Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

Norchard-Tarr

NORCHARD - TARR

CYFEIRNOD GRID: SS 086991
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 685

Cefndir Hanesyddol

Ardal gymharol fawr o fewn ffiniau modern sir Benfro, yn gorwedd ym mlwyf Maenorbyr a phlwyf Penalun. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Yn yr ardal ceir tirwedd o gaeau mawr, rheolaidd, sy’n eithaf gwahanol i’r llain-gaeau yn ardal gymeriad Manorbier Newton i’r gorllewin. Fodd bynnag, mae’r system caeau bresennol, yn rhedeg o’r gogleedd i’r de, yn awgrymu y gallai fod wedi datblygu o lain-gaeau tebyg, sy’n deillio o’r oes efydd o bosibl, a ymestynai i mewn i’r ardal hon gynt. Erbyn y cyfnod canoloesol diweddar roedd yr ardal yn glwstwr o ffermydd preifat mawr. Er enghraifft, dywedwyd bod daliad pwysig cynnar Norchard yn werth hanner ffi marchog ynddo’i hun. Ceir cofnod amheus o Norchard yn y 13eg ganrif pan oedd ym meddiant Thomas Luny fe ymddengys, ond mae dogfennaeth well ohoni fel eiddo i’r teulu Marichurch o 1452 tan 1673. Aseswyd ar gyfer saith aelwyd yn 1670. Yn ddiweddarach bu’n rhan o Ystad Bush y teulu Meyrick, lle y gelwid yn ‘Demesne and Lordship’ Norchard. Ceir elfennau canoloesol yn y ty o hyd. Yn yr un modd, aseswyd y daliadau pwysig yn Tarr a Carswell yn 1326 fel degfed ran o ffi marchog, a ddelid yn uniongyrchol oddi wrth Ieirll Penfro, ac mae twr ‘pele’ yn y naill a’r llall. Ymddengys bod Whitewell hefyd yn rhydd-ddaliad o’r cyfnod canoloesol diweddar ymlaen, gydag elfennau canoloesol yn y ffermdy presennol. Fodd bynnag, nid oes fawr ddim arwydd o’u statws annibynnol yn y tri arolwg manwl o Faenor Maenorbyˆ r a wnaed yn 1601, 1609 a 1618, ond efallai ei bod yn arwyddocaol na chynhwyswyd rhai o’r daliadau, a llawer o’u manylion. Er enghraifft, nid oe cyfeiriad at Carswell na fferm sylweddol Roberts Walls. I’r gwrthwyneb, fodd bynnag, cofnodir Bubbleton fel daliad o’r faenor yn ôl y ddefod. Cyfeirir at ei ‘chaeau’ - efallai, y tro hwn, fel cyfeiriad at gaeau agored, o bosibl wedi’u cynrychioli gan y ffiniau creiriol cyfochrog o’r gogledd i’r de o amgylch y fferm. Sut bynnag, ni chofnodir unrhyw ddemên barnwrol ym Mhenalun. Mae statws preifat y daliadau yn awgrymu bod y caeau presennol eisoes wedi’u hamgáu erbyn yr 17eg ganrif, a ategir gan eu morffoleg sy’n awgrymu dyddiad canoloesol diweddar neu fodern cynnar. Mae’r ardal yn union i’r gogledd o Lydstep yn cynnwys cae o’r enw’r Langstone, a allai fod yn fan cyfarfod posibl lle y cyfarfyddai rhydd-ddeiliaid y faenor i dalu eu rhenti cyn adeiladu Plas Lydstep ar ddiwedd y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif (gweler ardal gymeriad Lydstep). Roedd tenantiaid Penalun yn ôl y ddefod yn cynnal eu llys yn Bubbleton. Erbyn diwedd y 18fed ganrif, roedd rhan helaeth o’r ardal hon ym meddiant Ystad Castell Pictwn, gan gynnwys ‘The Demesne and Lordship of Norchard’. O ganlyniad ceir nifer dda o fapiau hanesyddol o’r cyfnod hwn. Dengys y mapiau dirwedd sydd bron yr un peth â’r dirwedd heddiw. Mae llinel reilffordd yn croesi’r ardal, a agorwyd gan Reilffordd Penfro a Dinbych-y-pysgod yn 1864 ac a brynwyd gan GWR yn 1896.

