Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Bae Caerfyrddin Aber Afonydd Taf a Thywi >

 

LLANSTEFFAN

CYFEIRNOD GRID: SN 351107
ARDAL MEWN HECTARAU: 52.35

Cefndir Hanesyddol
Mae bryn serth yn edrych dros bentref Llansteffan i'r de, ac ar gopa'r bryn mae caer bentir o'r Oes Haearn mewn cyflwr da, a chastell ysblennydd o gerrig oddi mewn iddo. Sefydlwyd hwn gan y Normaniaid erbyn 1146, fel canolfan ffiwdal faenoraidd y cwmwd ac arglwyddiaeth Penrhyn (Avent 1991, 168-72). Nid oes gan y pentref hanes a brofwyd ei fod yn perthyn o'r Oesoedd Canol; cysegrwyd yr eglwys bellach i'r Sant Ystyffan Celtaidd - y dywedir iddo fod yn un o ddilynwyr Sant Teilo - ond efallai fod yr eglwys wedi'i chysegru'n wreiddiol i'r Sant Steffan Lladinaidd yn y cyfnod ar ôl y goresgyniad (Ludlow 1998). Nid oes unrhyw wirionedd yn y ffaith i garreg fedd Hywel Dda gael ei darganfod yn yr eglwys, fel a gofnodwyd ym 1876. Roedd yn eglwys y plwyf yn ystod y cyfnod ar ôl y Goresgyniad ac fe'i rhoddwyd, tua 1170, i Farchogion yr Ysbyty ym Mhencadlys Slebets gan Arglwydd Normanaidd Llansteffan ar y pryd, sef Geoffrey Marmion (Ludlow 1998). Rhoddwyd i Slebets bysgodfa a fferi ar draws Afon Tywi. Olynwyd arglwyddi Marmion gan deulu'r de Camvilles erbyn diwedd y 12fed ganrif (Avent 1991, 174), a meddiannwyd y castell hyd at yr 16eg ganrif. Erbyn diwedd y ganrif hon, fodd bynnag, sefydlwyd plasty, 'Y Plas', ar dir mwy gwastad i ogledd y castell, a dyma brif sedd y teulu Lloyd o Lansteffan hyd nes y cafodd ei ailadeiladu ymhellach i'r de yn yr 1780au (Jones 1987, 165). Mae gan Lansteffan draddodiad hir o ymwneud â llongau ac fe'i hystyriwyd yn borthladd ar ddiwedd y cyfnod Canoloesol, a pharhaodd masnachu gyda Ffrainc a Sbaen yn yr 17ef ganrif (James n.d.). Erbyn y 14eg ganrif roedd gan Lansteffan farchnad a dwy ffair (Rees 1932) ond nid oes unrhyw dystiolaeth i awgrymu bod yr anheddiad yn dref go iawn, ac ni roddwyd siartr iddo. Mewn gwirionedd mae ei dirwedd yn awgrymu nad oedd erioed yn fwy na phentref mawr, ac er bod rhai adeiladau wedi'u cynllunio'n stribedi hir, efallai fod y rhain wedi datblygu o dyddynnod yn hytrach na phlotiau o fwrdeisiaeth. Ym 1844 roedd yn dal i fod yn anheddiad cnewyllol, wedi'i ganoli o amgylch y gyffordd ger yr eglwys a thir comin yn ffin ar y traethlin, (map degwm). Fodd bynnag roedd y fferi yn dal i weithredu (gweler Ardal 153) ac ar ei anterth gallai Llansteffan ymffrostio yn ei 8 ty tafarn (James n.d.). Mae'r darn gwyrdd presennol o dir yng ngogledd y pentref wedi'i greu yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae ardal tirlun hanesyddol Llansteffan yn cwmpasu amrywiaeth eang o elfennau tirlun hanesyddol. Wedi'i leoli ar lan gorllewinol aber Tywi lle y mae glannau môr isel yn amddiffyn elfennau is yr anheddiad, saif Llansteffan ar dir uchel sy'n cyrraedd uchderau o 50 m ger y castell. Mae craidd yr anheddiad yn glwstwr o amgylch eglwys blwyf Ganoloesol Sant Ystyffan ac ar hyd un stryd. Yma mae anheddau, siopau a thafarndai wedi'u hadeiladu o garreg gyda thoeau llechi ac yn dyddio gan fwyaf i ddiwedd y 18fed a dechrau'r 19eg ganrif. Mae ail gnewyllyn hanesyddol o flaen yr aber. Yn y fan hon, fodd bynnag, ychwanegwyd datblygiad o ddiwedd yr 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau at y bythynnod carreg a'r adeiladau mwy sylweddol o'r 19eg ganrif. Mae stadau bach o dai o'r 20fed ganrif, anheddau unigol, caeau chwaraeon a gwasanaethau di-nod eraill yn cysylltu'r ddau glwstwr hanesyddol. Ar gyrion yr anheddiad, i'r de, saif Y Plas gyda'i ffermdy a'i barcdir sydd wedi dirywio bellach. Yn uchel ar y bryn uwchben aber Tywi mae castell Canoloesol Llansteffan yn edrych dros y dref. Mae adfeilion gwaith cerrig Canoloesol y castell hwn yn sylweddol, ac mae cloddweithiau yn adlewyrchu cymeriad y safle amddiffynnol o'r Oes Haearn. Yn yr ardal hon ceir llethrau serth lle saif y castell, ag eithin a phrysgwydd yn gorchuddio'r llethrau.

Yr archeoleg a gofnodwyd yn yr ardal hon yn bennaf yw'r adeiladau a'r hen adeiladweithiau yn bennaf, ond mae cyfuniad o gloddweithiau ger Y Plas - fferm?, a cheir safle anheddiad anhysbys i'r gorllewin, lle y cofnodir colomendy posibl yn yr enw Cymraeg 'Clomendy'. Ceir rhai adeiladau nodweddiadol yma. Mae'r castell yn Heneb Gofrestredig ac yn adeilad rhestredig Gradd I, yn dyddio yn bennaf o'r 13eg ganrif. Mae Eglwys Sant Ystyffan yn adeilad rhestredig Gradd B gydag elfennau canoloesol sylweddol. Mae plasty'r Plas yn adeilad wedi'i restru'n Radd II o ddiwedd y 18fed ganrif. Mae adeiladau Ôl-ganoloesol hefyd yn cynnwys hen dafarnau, un ohonynt wedi'i rhestru'n Radd II, melin, ffald, gefail, capeli Anghydffurfiol a dau flwch ffôn o fath K6, ac mae'r ddau ohonynt wedi'u rhestru'n Radd II.

Ardal tirlun â ffin bendant wedi'i chyfyngu i ardal ddatblygedig pentref Llansteffan, a bryn y castell.