Afon Groes
Nodweddir tirwedd Afon Groes gan ffermydd gwasgaredig mewn tirwedd
o gaeau bach â gwrychoedd o bob tu iddynt sy’n ymestyn
ar hyd lloriau dyffrynnoedd nifer o afonydd bach ac sydd wedi’u
hamgáu gan ucheldir. |
|
Berthddu
Mae ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori wedi’i wella
a rennir gan gloddiau a gwrychoedd yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol Berthddu. |
|
Berwyn
Mae Berwyn yn cynnwys llawr a llethrau is dyffryn llethrog, ucheldirol.
Mae’r caeau yn fach ac fe’u rhennir gan gloddiau caregog
neu waliau sych. Nid oes ond dwy fferm yn yr ardal. |
|
Blaen
Sychnant
Mae bythynnod anghyfannedd a chaeau nas defnyddir bellach wedi’u
lleoli mewn tir pori wedi’i wella a phocedi o dir pori garw
yn nodweddu tirwedd hanesyddol Blaen Sychnant. |
|
Blaenaucaron
Mae caeau a rennir gan gloddiau a gwrychoedd neu waliau sych, a
ffermydd bach, gwasgaredig sy’n ymestyn ar draws llawr agored
a llethrau is Afon Groes a’i rhagnentydd yn nodweddu tirwedd
Blaenaucaron.
|
|
Bwlchddwyallt
& Blaengorffen
Caeau mawr o dir pori wedi’i wella a ffermydd gwasgaredig
yw prif elfennau ardal dirwedd hanesyddol Bwlchddwyallt a Blaengorffen.
Mae clystyrau bach o goetir collddail gwasgaredig yn rhoi naws parcdir
i rannau o’r dirwedd. |
|
Capel Helaeth
Mae Capel Helaeth yn cynnwys tyddynnod a bythynnod gwasgaredig
yn dyddio o’r 19eg ganrif mewn tirwedd o gaeau o dir pori.
Mae llawer o’r ffiniau traddodiadol a ffurfir gan wrychoedd
bellach yn ddiangen ac maent wedi’u disodli gan ffensys gwifren.
Ceir nifer o fythynnod a thyddynnod anghyfannedd. |
|
Cefn-Meurig
Caeau bach, afreolaidd eu siâp a rennir gan gloddiau a gwrychoedd
neu, yn llai cyffredin, waliau sych, a phatrwm anheddu o ffermydd
gwasgaredig yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cefn-Meurig.
|
|
Cnwch
Mae Cnwch yn boced o rostir agored sydd â phlanhigfeydd o
goed coniffer yn dyddio o’r 20fed ganrif o bob tu iddi bron.
Nid oes unrhyw aneddiadau yn yr ardal, ond mae olion gweithgarwch
cloddio am gerrig yn elfen yn y dirwedd hanesyddol. |
|
Cors
Caron
Mae Cors Caron yn gyforgors fawr o fewn rhan uchaf dyffryn Afon
Teifi. |
|
Craig
y Bwlch
Rhostir agored sy’n cynnwys tystiolaeth o gyn-aneddiadau
a chyn-systemau caeau, a chwarel gerrig weithredol fawr yw prif
elfennau tirwedd Craig y Bwlch. |
|
Craig-y-Fintan
Mae Craig-y-Fintan yn llain o lethr serth agored, yn ogystal â
llwyfandir sy’n codi i dros 450m. Erbyn hyn gwahenir yr ardal
hon a lleiniau ehangach o rostir gan blanhigfa o goed coniffer.
Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae hen waliau carreg sych a arferai
rannu caeau i’w gweld. |
|
Craig
Ystradmeurig
Mae rhostir creigiog a phocedi o dir pori wedi’i wella yn
nodweddu ardal dirwedd hanesyddol fach Craig Ystradmeurig. |
|
Cwm Berwyn
Planhigfeydd o goed coniffer a sefydlwyd yn y 1960au yw prif elfennau
tirwedd hanesyddol Cwm Berwyn. Fe’u plannwyd dros rostir agored
gan mwyaf, ond mae nifer o hen systemau caeau ac aneddiadau, a safleoedd
angladdol a defodol yn dyddio o’r Oes Efydd hefyd wedi’u
gorchuddio gan y coedwigoedd. |
|
Cwm Gwyddyl
Ffermydd a bythynnod gwasgaredig – y mae rhai ohonynt yn
anghyfannedd – a leolir mewn dyffryn llydan, agored yw rhai
o brif elfennau tirwedd Cwm Gwyddyl. Ymddengys fod yr ardal hon
yn cynnwys tir pori garw agored yn bennaf, ond o edrych arni’n
fanylach gwelir nifer fawr o hen ffiniau caeau a phocedi o dir pori
wedi’i wella.
