|
MIGNEN TALACHARN A PHENTYWYN
CYFEIRNOD GRID: SN 281086
ARDAL MEWN HECTARAU: 958.00
Cefndir Hanesyddol
O'r cyfnod cynhanesyddol hwyr tan yr Oesoedd Canol, roedd yr ardal
hon fwy na thebyg yn cynnwys morfa heli a chlytiau o dir pori garw ar
dir ychydig yn uwch, â lagynau dwr ffres a dwr lled hallt yn wasgaredig
yma ac acw. Mewn siartr bwrdeistref ym 1278-82 (Williams, n.d.) nodir
bod Syr Guy de Brian wedi rhoi breintiau a hawliau penodol i fwrdeisiaid
Talacharn 'ym mignen Talacharn o'r enw Menecors'. Fodd bynnag, mae'n glir
bod Syr Guy wedi cadw'r darn mwyaf o'r fignen ei hun fel rhan o ddemên
Arglwyddiaeth Talacharn, oblegid ar ei farwolaeth ym 1307, cofnodwyd 1000
o aceri o dir pori yn 'le Marcis' mewn Inquisition post Mortem (Llyfrgell
Genedlaethol Cymru 10118E Cyf.1). Ym 1595, cofnodir bod rhywun wedi byw
yno am y tro cyntaf, pan nodwyd 'llaethdai' Hurst House, East House a
Brook House mewn arolwg (Corfforaeth Talacharn). Saif y tri thy hyn naill
ai ar gyrion y fignen neu ar ynysoedd o dir uwch. Mae'r gair 'llaethdy'
yn awgrymu tir pori, efallai ar sail dymhorol, gan ei fod yn debygol y
byddai'r fignen yn dioddef llifogydd ac yn gorlifo yn ystod misoedd y
gaeaf. Cyn 1595, twyllodd Syr John Perrot, Arglwydd Talacharn gyfran fwrdeisiaid
Talacharn o'u cyfran o'r fignen, gan ei hychwanegu at y ddemên a sefydlwyd
gan Guy de Brian. Defnyddiodd Syr John y fignen ar gyfer ffermio defaid
ar raddfa fawr. Fodd bynnag, parhaodd ran fach o'r fignen a adwaenwyd
fel 'The Lees' yn nwylo'r bwrdeisiaid a chafodd ei ffermio yn ddiweddarach
drwy ddefnyddio'r system ffermio agored neu stribedi (Davies, 1955). Mae
'The Lees' yn parhau yn eiddo i Gorfforaeth Talacharn, er ei bod o ran
cymeriad yn union yr un fath â gweddill y fignen. Dim ond ym 1660, pan
aeth y fignen yn eiddo i Syr Sackville Crow, y dechreuwyd system ddraenio,
pan adeiladwyd morgloddiau (Murphy, ar fin ymddangos). Galluogodd y draenio
hwn sefydlu ffermydd newydd - proses a oedd yn gyflawn erbyn yr arolwg
degwm yn yr 1840au - ac erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd Mignen Talacharn
yn cynnwys y ffermdir gorau yn y sir. Disgrifiodd Charles Hassall (1794,
15) sut y gellid gwneud y tir yn fwy cynhyrchiol drwy godi gwrymiau ar
y tir gan ddefnyddio'r Aradr Iseldirol. Parhaodd y gwaith draenio yn y
19eg ganrif. Adeiladwyd morglawdd mawr o garreg, a chei, ym mhen dwyreiniol
y fignen ym 1800-10 gan George Watkins o Broadway ac fe'i cysylltwyd â
Chwarel Coygan gan dramffordd (James 1991, 150), a thua 1840 adeiladwyd
wal ar draws Nant Witchett. Ymddengys bod gwaith Watkins yn rhan o welliannau
helaeth gan fod y rhan fwyaf o'r ffermydd (a oedd i gyd yn rhan o ystad
Broadway) wedi'u hailadeiladu tua 1820 yn yr arddull 'Sioraidd' a chawsant
resi da o dai allan. Ffurfiwyd sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn
yn rhan ddeheuol a de-ddwyrain yr ardal hon o dirlun hanesyddol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
O ran cymeriad mae hon yn ardal tirlun hanesyddol sy'n cynnwys tir
gwastad o ryw 6km o hyd a 1.5km o led ychydig o fetrau yn unig yn uwch
na lefel y môr. Nodweddir y tir gan gaeau o dir pori sy'n rheolaidd o
ran eu siâp. Rhennir y caeau hyn gan ffosydd draenio ag iddynt ffensys
gwifrau fel arfer, er bod gwrychoedd isel yn gyfochrog â rhai o'r ffosydd
yng nghanol y Fignen, i'r de o chwarel Coygan. Tuag at ben dwyreiniol
y Fignen mae'r caeau'n llai rheolaidd o ran eu siâp ac maent yn tueddu
i adlewyrchu patrwm canghennog y morfa heli cyn iddo gael ei ddraenio.
Mae morglawdd mewn dwy ran yn gwahanu'r ardal hon oddi wrth y morfa heli
i'r dwyrain. Defnyddir y tir sydd wedi'i wella yn bennaf ar gyfer pori,
ond ceir pocedi o dir sydd heb ei wella. Ceir ychydig o dir âr ac nid
oes unrhyw hen goetir. Tuag at y pen gorllewinol mae'r tir yn mynd â'i
ben iddo ac mae brwyn yn tyfu yno. Mae'r system cefnen a rhych, neu yn
hytrach yn yr achos hwn cefnen a draen, ym mhob man ar wahân i rhwng y
ddau ddarn o forglawdd ar yr ymyl dwyreiniol. Mae'r system cefnen a rhych
hon yn elfen hynod o'r tirlun hanesyddol. Mae'r patrwm anheddu yn un o
ffermydd gwasgaredig. Ar y cyfan mae'r ffermydd yn adeiladau deulawr ac
wedi'u hadeiladu o garreg. Mae'r ffermdai yn yr arddull 'Sioraidd' ac
roedd gan y ffermydd resi mawr o dai allan wedi'u lleoli fel arfer o amgylch
buarth. Mae'r ffermydd ystadau hyn o ddechrau'r 19eg ganrif yn rhoi naws
bensaernïol arbennig i'r ardal. Mae adeiladau amaethyddol modern yn gysylltiedig
â'r ffermydd. Mae sefydliad ymchwil y Weinyddiaeth Amddiffyn yn rhan ddeheuol
yr ardal hon o dirlun hanesyddol wedi dileu llawer o elfennau'r tirlun.
Codwyd nifer o adeiladau newydd a llwybrau ac wrth blannu lleiniau cysgodi
a choetir prysgwydd i guddio'r sefydliad o'r golwg newidiwyd cymeriad
rhan o'r ardal ymhellach.
Mae'r holl nodweddion archeoleg a gofnodwyd yn ymwneud
ag adfer y tir a'r defnydd o'r tir a ddisgrifiwyd uchod.
Mae yna rai adeiladau nodweddiadol. Ceir dyddiadau ar gerrig
mewn nifer o'r ffermydd yn dynodi cyfnod helaeth o ailadeiladu gan ystad
Broadway tua 1820. Mae Hurst House a'i adeiladau fferm yn rhestredig ar
Radd II.
O ran cymeriad mae hon yn ardal hynod iawn gyda therfynau
pendant rhyngddi a'i chymdogion.
|