Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

Y GARN - PARKE

Y GARN - PARKE

CYFEIRNOD GRID : SN 040377
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 224

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys llain gul o dir wedi’i amgáu a ‘bythynnod’ yn gorwedd rhwng Mynydd Carningli a Threfdraeth. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a bu ym meddiant y teulu hwnnw, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y Farwniaeth yn rhannu yr un ffiniau â chantref Cemais, a grëwyd yn ddiweddarach yn 1536, ond goroesodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai mor hwyr â 1922. Gorwedda’r ardal hon ar hyd ymyl ogleddol rhostir Mynydd Carningli sydd heb ei amgáu ac mae’n debyg hefyd fod yr ardal honno heb ei hamgáu yn ystod y cyfnod canoloesol, gan ffurfio rhan o gomin (gweler ardal gymeriad Carningli). Nid oes dim tystiolaeth uniongyrchol o gaeau cynnar yn ardal gymeriad y Garn Parke ond cafodd systemau caeau cynhanesyddol eu cofnodi ar Fynydd Carningli. Daliwyd y comin yn uniongyrchol gan Arglwyddi Cemaes, ond yn 1278 cyhoeddodd Nicholas Fitzmartin siarter, yn pennu ffiniau’r fwrdeistref ac yn rhoi i’r bwrdeiswyr yr hawl i bori cyffredin ar ei holl dir gwlyb a sych, ei rostiroedd a’i fawndiroedd ar Fynydd Carningli. Mae’r briffordd ganoloesol rhwng Trefdraeth a Hwlffordd ‘Ffordd Bedd Morris’ yn croesi’r ardal hon, a chofnodwyd daliad Parc-y-marriage, sy’n gorwedd yn rhannol o fewn yr ardal hon, fel demên yn siarter Nicholas Fitzmartin. Ymddengys hefyd fod capel canoloesol i bererinion o’r enw Capel Curig yn sefyll yn yr ardal ar un adeg, ond nid yw ei leoliad yn hysbys. Anaml yr oedd unrhyw aneddiadau yn gysylltiedig â chapeli o’r fath. Yn wir ymddengys bod y rhan fwyaf o’r ardal hon yn gorwedd o fewn tir comin heb ei amgáu, a ymestynnai hyd at Drefdraeth a’r castell fwy na thebyg; awgryma arolygon o 1434 a 1594 fod terfyn deheuol y dref yn debyg iawn i derfyn heddiw. Yn wir mae ffurf y cae presennol yn awgrymu ei fod yn enghraifft o lechfeddiannu tir comin mewn cyfnod ôl-ganoloesol. Ymddengys bod darlun gan J ‘Warwick’ Smith, o 1787, yn dangos tir agored yn ymestyn i’r castell, gan awgrymu bod peth o’r tir amgaeëdig hwn yn dra diweddar, ond efallai mai confensiwn artistig ydyw. O edrych yn fanwl ar y tir caeëdig gwelir dau batrwm penodol. Mae un yn cynnwys caeau bach o siâp afreolaidd a grewyd drwy amgáu anffurfiol, o bosibl yn deillio o anheddiad ‘sgwatwyr’ sy’n nodweddiadol o’r 18fed ganrif a hanner cyntaf y 19eg ganrif pan ddaeth sgwatwyr i fyw ar ymylon y tir comin ar adeg pan oedd y boblogaeth yn cynyddu. Mae’r ail yn cynnwys caeau hirsgwar o siâp rheolaidd yr ymddengys eu bod wedi’u cyd-drefnu a’u bod yn dyddio o gyfnod diweddarach o bosibl. Mae patrwm y caeau yn ymestyn i blwyf Dinas. Nid oes fawr ddim tystiolaeth gartograffig yn nodi ffurf yr anheddiad yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif a’r hyn a ddigwyddodd iddo ar wahân i un neu ddau o fapiau ystad o ganol y 18fed ganrif. Mae’r rhain yn ddefnyddiol am eu bod yn dangos caeau bach a ffermydd dros o leiaf ran o’r ardal hon a thir comin yma a thraw, gan ddangos bod y broses o wladychu’r dirwedd yn mynd rhagddi. Ymddengys bod yr hawl i bori cyffredin wedi peidio erbyn dechrau’r 19eg ganrif a dengys y map degwm o oddeutu 1840 batrwm tebyg i’r patrwm heddiw, er bod rhannau o anheddiad wedi’u colli, yn enwedig ar dir uwch.