|
|
Cyrtau
& Brynhownant
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Cyrtau a Bryn-Hownant yn
cynnwys caeau canolig eu maint o dir pori ar lethr rhwng tirweddau
o ffermydd/tir amaeth is a rhostir agored uwch. |
|
Dolbeudiau-Dolyrychan
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Dolbeudiau – Dolyrychain
yn cynnwys ffermydd gwasgaredig a chaeau bach a chanolig eu maint
o dir pori wedi’i wella.
|
|
Ffair
Rhos
Mae dosbarthiad eithaf niferus o fythynnod a thyddynnod yn dyddio
o’r 19eg ganrif a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel aneddiadau
sgwatwyr, mewn tirwedd o dir pori garw ac ychydig o dir pori wedi’i
wella yn ffurfio tirwedd Ffair Rhos. |
|
Fulbrook
Mae Fullbrook yn dirwedd o ffermydd bach, gwasgaredig a chaeau
bach wedi’u rhannu gan gloddiau â gwrychoedd, a leolir
ar dir bryniog i’r gorllewin o Gors Caron. |
|
Geufron Hendrefelen
Mae ychydig o ffermydd gwasgaredig a chaeau bach, afreolaidd eu
siâp o dir pori a rennir gan gloddiau â gwrychoedd yn
nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Geufron – Hendre-Felen.
|
|
Gwar
Castell
Dechreuodd Gwar Castell fel anheddiad sgwatwyr yn y 18fed ganrif
a’r 19eg ganrif, ond erbyn hyn mae pob un o’r tai niferus
yma ar wahân i un yn anghyfannedd. Ar wahân i bocedi
o dir pori wedi’i wella, mae’r tir wedi troi’n
dir pori garw/rhostir unwaith eto. |
|
Heolfryn
& Dolbeudiau
Mae tirwedd Heolfryn a Dolbeudlau yn cynnwys system gaeau reolaidd
o gloddiau ac arnynt wrychoedd a sefydlwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif
a dechrau’r 19eg ganrif, ac ychydig o ffermydd a thai gwasgaredig. |
|
Llethr
Llwyd
Mae rhostir agored a llawer o safleoedd angladdol a defodol yn
dyddio o’r Oes Efydd, ac olion nifer o aneddiadau Canoloesol
ac ôl-Ganoloesol yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol
Llethr Llwyd.
|
|
Llwynmalus
Caeau o bach a chanolig eu maint a rennir gan wrychoedd ar gloddiau
yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach Llwynmalus.
Nid oes unrhyw aneddiadau.
|
|
Mynydd Bach
Cwm Ystwyth
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Mynydd Bach – Cwm Ystwyth
yn cynnwys planhigfeydd o goed coniffer yn dyddio o’r 20fed
ganrif. Fe’u sefydlwyd dros dir agored neu goetir collddail.
|
|
Nant Cou &
Nant Ochrgarreg
Mae ffermydd bach gwasgaredig, caeau afreolaidd eu siâp,
clystyrau o goetir collddail, tir pori garw a thir pori wedi’i
wella ar gyrion rhostir uchel, agored yn nodweddu ardal gymeriad
tirwedd hanesyddol Nant Cou a Nant Ochrgarreg. |
|
Pantyfedwen
& Crofftau
Ambell fferm wasgaredig, caeau wedi’u rhannu gan gloddiau
a gwrychoedd neu waliau sych, tir pori wedi’i wella a phocedi
o dir pori garw, a chlystyrau o goetir collddail a choniferaidd
yw prif elfennau ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ymylol ucheldirol
Pantyfedwen a Chrofftau. |
|
Pen-y-Graig
Caeau bach o dir pori wedi’i wella a rennir gan waliau sych
ac ambell wrych ar gloddiau, ac ychydig o ffermydd gwasgaredig yw
prif elfennau tirwedd hanesyddol Pen-y-Graig. |
|
Pontrhydfendigaid
Datblygodd Pontrhydfendigaid ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn y
19eg ganrif ar y cyd â’r diwydiant cloddio plwm a oedd
yn tyfu. Pentref bach ydyw, sy’n cynnwys tai gweithwyr yn
dyddio o ail hanner y 19eg ganrif yn bennaf, a thai modern a chyfleusterau
eraill a adeiladwyd ar gyrion y pentref. |
|
Rhos
Brynberllan
Mae Rhos Brynberllan yn fryn bach o hen rostir a orchuddir bellach
gan dir pori wedi’i wella gan mwyaf sydd wedi’i amgáu
â rhai ffensys gwifren. Ceir ychydig o goetir collddail ar
