Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Newport a Carningli>

 

TREFDRAETH

TREFDRAETH

CYFEIRNOD GRID: SN 045292
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 85

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o sir Benfro ar ei ffurf fodern, yn cynnwys ardal adeiledig Trefdraeth. Gorwedda o fewn cantref canoloesol Cemaes. Dygwyd Cemaes o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid yn oddeutu 1100 gan y teulu Fitzmartin a sefydlodd eu castell yn Nyfer ar safle bryngaer o’r oes haearn. Parhaodd Cemais ym meddiant Eingl-Normanaidd tan 1191 pan gafodd ei ail-gipio gan Rhys ap Gruffudd. Atgyfnerthwyd Castell Nyfer ganddo, ond byrhoedlog fu goruchafiaeth y Cymry oherwydd bu farw Rhys yn 1197 ac yn yr un flwyddyn enillodd William Fitzmartin reolaeth dros Gemais unwaith eto, Yn lle ailadeiladu amddiffynfeydd Nyfer, sefydlodd Wiliam gastell newydd yn Nhrefdraeth (o bosibl cloddiau’r Hen Gastell ger aber Nyfer) a sefydlodd dref newydd. Yn tua 1241, cadarnhaodd Nicolas Fitzmartin mewn siarter freiniau a roddwyd i’r dref gan ei dad William. Nid oedd blynyddoedd cynnar y dref yn hawdd i’r gwladychwyr newydd. Yn 1215 dinistriwyd Castell Trefdraeth gan Llywelyn ap Iorwerth ac nid ailenillodd y teulu Fitzmartin reolaeth tan tua 1230, ond yn 1257 dymchwelwyd y castell unwaith eto, y tro hwn gan Llywelyn ap Gruffudd. Erbyn 1276-77 roedd y castell unwaith eto ym meddiant y teulu Fitzmartin a’i cadwodd, yn ogystal â Barwniaeth Cemaes, tan 1326, pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Mae gwaith cloddio a thirfesur wedi dangos i’r dref gael ei gosod â lleiniau bwrdais yn wreiddiol - lleiniau adeiladu hir - ar hyd y ddwy brif stryd, Long Street a Stryd Eglwys Fair a rhyngddynt saif y castell, a elwir yn Hen Gastell bellach ar lannau aber afon Nyfer. Ni pharhaodd yr eiddo ar y strydoedd hyn yn hir, efallai o ganlyniad i ymosodiadau gan y Cymry, ac erbyn diwedd y 13eg ganrif, os nad cynt, gadawyd y lleiniau bwrdeis hyn yn wag ac nis defnyddiwyd eto. Ail-sefydlwyd y castell ar ei safle presennol yn edrych dros ben deheuol y dref, o bosibl o ganlyniad i’r ymosodiadau yn 1215 neu 1257. Sefydlwyd rhwydwaith o strydoedd newydd ac eglwys y plwyf, eglwys Santes Fair, yn yr un ardal hefyd. Fodd bynnag ni ffynodd y dref, oherwydd mewn arolwg yn 1434 rhestrwyd 233 o leiniau bwrdais ond dim ond 76 o ddeiliaid bwrdeisiau. Erbyn 1594, cofnodwyd 211 o leiniau, ond dim ond 44 a oedd wedi’u meddiannu, a’r rhan fwyaf o’r rhain ym mhen deheuol y dref. Parhaodd llawer o leiniau tai heb eu defnyddio tan ychydig cyn y cyfnod modern fel y nododd Richard Fenton yn y 19eg ganrif - ‘the chasms in its depopulated streets are filling up fast with buildings’. Yn amlwg gwelodd Fenton y gwaith ailadeiladu sydd i’w weld yn y dref heddiw, ar ffurf y tai niferus o ansawdd da a adeiladwyd yn y 19eg ganrif. Cafodd y castell, a oedd wedi bod yn dadfeilio ers diwedd y cyfnod canoloesol diweddar, ei ailfeddiannu yn 1859 a chafodd y porthdy ei droi’n dyˆ ac ychwanegwyd rhagor o adeiladau. Er gwaethaf y dirywiad a welwyd yn y dref, roedd gan Drefdraeth sawl diwydiant bach ond pwysig. Roedd economi’r dref yn seiliedig ar amaethyddiaeth, pysgota a masnachu arfordirol. Buasai Trefdraeth yn ganolbwynt i ddiwydiant llestri canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar, ond yn y 16eg ganrif y daeth y dref i’r amlwg fel porthladd masnachol pan allforiwyd brethyn a gwlân. O ganlyniad, datblygodd diwydiant tecstilau sylweddol yn y gefnwlad o amgylch y dref. Ymhlith yr allforion roedd hefyd gynnyrch y chwareli lleol niferus. Roedd y dref hefyd yn adnabyddus am ei physgodfa benwaig. O ganlyniad i siltio yn yr aber adeiladwyd cei newydd yn y Parrog, gyda chyfleusterau adeiladu llongau, stordai ac odynnau calch. Bu’n ffynnu tan yn hwyr yn yr 19eg ganrif - daeth 97 o longau i’r porthladd yn 1884 - ond yn fuan wedyn dirywio a wnaeth. Ar y cyfan nid yw Trefdraeth wedi tyfu y tu hwnt i’w therfynau canoloesol, ond adeiladwyd tai yn yr 20fed ganrif mewn ardal fach o amgylch Cnwc-y-grogwydd, i’r gorllewin o’r dref, ar safle crocbren ganoloesol (a safle crefyddol canoloesol cynnar o bosibl). Mae’r economi yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif wedi cael ei llywio’n bennaf gan hamdden, gan gynnwys clwb iotiau ar y Parrog, a thwrisitaeth, gyda nifer o feysydd carafanau. Mae Trefdraeth bellach yn ddewis atyniadol i brynwyr tai dosbarth canol, sydd wedi rhoi gwedd sydêt i’r dref

