Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

WDIG

WDIG

CYFEIRNOD GRID: SM 943382
ARDAL MEWN HECTARAU: 113

Cefndir Hanesyddol

Llain gul o dir o fewn ffiniau modern Sir Benfro, i’r gorllewin o Borthladd Abergwaun, Nant Wdig a Gwaun Wdig. Erbyn hyn mae’r ardal yn cynnwys ardal adeiledig tref Wdig yn bennaf, a ddatblygodd bron yn gyfan gwbl yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Prin yw’r aneddiadau cynharach a gofnodwyd; gorweddai y tu allan i fwrdeistref ganoloesol Abergwaun a bwrdeistref ddiweddarach Abergwaun. Mae rhan ogleddol yr ardal, lle y saif Gorsaf Fferi Wdig a’i ddatblygiadau cysylltiedig bellach, yn gorwedd ar dir a grëwyd tua 1906 i gysylltu’r orsaf fferi â morglawdd mawr. Yn hanesyddol roedd y pentir lle y codwyd y morglawdd, sef Pwynt Pen-cw, fwy neu lai yn ynys. Fodd bynnag, mae carreg forthwyl ?neolithig a ddarganfuwyd ar y llethr uwchben Pwynt Pen-cw, llawr gweithio fflint posibl, crug crwn posibl a thlws bylchgrwn pwysig yn dyddio o ddechrau’r Oesoedd Canol a ddarganfuwyd ar draeth Wdig, i gyd yn arwydd o bresenoldeb dynol, os nad anheddiad, cynharach. At hynny, rhoddwyd yr enw Pwllgwdig ar yr ardal mor gynnar â 1074 pan oedd yn lleoliad brwydr rhwng Tywysogion Cymreig rhyfelgar. Nodwyd Gwaun Wdig yn betrus fel lleoliad y frwydr hon. Tua diwedd y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog neu ‘Dewisland’. Delid Pebidiog yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r Esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. Efallai i Gomin Pwll-hir yr adeiladwyd rhan o’r dref arno gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol, ond nid oes ganddo unrhyw hanes cynnar a gofnodwyd. Gwelir nifer o nodweddion ffisegol sy’n gysylltiedig â gweithgarwch adfer tir ar forfeydd heli uchel Gwaun Wdig, gan gynnwys y gwaith a wnaed i gamlesu Nant Wdig ar ?ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol a sawl cloddwaith arall. Efallai i Esgobion Tyddewi a oedd yn berchen ar ddolydd morfeydd heli yma tan yr 20fed ganrif wneud rhywfaint o waith i ddraenio’r tir hwn. Ymddengys i bentrefan bach cnewyllol yn y Dyffryn, a safai ar ynys o dir amgaeedig ar y morfa heli, ddatblygu o dy bonedd Dyffryn Goodwick. Roedd y ty, y gall fod cyfeiriad ato mewn gweithred ddyddiedig 1595, yn bendant mewn bodolaeth ym 1624 ac mae’r safle yno o hyd. I’r gogledd roedd ty bonedd - Goodwick House - wedi’i adeiladu ar ran o Dir Comin Pwll-hir uwchben y porthladd, cyn 1702. Roedd cei wedi’i adeiladu hefyd ar safle’r morglawdd (a welir ar fap dyddiedig 1815). Mae map degwm 1845 yn dangos tair elfen hynod o’r hyn a fyddai’n ffurfio tref Wdig - y cei gydag anheddiad bychan, cnewyllyn bach o dai ar y groesffordd ar y blaendraeth a phentrefan y Dyffryn. Yn wir, ni ddechreuwyd datblygu’r ardal hon mewn gwirionedd tan 1906 pan agorwyd yr orsaf fferi a’r cysylltiad rheilffordd o Hwlffordd gan y Great Western Railway, Rheilffordd Abergwaun a Rosslare a Phacedlong Dinas Cork. Dangosir y rheilffordd, y morglawdd a’r cyfleusterau porthladd newydd oll ar fap AO 1908 ac mae llawer o’r strwythurau presennol yn cynnwys elfennau sylweddol o’r adeiladau gwreiddiol hyn, yn enwedig yr orsaf reilffordd, y siediau injan a’r hen dollty. Prynwyd Goodwick House gan y GWR a’i ailgodi fel Gwesty Fishguard Bay. Dengys y map fod Dyffryn erbyn hynny wedi’i gysylltu â phrif anheddiad Wdig gan y rheilffordd a bu’n rhaid codi tai newydd ar lawr y dyffryn ac i fyny llethrau serth y dyffryn. Roedd cyfyngiadau’r safle eisoes yn amlwg, am fod terasau o dai wedi’u hadeiladu ar y tir gwastad yn uchel uwchlaw’r porthladd. Ysbeidiol fu’r datblygiadau yn ystod yr 20fed ganrif. Parhaodd datblygiadau tai i ymestyn ar hyd llawr y dyffryn gan gysylltu Dyffryn â Wdig ei hun ac ar lethrau serth y dyffryn. Yn ystod chwarter olaf yr 20fed ganrif gwelwyd cryn dipyn o ddatblygiadau masnachol ar y morfa y tu ôl i’r blaendraeth a gwnaed cryn welliannau i seilwaith y porthladd.