un o’i lethrau. Lleolir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn
ar y bryn. |
|
Sunnyhill
Mae ffermydd sylweddol gwasgaredig, caeau o dir pori wedi’i
wella a rennir gan gloddiau â gwrychoedd a choetir collddail
ar rai llethrau yn nodweddu tirwedd hanesyddol Sunnyhill. |
|
Swyddffynnon
Mae patrwm anheddu tirwedd hanesyddol Swyddffynnon yn cynnwys ffermydd
bach gwasgaredig a phentrefan. Fe’u lleolir mewn tirwedd o
dir pori wedi’i wella a rennir yn gaeau bach gan wrychoedd
ar gloddiau. |
|
Tanygraig
Nodweddir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach Tanygraig gan
ychydig o ffermydd gwasgaredig a chaeau o dir pori a rennir gan
waliau sych. |
|
Tregaron
Tref fach Tregaron yw’r unig anheddiad sylweddol yn ucheldir
Ceredigion. Nid yw’n dref gynlluniedig ac mae ffryntiau adeiladau
yn ffinio â strydoedd troellog cul. Ar wahân i’r
plwyf canoloesol mae’r mwyafrif o’r adeiladau yn dyddio
o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Mae’r tai yn
fach ac fel arfer mewn terasau byr. |
|
Tyn-y-banadl
Mae Tyn-y-Banadl yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach ar gyrion
Cors Caron, sy’n cynnwys system o gaeau rheolaidd eu siâp
a rennir gan gloddiau â gwrychoedd. Nid oes unrhyw aneddiadau.
|
|
Tyngraig
Mae ffermydd gwasgaredig, ffiniau caeau ar ffurf cloddiau â
gwrychoedd neu waliau sych, pentrefan llinellol yn dyddio o’r
19eg ganrif, coetir collddail, planhigfeydd bach o goed coniffer,
a thir pori wedi’i wella i gyd yn elfennau yn nhirwedd hanesyddol
Tyngraig. |
|
Tai-unnos
Mae bythynnod a thai anghyfannedd aneddiadau sgwatwyr yn dyddio
o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif sydd bellach wedi’u
lleoli mewn rhostir a thir pori garw yn nodweddu tirwedd hanesyddol
Tai-unnos. |
|
Y Drum
Mae’r Drum yn llain gymharol fach o rostir agored. Yn gwahanu’r
ardal hon a lleiniau ehangach o dir agored ceir planhigfa o goed.
Nid oes unrhyw aneddiadau, ond mae safleoedd yr hyn sy’n debygol
o fod yn dai ôl-Ganoloesol yn nodi tirwedd a gâi ei
defnyddio lawer mwy yn y gorffennol. |
|
Ystrad Caron
Mae caeau rheolaidd eu siâp o dir pori wedi’i wella
a rennir gan gloddiau â gwrychoedd a chwpl o ffermydd sylweddol
yn nodweddu tirwedd Ystrad Caron.
|
|
Caeau
Ysbyty Ystwyth
Ardal tirwedd hanesyddol system gaeau Ysbyty Ystwyth yw’r
unig system o gaeau âr wedi’u hisrannu a nodwyd yn ucheldir
Ceredigion. Roedd wedi’i hamgáu i ffurfio’r patrwm
o gaeau bach a welir heddiw erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Fe’i
nodweddir bellach gan dir pori, tir pori garw a phlanhigfeydd bach
o goed coniffer, er bod olion y system gynharach i’w gweld
o hyd.
|
|
Ystrad Fflur
Saif olion Abaty Ystrad Fflur, sef eglwys ôl-ganoloesol a
Great Abbey Farm yn dyddio o’r 17eg ganrif – 19eg ganrif
yng nghanol tirwedd Ystrad Fflur. Fodd bynnag, yn ei hanfod tirwedd
amaethyddol o ffermydd gwasgaredig a chaeau ydyw, yn cynnwys rhai
olion yn gysylltiedig â’r diwydiant cloddio plwm. |
|
Ysbyty
Ystwyth & Pont-Rhyd-y-Groes
Mae Ysbyty Ystwyth a Phont-rhyd-y-groes yn ardal gymeriad tirwedd
hanesyddol gymhleth. Mae’n cynnwys dau bentref sydd at ei
gilydd yn rhai diwydiannol, ond bod Ysbyty Ystwyth wedi dechrau
fel anheddiad amaethyddol. Nodweddir gweddill yr ardal gan aneddiadau
sgwatwyr gwasgaredig, ambell fferm fach, ac olion y diwydiant cloddio
plwm. |
|
Ystradmeurig
Mae grwp o adeiladau yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ffurfio
pentref Ystradmeurig, a cheir tai modern yn Nhynyffordd. Fodd bynnag,
at ei gilydd mae hon yn dirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig
a chaeau bach o dir pori. |
|