Y GARN - PARKE

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Gorwedda’r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon mewn llain 300m wrth 600m ar lethrau 100m i 200m o uchder sy’n wynebu tua’r gogledd rhwng gwastadedd arfordirol Trefdraeth i’r gogledd a’r rhostir uwch heb ei amgáu ar Fynydd Carningli i’r de. Nodweddir yr ardal gan ddosbarthiad eithaf dwys o fythynnod a daliadau amaethyddol bach sy’n gorwedd mewn tirwedd o gaeau bach o siâp afreolaidd. Porfa yw’r prif ddefnydd tir, ond mae llawer o’r tir wrth odre’r mynydd yn troi’n borfa arw ac yn rhostir unwaith eto, ac mae’r coetir prysgog yn tyfu eto mewn pantiau cysgodol ar dir is. Nid oes fawr ddim porfa wedi’i gwella. Cymysgedd o gloddiau â wyneb carreg, cloddiau carreg a waliau sychion yw ffiniau'r caeau bach, a’r nodwedd amlycaf o’r rhain yw waliau sychion. Mae bylchau mewn rhai cloddiau, ac mae llawer o’r waliau mewn cyflwr gwael. Mewn sawl achos mae ffensys gwifren bigog wedi cael eu gosod yn lle’r ffiniau hyˆ n hyn. Ar dir uwch nid oes braidd ddim coed yn y dirwedd, ond ar dir isel mae perthi sydd wedi tyfu’n wyllt, y mae llawer ohonynt yn cynnwys cryn dipyn o eithin, a choetir prysgog yn gwneud i’r dirwedd edrych yn goediog - golwg a bwysleisir gan ambell i lain gysgodol fach o gonwydd. Anheddau deulawr a geir ran amlaf (gydag enghreifftiau o anheddau unllawr, unllawr a hanner) a thri bae. Maent wedi’u hadeiladu yn nhraddodiad brodorol cyffredinol y De-orllewin, gyda rhai yn cynnwys elfennau cain ‘Sioraidd’ rhodresgar. Mae eu ffenestri codi â ffrâm bocs, eu cynllun cymesur ac ambell i fanylyn pensaernïol yn awgrymu i’r rhan fwyaf ohonynt gael eu hadeiladu yng nghanol neu ar ddiwedd y 19eg ganrif. Yn gyffredinol mae ansawdd y tai yn well yn yr ardal hon nag mewn aneddiadau amaethyddol ymylol, gan awgrymu o bosibl incwm o ffynonellau heblaw amaethyddiaeth. Mae’r rhesi bach iawn o adeiladau amaethyddol cerrig, y mae rhai ohonynt ynghlwm wrth anhedd-dai a rhai ar wahân, yn dyst i swyddogaeth wreiddiol yr aneddiadau hyn. Mae llawer o’r adeiladau allan hyn wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae’r rhan fwyaf o anhedd-dai yn cael eu defnyddio bellach at ddiben nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth, a dim ond ychydig o enghreifftiau o adeiladau allan modern, bach o goncrit, dur neu bren sydd wedi cael eu codi. Y garreg leol, sef dolerit, yw’r prif ddeunydd adeiladu traddodiadol, er mai tybiaeth yw hyn mewn llawer achos gan ei bod wedi’i rendro â sment. Llechi yw’r unig ddeunydd toi a nodwyd, a llechi masnachol wedi’u torri â pheiriant ydynt ym mhob enghraifft. Ni chofnodwyd llechi lleol. Ychydig iawn o anhedd-dai modern sydd yn yr ardal hon. Mae rhwydwaith o lonydd a llwybrau, a chloddiau uchel ar y naill ymyl a’r llall yn aml, yn cysylltu’r aneddiadau. Ymhlith yr ychydig safleoedd archeolegol cofnodedig yn yr ardal hon mae ffald, crugiau crwn a safleoedd cynhanesyddol posibl eraill. Mae nifer fach o aneddiadau/anhedd-dai gwag yn dyst i’r ffaith bod diboblogi yn yr ardal hon ar ddiwedd y 19eg ganrif hyd at ganol yr 20fed ganrif.

Mae hon yn ardal benodol, ond nid yw’n hawdd pennu ei ffiniau’n fanwl gywir. Ar hyd yr ymyl ogleddol mae’r ardal hon yn cydffinio â ffermydd a chaeau mwy o faint, ac i’r de, i’r gorllewin ac i’r dwyrain mae’r ffin rhwng yr ardal hon a rhostir agored yn mynd yn fwyfwy annelwig wrth i borfa droi’n borfa arw ac yn rhostir unwaith eto.

Ffynonellau: Bignall 1991; Howells 1997; Lewis 1833; Miles 1995; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Llwyngwair Map 5, Map 7 (1758), Map 8 (1758); Map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; Owen 1897; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HPR/33/33 (1772)

MAP Y GARN - PARKE

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221