TREFDRAETH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Trefdraeth yn cynnwys tai, gerddi, siopau, ysgol, ffyrdd a seilwaith arall y dref yn bennaf, ond mae’n cynnwys caeau a darnau eraill o dir agored rhwng yr ardaloedd adeiledig. Mae’r dref yn gorwedd ar lethrau esmwyth yn wynebu i’r gogledd gan ymestyn i lawr hyd at lan ddeheuol aber Nyfer. Saif y castell a’r eglwys ganoloesol ar dir uwch ym mhen deheuol y dref. Mae canol y dref wedi datblygu o amgylch ffordd yr A487(T) sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin a sawl stryd ymyl gul sy’n ffurfio patrwm grid llac i’r gogledd ac i’r de. Mae’r Parrog, sydd wrth ymyl yr aber, yn ganolfan eilaidd, sydd bellach wedi’i chysylltu â’r dref ei hun drwy ddatblygiad llinellol, a cheir datblygiad llinellol hefyd ar hyd ffordd yr A487(T) a Stryd y Bont i’r gogledd-ddwyrain. Mae cynllun y dref fel ag yr oedd ar ddiwedd y 12fed ganrif - 13eg ganrif yn dal i gael dylanwad cryf dros y topograffi modern, ac mae llawer o dai wedi’u lleoli yn dynn wrth ffryntiad y stryd o fewn lleiniau bwrdais canoloesol. Ailadeiladwyd eglwys y plwyf, sef eglwys fawr groesffurf, yn helaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif a chollwyd llawer o’r manylion canoloesol, ac eithrio’r twˆ r gorllewinol hardd a adeiladwyd yn y 15fed neu’r 16eg ganrif. Saif y castell yn un caeadle, gyda thyrrau drwm a phorthdy dau dwˆ r, sy’n cynnwys gwaith maen sy’n dyddio o’r 13eg neu 14eg ganrif, gydag ychwanegiadau sy’n dyddio o’r 19eg ganrif. Mae hyn ynghyd â’r defnydd o garreg ddolerit leol a charreg adeiladu glai ymhob adeilad bron yn rhoi nodwedd bensaernïol unigryw a chryf iawn i Drefdraeth. Mae cymysgedd eithaf cyfartal o rendr sment a cherrig noeth. Mae’r rendr ar lawer o’r tai wedi cael ei dynnu ymaith yn ddiweddar i ddatgelu cerrig noeth, fel arfer cerrig llanw heb eu trefnu mewn haenau. O edrych yn fanwl ar hyn gwelir bod y garreg wedi’i gwyngalchu cyn ei gorchuddio â sment. Fel arfer mae’r ddolerit lwydlas neu frown wedi’i threfnu mewn haenau bras, gan roi ystyriaeth i liwiau gwahanol y cerrig, ac mewn rhai achosion mae haenau o lechi yn rhoi ymddangosiad mwy ffurfiol i’r adeiladau. Llechi modern wedi’u torri â pheiriant yw’r prif ddeunydd toi, llechi nad ydynt yn dod o’r ardal leol. Yng nghanol y dref mae’r rhan fwyaf o anheddau mewn terasau. Nid terasau sengl ydynt, ond yn hytrach mae pob tyˆ wedi datblygu’n unigol o fewn ei lain bwrdais ei hun, gan arwain at amrywiaeth mawr o adeiladau gwahanol, o fythynnod unllawr