Norchard-Tarr

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol gymharol fawr sy’n rhedeg o wastadedd arfordirol de sir Benfro tua 50m uwchben lefel y môr, dros grib y Ridgeway i’r gogledd dros 90m uwchben lefel y môr ac i lawr tuag at ddyffryn Ritec i oddeutu 30m uwchben lefel y môr. Mae’n dirwedd amaethyddol, a nodweddir gan ffermydd cymharol fawr gwasgaredig a chaeau mawr, rheolaidd eu siâp. Mae gogwydd gyffredinol y caeau hyn o’r gogledd i’r de yn awgrymu y gallent fod wedi datblygu o’r llain-gaeau ymochrol yn rhedeg o’r gogledd i’r de sy’n nodwedd gref o’r ardal gymeriad tirwedd i’r gorllewin. Y defnydd tir amaethyddol yw tua 85% tir pori wedi’i wella a 15% tir âr. Nid oes fawr ddim tir garw. I’r de o’r Ridgeway mae tymhestloedd Môr Iwerydd wedi troi’r gwrychoedd ar dir uwch sy’n fwy agored i’r tywydd yn llinellau anniben o lwyni, ond ar y tir is ac yn y rhan ogleddol fwy cysgodol mae gwrychoedd yn tyfu’n drwchus ac maent wedi’u cadw’n dda. Ar wahân i’r clystyrau bach o goed collddail prysgog mewn pantiau cysgodol a choed wedi’u plannu wrth ymyl ffermydd, nid yw coetir yn elfen gref o’r dirwedd hon. Cloddiau â wyneb cerrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r prif fath o derfyn, ond yma a thraw gwelir waliau o galchfaen a morter, yn enwedig ar hyd ffyrdd a llwybrau ac wrth ymyl ffermydd. Rwbl calchfaen lleol yw’r prif ddefnydd adeiladu (wedi’i rendro â sment neu wedi’i adael yn noeth), gyda llechi wedi’u torri â pheiriant ar y toeau, er bod ychydig o enghreifftiau o adeiladau fferm lle mae teils cerrig lleol wedi goroesi. Ceir tai sylweddol, gan gynnwys rhai ac iddynt elfennau canoloesol diweddar megis Norchard, a’r adfeilion cromennog cerrig yn Whitewell, Carswell a Tarr, gydag eraill yn y traddodiad Sioraidd o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Er mai’r tai hyn yn yr arddull Sioraidd gain yw’r rhai mwyaf cyffredin, ceir enghreifftiau o ffermdai llai o ail hanner y 19eg ganrif ac iddynt elfennau brodorol yn ogystal â bythynnod unllawr â ffryntiad dwbl. Mae gan y rhan fwyaf o’r ffermydd mwy sawl rhes o adeiladau allan cerrig, a adeiladwyd yng nghanol neu ar ddiwedd y 19eg ganrif yn bennaf, y mae rhai ohonynt wedi’u trefnu o amgylch cwrt. Mae sawl grwp o adeiladau fferm traddodiadol wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Mae gan y rhan fwyaf o ffermydd gweithredol adeiladau amaethyddol mawr modern o ddur, concrit ac asbestos. Oherwydd agosrwydd Dinbych-y-pysgod, yn enwedig i ochr ddwyreiniol yr ardal hon, hybwyd y twf mewn cyfleusterau i dwristiaid, gan gynnwys meysydd gwersylla, meysydd carafanau, cwrs golff a llwybr bygi. Mae’r tri phrif lwybr o’r dwyrain i’r gorllewin yn mynd drwy’r ardal: y Ridgeway, ffordd yr A4139 a’r llinell reilffordd rhwng Dinbych-y-pysgod a Phenfro. Yn ogystal â’r tai canoloesol adfeiliedig, mae cyfoeth o archeoleg gofnodedig gan gynnwys: lloriau cloddio fflint cynhanesyddol, crug crwn o’r oes efydd, anheddiad amddiffynedig o’r oes haearn, melin yd a sawl hen chwarel calchfaen ac odynnau calch.

Er nad yw’n annhebyg i rai ardaloedd cyfagos, mae’r ffermdai mawr, rhai ohonynt yn deillio o’r cyfnod canoloesol, a’r caeau mawr, rheolaidd eu siâp yn nodweddu’r dirwedd hon. Fodd bynnag, nid yw bob amser yn bosibl pennu ei ffiniau’n fanwl gywir, ac eithrio i’r gorllewin yn erbyn llain-gaeau ac i’r de lle mae’n cyd-ffinio â’r parth arfordirol.

Ffynonellau: Charles 1992; Jones 1996; King a Perks 1970; Ludlow 1996; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Map Pictwn 14, LlGC Cyf 88; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro D/Bush/26/6; Page 1999; map degwm Penalun 1842; RCAHMW 1925; Rees 1932; Turner 1991; Walker 1992

Map Norchard-Tarr

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221