Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

RHOSTIR WHITEHILL

CYFEIRNOD GRID: SN 290133
ARDAL MEWN HECTARAU: 43.42

Cefndir Hanesyddol
Safai Rhostir Whitehill o fewn Arglwyddiaeth Ganoloesol Talacharn ac roedd yn rhan o'r tiroedd a roddwyd i fwrdeisiaid Talacharn gan Syr Guy de Brian ym 1278-82 (Williams, n.d.). Ffermiodd y bwrdeisiaid y tir drwy'r system caeau agored neu stribedi, sef system a ddefnyddir hyd heddiw ar Rostir Whitehill. Rhennir y rhostir i nifer o stribedi neu ddarnau, gyda phob un wedi'i wahanu gan drum a elwir yn landsgar neu landsger (Davies, 1955). Ni ddosberthir y stribedi bellach i fwrdeisiaid yn flynyddol, ond fe'u rhoddir am oes. Yn y gorffennol byddai'r system hon yn cael ei ffermio fel tir âr, ond erbyn 1955 ychydig o stribedi yn unig a ffermiwyd yn y modd hwn, a heddiw defnyddir y rhostir ar gyfer gwair ac er mwyn cadw gwartheg dros y gaeaf.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Yn sylfaenol un cae mawr yw hwn sy'n codi'n raddol o lefel y môr ar aber Taf i 40m ar ei ymyl gorllewinol. Mae'n rhan o'r system cae agored sydd wedi goroesi yn Nhalacharn. Ni chaiff Rhostir Whitehill ei ffermio fel tir âr bellach, ond mae'r stribedi neu'r darnau wedi goroesi. Mae mwyafrif y darnau yn ymestyn ar draws lled cyfan y cae o'r dwyrain i'r gorllewin, er bod stribedi byrrach a theneuach yn ymestyn o'r gogledd i'r de yn y pen gogleddol. Mae trumiau isel, cul o laswellt yn rhannu'r stribedi. Mewn rhai mannau o'r rhostir mae'n anodd dod o hyd i'r trumiau hyn ond maent wedi goroesi fel gwrthgloddiau isel neu fel glasleiniau ar lethrau mwy serth. Mae gwrych ar wrthglawdd yn gwahanu'r rhostir oddi wrth y tir o'i gwmpas. Caiff ei dorri ar gyfer gwair ym misoedd Gorffennaf-Awst ac mae gwartheg yn pori yno yn ystod y gaeaf. Nid oes coetir yma. Mae'r archeoleg a gofnodwyd wedi'i chyfyngu i anheddiad Canoloesol posibl a oedd yn gysylltiedig â'r system caeau.

Nid oes unrhyw adeiladau yma.

Mae Rhostir Whitemoor yn un o oroeswyr prin y system caeau agored ac felly o ran cymeriad mae'n wahanol i'r ardaloedd tirlun hanesyddol o'i amgylch, gorlifdir afon Taf i'r gogledd ddwyrain, a'r ffermdir amgaeëdig i'r gogledd, gorllewin a'r de.