brodorol i dai tri llawr wedi’u hadeiladu yn y traddodiad Sioraidd. Fodd bynnag, tai deulawr yw’r mwyafrif, gyda’r rhan helaethaf o enghreifftiau yn y traddodiad ‘Sioraidd’ cain, ac mae llawer wedi cadw manylion gwreiddiol megis pyrth, casys drysau a ffenestri codi â ffrâm bocs. Mae eiddo masnachol, gan gynnwys Gwesty’r Castell a Llwyngwair Arms, ser adeilad tri llawr, a chapeli megis capel Ebeneser a chapel Bethlehem, oll yn dyddio o’r un cyfnod ac maent wedi’u hadeiladu yn yr un traddodiad adeiladu â’r anheddau. Mae’r arddull adeiladu debyg a’r defnydd o garreg leol i’w gweld yn Ffordd Parrog ac ar y Parrog ei hun, ond yma mae tai sengl yr un mor gyffredin â’r terasau. Mae’r defnydd o garreg leol mewn waliau ymyl ffordd ac yn waliau gerddi hefyd yn nodwedd amlwg o’r dref. Mae bron bob datblygiad modern wedi’i adeiladu yn ail hanner yr 20fed ganrif neu’n ddiweddarach, gan gynnwys tai sengl newydd ar gyrion y dref, ac ystadau bach o dai a byngalos ar ymylon y dref yn ogystal â’r rhai yng nghanol hanesyddol y dref Mae cyfleusterau sy’n gwasanaethu’r gymuned leol ac ymwelwyr megis llyfrgell, ysgol newydd, meddygfa, meysydd parcio a swyddfa gwybodaeth i dwristiaid yn y dref. Mae clwb iotiau modern ar y forwal garreg yn y Parrog ac mae maes gwersyll a maes carafanau ar gyrion y dref. Mae caeau bach wedi’u hamgylchynu gan dai yn rhoi naws wledig i rannau o’r ardal hon, yn enwedig wrth ymyl yr aber. Porfa yw’r caeau hyn ac maent wedi’u hamgáu gan gloddiau ac arnynt berthi sydd wedi tyfu’n wyllt. Mae’r rhan fwyaf o’r archeoleg gofnodedig yn ymwneud â’r elfennau o’r dref a ddisgrifir uchod - y castell a’r eglwys - neu’r adeiladau eraill sydd wedi goroesi megis melin sy’n dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif. Mae safleoedd eraill megis nifer fach o odynnau calch sy’n dyddio o’r 19eg ganrif yn dyst i bwysigrwydd y fasnach forwrol yn y gorffennol. Mae Carreg Coetan Arthur, sef beddrod siambr neolithig, yn elfen hanesyddol amlwg, sy’n rhywbeth anarferol mewn tref. Serch hynny erbyn hyn mae yng nghysgod y tai modern cyfagos i ryw raddau.

Mae Trefdraeth yn ardal unigryw ac iddi ffiniau pendant. Mae’n cyferbynnu â’r tirweddau cyfagos o ffermydd a chaeau i’r gorllewin, i’r de ac i’r dwyrain a chydag aber afon Nyfer i’r gogledd.

Ffynonellau: Bignall 1991; Browne a Percival 1992; Howells 1997; Lewis 1833; Ludlow 2000; Miles 1995; Murphy 1994; map degwm Plwyf Trefdraeth 1844; RCAHMW 1925

MAP TREFDRAETH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221