Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Pencaer >

 

GARNWNDA

GARNWNDA

CYFEIRNOD GRID: SM 932391
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 9

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro sy’n cynnwys bryncyn creigiog ychydig i’r de o bentrefan Llanwnda, ym mhlwyf Llanwnda. Yn ystod y cyfnod canoloesol roedd yr ardal yn rhan o gantref canoloesol Pebidiog, yr oedd iddo’r un ffiniau â chantref diweddarach Dewsland a grëwyd ym 1536. Fe’i delid yn uniongyrchol gan esgobion Tyddewi, a bu’n graidd i’r esgobaeth ers 1028 pan y’i rhoddwyd (neu y’i cadarnhawyd) gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y Goresgyniad Eingl-Normanaidd, i’r Esgob Sulien. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob Tyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraethu ffiwdal a gweinyddu eglwysig i Bebidiog ac ymestynnai ardal gymeriad Llanwnda dros Villa Grandi, y cyfeiriwyd ati fel maenor ym 1326 ond nid yn yr ystyr Eingl-Normanaidd, ffurfiol efallai. Ar ben hynny ymddengys i systemau tirddaliadaeth Cymreig barhau, er iddynt gael eu haddasu mewn gwahanol ffyrdd, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’n debyg mai ardal/tir?? agored a fu’r ardal gymeriad hon erioed ac ni wnaed unrhyw ddefnydd dwys o’r tir erioed. Fe’i dangosir yn ei ffurf bresennol ar fap degwm 1845, ac mae’n bosibl ei bod wedi’i dal cyn hynny fel tir diffaith anffurfiol neu dir comin. Fodd bynnag, roedd yn ganolbwynt i weithgarwch defodol ac angladdol cynhanesyddol, a amlygir gan feddrod siambr neolithig a maen hir yn dyddio o’r oes efydd, y gellir eu gweld yn glir o henebion tebyg yn ardal gymeriad Garn Fawr i’r gorllewin.

GARNWNDA

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon, sydd ond yn cynnwys naw hectar o rostir creigiog yng nghanol tir amaeth, yn fach iawn ond mae’n nodedig er hynny. Mae Garnwnda yn codi fel brigiad creigiog o rostir i dros 160m. Er ei bod yn nodedig, prin yw’r elfennau tirwedd hanesyddol, ac fe’i nodweddir gan ei natur agored. Nid oes unrhyw adeiladau. Mae safleoedd archeolegol yn cynnwys beddrod siambr neolithig cofrestredig, maen hir yn dyddio o’r oes efydd a maen hir posibl.

Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol nodedig ac mae’n cyferbynnu â’r dirwedd o ffermydd a chaeau o’i hamgylch.

Ffynonellau: Map degwm plwyf Llanwnda 1845

MAP GARNWNDA

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221