Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

Jameston

JAMESTON

CYFEIRNOD GRID: SS 056990
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 13

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Benfro, yn cynnwys pentref adeiledig Jameston. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai o fewn y faenor Eingl-Normanaidd, Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Mae nifer o awduron wedi ceisio diffinio a dyddio topograffi Jameston. Awgrymodd Roberts mai anheddiad cyn-Normanaidd o fewn system caeau Eingl-Normanaidd ddiweddarach ydoedd. Fodd bynnag, fel y nododd awduron eraill, mae’n debyg bod i’r system caeau o’i hamgylch darddiad cynhanesyddol (yr oes efydd fwy na thebyg), yn seiliedig ar y ‘gefnen’ gynhanesyddol. (gweler ardal gymeriad llain-gaeau Manorbier Newton), ac ymddengys bod y pentref yn gorwedd dros y system caeau hon. Dadl Kissock oedd bod gan y pentref gynllun rheiddiol, sy’n awgrymu tarddiad cyn-Normanaidd. Fodd bynnag, nid yw elfennau ei gynllun ‘rheiddiol’ yn argyhoeddi; at hynny, cydnabu Kissock ei hun y bu’r anheddiad gynt yn gorwedd o amgylch lawnt betryalog ffurfiol pentref (sydd wedi’i lenwi erbyn hyn). Mae’n fwy tebygol iddo gael ei sefydlu yn y cyfnod Eingl-Normanaidd. Nid oes fawr ddim hanes canoloesol cofnodedig i Jameston. Nodwyd capel yn y pentref ar fap Saxton yn 1578, capel anwes plwyf Maenorbyr fwy na thebyg, ond nid yw ei ddyddiad yn hysbys. Efallai iddo gael ei adeiladu’n ddiweddarach. Mae’n bosibl bod enw’r lle, a gofnodwyd fel ‘apud Sanctu Jacob’ yn 1295, ac unwaith eto fel ‘Saint Jameston’ yn 1331, yn deillio o ffair yn hytrach nag o’r capel - cofnododd George Owen, sef ffynhonnell o ddiwedd yr 16eg ganrif y câi ffair flynyddol wedi’i chysegru i Sant Iago ei chynnal yn y pentref. Wedyn ymddengys bod Jameston wedi’i sefydlu fel pentrefan maenorol, a oedd yn manteisio ar y tir âr da yn yr ardal leol. Fe’i cofnodwyd yn eithaf manwl mewn tri arolwg diweddarach o Faenor Maenorbyr, yn 1601, 1609 a 1618. Roedd yn un o dri rhanbarth y faenor, gyda maer yn gyfrifol am gasglu rhent, ac o ddiwedd yr 17eg ganrif cynhelid llysoedd maenorol yno. Hwn oedd y pentrefan mwyaf ond un yn y faenor, ac roedd ganddo saith fferm fawr, deg ty ac un bwthyn. Cadarnhawyd yn yr arolygon fod y d yn cael ei dyfu yn yr ardal o amgylch y pentref, ond cofnodwyd i 22 erw o dir âr gael ei golli rhwng 1609 a 1618. Mae’n amlwg o’r cyfeiriad at ‘four closes’ yn yr arolygon bod y broses o amgáu’r llain-gaeau o’i hamgylch eisoes wedi dechrau erbyn dechrau’r 17eg ganrif. Byddai tenantiaid yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy ddau fath o ddaliadaeth gopihowld o’r enw ‘daliadaeth hwsmonaeth’ a ‘daliad sensori’, yr ymddengys eu bod wedi goroesi o hen ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Yn Jameston, rhoddodd 5 tenant rhydd-ddaliadol naill ai arian parod neu’r rhosod cochion traddodiadol. Dros y tri arolwg, cofnodwyd bod 22 o denantiaid hwsmonaeth yn meddu ar ffermydd mawr - cyfanswm o 8 ysgubor, 10 ysgubor wair a 7 beudy. Ymddengys mai yn y saith daliad sensori yr oedd y tir gwaethaf a dim ond un ysgubor, a 2 feudy a gofnodwyd. Ymddengys felly nad yw pentref Jameston yn llawer mwy heddiw nag yr oedd yn yr 17eg ganrif. Yn wir, mae’n bosibl ei fod wedi crebachu; nid oes dim tystiolaeth faes o hyn, ond dengys map degwm oddeutu 1840 anheddiad cnewyllol sydd ychydig yn llai na’r anheddiad presennol. Erbyn 1840 roedd adeiladau eisoes wedi cael eu codi ar lawnt y pentref. Mae’r rhan fwyaf o adeiladau’r pentref presennol yn dyddio o’r 18fed a’r 19eg ganrif, gan gynnwys yr eglwys, nas sefydlwyd tan y 19eg ganrif. Adeiladwyd capel anghydffurfiol yn 1820 a sefydlwyd ty cwrdd a mynwent gan y Crynwyr yn ystod y 18fed ganrif. Erys un fferm weithredol yn Jameston, a thafarn, ond natur breswyl sydd iddi yn bennaf, gyda dwy res o adeiladau o’r 20fed ganrif. Mae’r ffair flynyddol wedi cael ei hailgychwyn.

