiedig â Thy Cychod Dylan Thomas a Chastell Talacharn.

Mae'r archeoleg a gofnodwyd o fewn y dref yn ymwneud â'i hanes Canoloesol yn bennaf - y castell, yr eglwys, muriau'r dref a safle'r felin, a'i hadeiladwaith domestig Ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, ceir darn amgaeëdig o dir o'r Oes Haearn yng Nglan-y-môr, a nodwyd yr Heneb Gristnogol Gynnar a'r fynwent gist yn yr eglwys. Prin oedd y diwydiant Ôl-ganoloesol ond mae odyn galch ar y blaendraeth a gefail yn Broadway. Mae gan y fferm o ddiwedd yr Oesoedd Canol yng Nghastell Roche dalwrn Ôl-ganoloesol cysylltiedig.

Nodwyd natur nodweddiadol nifer o adeiladau Talacharn. Yn ogystal â'r castell, sy'n Heneb Restredig, ac yn cynnwys dau adeilad rhestredig ar Radd I ac adeilad rhestredig ar Radd II, mae yna 51 o adeiladau rhestredig eraill, i gyd ar Radd II neu II*; maent yn bennaf o'r 18fed ganrif ac yn adeiladau domestig, sy'n cynnwys neuadd y dref a'r eglwys ganoloesol hefyd.