MORFA
BYCHAN
CYFEIRNOD GRID: SN 195081
ARDAL MEWN HECTARAU: 192.5
Cefndir Hanesyddol
Ardal o blwyf Marros a fu yn eiddo i Arglwyddiaeth Talacharn erioed
yn ystod y cyfnod hanesyddol. Gan fod y tir hwn yn gorwedd ar lethrau
arfordirol serth uwchlaw clogwyni, ac yn cynnwys clogwyni isel a llethrau
sgri, mae'n debygol y'i defnyddiwyd fel ffin erioed, ac ymddengys iddo
gael ei ddal fel tir comin hyd y 19eg ganrif. Mae nifer o garneddau (y
symudwyd y mwyafrif ohonynt bellach pan wellhawyd y tir) mewn ardaloedd
clirio, gwrthgloddiau isel o gerrig mawrion ac olion aneddiadau y ciliwyd
ohonynt ar y rhannau llai serth o'r llethr arfordirol, yn tystio i aneddiadau
a thrin y tir ar un adeg, o bosibl yn ystod yr Oesoedd Canol (Murphy 1988).
Roedd rhywun yn byw mewn bwthyn ym Morfa Bychan hyd ddiwedd y 19eg ganrif
o leiaf (Curtis 1880). Isrannwyd rhan o'r tir yn dilyn Dyfarniad Cau Tir
Seneddol ym 1864 (Chapman 1992, 71), ond ychydig o effaith gyffredinol
gafodd hyn ar y tirlun ac aeth y ffiniau a grëwyd yn segur yn fuan. Mae
odynau calch a chwareli calchfaen ar hyd dyffryn Morfa Bychan, a hefyd
mwyngloddio arbrofol ar y llethr arfordirol islaw Castell Uchaf, yn tystio
i ddefnydd economaidd pellach o'r ardal yn ystod y 19eg ganrif. Yn ystod
yr Ail Ryfel Byd adeiladwyd morgloddiau - mae dwy wal anferthol atal tanciau
yn goroesi a gellir gweld adeileddau rhynglanwol yn achlysurol yn y tywod
symudol ar y traeth. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif adeiladwyd
gorsaf bwmpio fach yn ymyl y blaendraeth, a sefydlwyd planhigfa coedwigaeth
yn Teague's Wood.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad ac elfennau tirlun hanesyddol hanfodol
Mae hon yn ardal agored iawn ac yn cynnwys ochrau dyffrynnoedd
garw, serth a llethrau arfordirol yn codi o lefel y môr i dros 125m. Mae'r
defnydd o'r tir yn cynnwys rhostir yn bennaf â choetir collddail hynafol
ar ochrau dyffrynnoedd cysgodol ym Morfa Bychan, a phlanhigfa o gonifferau
o'r 20fed ganrif yn Teague's Wood. Mae holl elfennau'r tirlun hanesyddol
bron yn greiriol; maent yn cynnwys ffiniau cerrig mawr isel, ychydig o
wrthgloddiau ffiniol, chwareli calchfaen ac odynau calch, ac amddiffynfeydd
o'r Ail Ryfel Byd.
Mae archeoleg yr ardal gymharol fach hon yn gyfoethog ac
yn gymhleth, ac, yn ogystal â nodweddion creiriol y tirlun a grybwyllwyd
uchod, yn cynnwys dwy gaer bentir o'r Oes Haearn, pedair o garneddi siambrog
o'r Oes Neolithig/Efydd, tomen gladdu o'r Oes Efydd, tomen losg o bosibl,
olion aneddiadau Canoloesol ac Ôl-ganoloesol gan gynnwys cytiau hirion
o bosibl, a thystiolaeth o brosesu calchfaen ar ffurf chwareli ac odynau
calch.
Ni cheir dim adeiladau i bob pwrpas.
|