Jameston

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Jameston yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol fach yn cynnwys pentref ar dir gwastad tua 60m uwchben lefel y môr, ar gyffordd rhwng ffordd yr A4139 o’r dwyrain i’r gorllewin a sawl isffordd. Mae’n cynnwys cnewyllyn bach o adeiladau o’r 18fed a’r 19eg ganrif ynghyd ag anheddau modern. Arferai fod yn bentref amaethyddol, ond erbyn hyn dim ond un fferm o faint sy’n dal yn weithredol, gyda rhesi mawr o adeiladau amaethyddol modern, ar ymyl ddeheuol y pentref. Mae waliau cerrig uchel o amgylch Tafarn Swan Lake sef adeilad deulawr a godwyd yn y 19eg ganrif yn gwneud y brif ffordd yng nghraidd y pentref yn gyfyng. Yma mae clwstwr o anheddau ac arnynt doeau llechi wedi’u hadeiladu o galchfaen lleol sy’n dyddio o ganol i ddiwedd 19eg ganrif yn bennaf. Ceir enghreifftiau unllawr neu ddeulawr, gyda’r rhan fwyaf wedi’u hadeiladu yn y traddodiad brodorol, er bod maint y ffenestri a’u cymesuredd yn awgrymu tueddiadau tuag at y traddodiad ‘Sioraidd’ cain. Mae rhesi bach o adeiladau amaethyddol cerrig a arferai fod yn rhan o fferm yng nghanol y pentref wedi’u haddasu’n bennaf at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth. Saif y Neuadd Genhadol, sef eglwys fach mewn arddull gothig ddiraddedig hefyd yng nghraidd y pentref. Gorwedda dwy hen fferm fawr o bensaernïaeth eithaf soffistigedig ar gyrion y pentref. Mae’r rhesi mawr o dai allan cerrig, wedi’u gosod yn anffurfiol o amgylch buarth y ddwy fferm wedi’u haddasu at ddefnydd preswyl. Mae’r ddau dy yn dyddio o’r 18fed ganrif yn wreiddiol. Mae’r naill yn dy tri llawr, yn y traddodiad Sioraidd gyda drychiad blaen wedi’i blastro, a’r llall yn dy neo-gothig o ddiwedd y 18fed ganrif sydd wedi cael ei newid gryn dipyn. Rhwng yr adeiladau hyn ceir tai modern, mewn ystadau bach neu’n anheddau unigol, mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau, sy’n cadw cnewyllyn clwm y pentref. Mae maes carafanau bach ym mhen dwyreiniol y pentref.

Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Jameston yn gwrthgyferbynnu â’r dirwedd o gaeau a ffermydd o’i hamgylch.

Ffynonellau: Austin 1988; King a Perks 1970; Kissock 1997; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Milne 2001; Owen 1892; Roberts 1987; Walker 1992

Map Jameston

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221