WDIG

Disgrifiadau ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Wdig yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol drefol fach a leolir ar safle cyfyngedig yn ymestyn dros lethr serth y dyffryn yn wynebu’r de-orllewin ac ar lawr dyffryn cul. Er mai anheddiad cnewyllol ydyw, mae naws wledig i rannau o Wdig oherwydd y mannau agored a’r coetir ar lethrau serth y dyffryn rhwng y tai. I’r dwyrain ceir y môr a llain o forfa arfordirol. Craidd a raison d’ètre yr anheddiad yw porthladd a rheilffordd Wdig. Prin yw’r elfennau tirwedd hanesyddol sy’n gynharach na’r 19eg ganrif ac mae’r rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif. Ceir rhan hynaf yr ardal yn y Dyffryn. Yma ceir adeiladau hyn o gerrig, gan gynnwys Dyffryn House, ty sylweddol wedi’i adeiladu o gerrig a chanddo elfennau yn dyddio o’r 16eg ganrif, a hen felin ddwr. O’r craidd masnachol/diwydiannol yn y porthladd mae aneddiadau preswyl yn ymestyn ar hyd llawr y dyffryn ac ar lethrau’r dyffryn. Mae rhan breswyl ganolog, hynaf Wdig wedi’i chanoli ar gyffordd wrth droed llethr y dyffryn. Yma mae’r siopau, y tai, y tafarndai a’r capeli yn dyddio o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif. Mae cryn amrywiaeth yn y deunyddiau a’r arddulliau adeiladu. Mae’r deunyddiau’n amrywio o frics coch i gerrig moel a cherrig wedi’u rendro â sment. Mae haearn rhychog yn diogelu’r waliau ar rai adeiladau. Ymhlith yr adeiladau hyn mae’r neuadd haearn rhychog – sef cyn-Sefydliad Wdig a godwyd tua 1900. Mae’r adeiladau o gerrig at ei gilydd yn dyddio o gyfnod cynharach ac maent yn cynnwys bythynnod yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Mae eglwys San Pedr sydd yn yr arddull gothig yn dyddio o 1910. Llechi yw’r deunydd toi mwyaf cyffredin. Lleolir datblygiadau llinellol yn cynnwys tai teras a adeiladwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif fel unedau unigol ar lawr y dyffryn, tra datblygwyd terasau mwy anffurfiol, tai ar wahân a thai pâr ar lethrau cyfyng y dyffryn. Mae’r rhain, unwaith eto, yn adlewyrchu amrywiaeth o arddulliau a deunyddiau, ond mae llawer o adeiladau yn arddangos portshys, ffenestri ac addurniadau eraill yn yr arddull neo-gothig. Yn ystod yr 20fed ganrif codwyd ystadau tai llinellol bach ar y llethrau uwch sy’n llai serth ar yr isffordd i gyfeiriad Stop-and-Call ac ar y llwyfandir uwchlaw porthladd Wdig, yn ogystal ag ar hyd priffordd yr A487 (sydd bellach yn dawel ers adeiladu Ffordd Osgoi Dwyrain Abergwaun) i’r de-ddwyrain o’r hen graidd preswyl. Mae llawer o adeiladau brics coch sy’n dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif i’w gweld o hyd yn yr orsaf reilffordd ar y cei. Mae cyn-dy’r gorsaf-feistr a adeiladwyd o frics ar Station Hill. Gerllaw, mae Gwesty Fishguard Bay yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ond fe’i hehangwyd ym 1905 gan y Great Western Railway i baratoi ar gyfer teithwyr yn croesi’r Iwerydd. Mae gerddi’r gwesty, a luniwyd yn ystod degawd cyntaf yr 20fed ganrif wedi’u cynnwys yng Nghofrestr Parciau a Gerddi Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro. Mae sawl strwythur rhestredig yn Wdig yn cynnwys adeiladau cyhoeddus a bythynnod hyn, ond nid ydynt yn cynnwys y tai teras nodweddiadol sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif na thai eraill. Mae’r rhan fwyaf o’r porthladd a’i gyfleusterau yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif ac mae’n cynnwys y seilwaith helaeth ar gyfer y llongau fferi ceir i Iwerddon. Un o brif nodweddion yr ardal hon yw’r prif forglawdd gogleddol, sy’n dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif; nid yw’r morglawdd dwyreiniol llai o faint yn nodwedd mor amlwg. Datblygwyd gorsafoedd petrol, diwydiant ysgafn, a chyfleusterau hamdden ar ddiwedd yr 20fed ganrif ar dir a adferwyd ar hyd yr A40 (Cefnffordd) sy’n rhedeg ar hyd glan y môr. Yn yr ardal hon ceir lleiniau bychan o lethrau arfordirol serth. Mae’r archaeoleg a gofnodwyd yn ymwneud yn bennaf â strwythurau sy’n dyddio o’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif sy’n gysylltiedig â’r porthladd a’r dref. Ond mae crug crwn a allai ddyddio o’r oes efydd a safle gweithio fflint cynhanesyddol wedi’u lleoli yn yr ardal.

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig iawn sy’n cyferbynnu â thir fferm a morfeydd cyfagos. Ceir llain o forfa a blaendraeth rhyngddi ac ardal drefol hyn Abergwaun.

Ffynonellau: Cadw 2002; Charles 1992; James 1981; Jones 1952; Jones 1996; map degwm Plwyf Llanwnda; Ludlow 1994; Taflen IV.SE Sir Benfro Arolwg Ordnans, 1891 a 1901; Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru 1925; Roberts ac eraill 1986

MAP WDIG

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221