Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Maenorbyr >

Hill Farm - Baldwin's Moor

HILL FARM - BALDWIN’S MOOR

CYFEIRNOD GRID: SS 073976
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 152

Cefndir Hanesyddol

Ardal o fewn ffiniau modern sir Benfro rhwng Maenorbyr a Lydstep, o fewn plwyf Maenorbyr. Yn ystod y cyfnod canoloesol, gorweddai ym maenor Eingl-Normanaidd Maenorbyr (a Phenalun) a oedd yn arglwyddiaeth fên neu farwniaeth freiniol a ddaliwyd, drwy wasanaeth 5 marchog, o dan Arglwyddiaeth ac Iarllaeth Penfro, sef rhanbarth wedi’i Seisnigeiddio’n helaeth a ddygwyd o dan reolaeth yr Eingl-Normaniaid cyn 1100, a ad-drefnwyd ar hyd llinellau maenorau Seisnig ac nas ail-gipiwyd gan y Cymry byth eto. Daliasid y farwniaeth gan y teulu de Barri, ers dechrau’r 12fed ganrif ac, ar ôl i’r llinach honno ddod i ben yn 1392, fe’i gwerthwyd i Ddugoedd Caerwysg cyn mynd yn ôl i’r goron yn 1461. O hynny ymlaen cafodd ei phrydlesu i nifer o unigolion cyn cael ei hewyllysio i’r teulu Philipps o Gastell Pictwn a bu ym meddiant y teulu hwnnw tan yr 20fed ganrif. Mae’n dirwedd o gaeau canolig o siâp rheolaidd, yn eithaf gwahanol i’r llain-gaeau yn ardal gymeriad Manorbier Newton i’r gogledd. Mae’n bosibl bod y llain-gaeau - yr ymddengys eu bod yn deillio o’r oes efydd - wedi ymestyn i’r ardal hon gynt ond eu bod wedi’u colli. Byddai tenantiaid o fewn yr arglwyddiaeth yn dal tir drwy rydd-ddaliad, a thrwy ddwy fath o gopihowld o’r enw ‘daliadaeth hwsmonaeth’ a ‘daliadaeth sensori’, yr ymddengys eu bod yn greiriau o ddeiliadaeth ffiwdal gynharach. Ymddengys o dystiolaeth y tri arolwg, yn 1601, 1609 a 1618, bod yr ardal yn cynnwys dau ddaliad, Hill a Skrinkle. Roedd Hill wedi’i ddal gan un tenant hwsmonaeth ac un tenant sensori. Roedd Skrinkle wedi’i ddal gan un tenant sensori. Ymddengys mai hen dir demên barwnol oedd y tiroedd sensori ar y cyfan, y gadawyd iddynt ddirywio, drwy landlordiaid absennol ar ddiwedd y 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Felly mae eu hanes yn hollol wahanol i’r daliadau hwsmonaeth yr ymddengys iddynt gael eu sefydlu o fewn llain-gaeau cymunedol. Awgryma’r arolygon fod y tir heb ei amgáu ar y cyfan, ond efallai fod y broses wedi dechrau. Ymddengys bod y system bresennol o gaeau o faint canolig yn rhagflaenu’r caeau o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, gydag ardal o dir wedi’i amgáu’n ddiweddarach ym mhen dwyreiniol yr ardal. Roedd Hill yn cynnwys fferm sylweddol, gyda tair ysgubor, thair ysgubor wair a beudy. Roedd Skrinkle yn cynnwys dwy fferm sylweddol gyda 2 ysgubor, 2 ysgubor wair a 2 feudy. Cofnodwyd bod y tir âr wedi cynyddu. Mae’n bosibl mai Baldwin’s Moor heddiw oedd un o ffermydd Skrinkle. Fe’i nodwyd fel ‘Baldwin’s Moor’ alias Skrinkle Lays’ yn 1766. Dengys mapiau ystad o ddiwedd y 18fed ganrif, a map degwm 1842, yr ardal hon yn debyg iawn i’r ardal heddiw, er bod ffermdy Skrinkle wedi symud o’i safle gwreiddiol ymhellach i’r gorllewin. Llosgwyd calch ger Hill, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd sefydlwyd maes awyr milwrol, ynghlwm wrth Wersyll Maenorbyr, dros ran o’r ardal hon. Mae bron bob ôl o’r gwersyll hwn wedi diflannu erbyn hyn. Saif maes chwarae ar ran o’r ardal.

Hill Farm - Baldwin's Moor

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae hon yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol rhwng clogwyni uchel yr arfordir a gwersyll milwrol i’r de, a phentref Maenorbyˆ r, ffermydd a chaeau i’r gogledd. Gorwedda ar y gwastadedd arfordirol tua 50m i 70m uwchben lefel y môr. Mae’n agored i’r prif wyntoedd de-orllewinol o Fôr Iwerydd, ac felly nid oes fawr ddim coed yn yr ardal ac mae’r gwrychoedd wedi’u troi’n llinellau isel o lwyni anniben. O ganlyniad mae golwg agored iawn i’r dirwedd. Eto i gyd, mae wedi’i rhannu’n gaeau weddol fawr a rheolaidd, a chloddiau isel â wyneb cerrig a waliau morter yn ffiniau iddynt. Mae’r olaf mewn cyflwr gwael ar y cyfan. Y defnydd tir amaethyddol yw tir pori wedi’i wella. Mae’r adeiladau hyˆ n wedi’u hadeiladu o galchfaen lleol o dan doeau llechi. Mae drychiadau naill ai wedi’u rendro â sment neu wedi’u gadael yn noeth, gydag ychydig o enghreifftiau o lechi crog. Mae’r tai yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif ar y cyfan, er bod manylion rhai ohonynt yn awgrymu bod rhannau o adeiladu hyˆ n wedi cael eu hymgorffori ynddynt. Mae’r tai hyn yn rhai deulawr ac wedi’u hadeiladu yn y traddodiad Sioraidd, er bod gan rai nodweddion brodorol cryf, megis ffenestri bach, cynllun anghymesur a simneiau mawr. Mae ty unllawr sy’n gysylltiedig ag un o’r tai diweddarach hyn yn rhoi tystiolaeth uniongyrchol o draddodiad adeiladu cynharach. Mae adeiladau fferm hyn yn gymharol fawr ac yn gymhleth, ac maent wedi’u trefnu’n lled-ffurfiol o amgylch cyrtiau wrth ymyl anheddau. Ceir enghreifftiau o adeiladau deulawr neu dri llawr. Ar y rhan fwyaf o ffermydd mae ysgubor, beudy, cartws ac adeiladau eraill gan awgrymu economi ffermio gymysg ar adeg eu hadeiladu ar ddechrau neu ganol y 19eg ganrif. Mae un rhes o adeiladau fferm wedi cael eu haddasu at ddefnydd nad yw’n ymwneud ag amaethyddiaeth ac mae un arall yn segur. Mae gan un fferm ystod fawr o adeiladau amaethyddol dur modern, concrit ac asbestos. Mae hen ffyrdd milwrol o ganol yr 20fed ganrif, olion gosodiadau cysylltiedig, a Hostel Ieuenctid dur a choncrit modern wrth ymyl yr arfordir. Mannau darganfod o’r oes cynhanesyddol yw’r unig archeoleg gofnodedig ac nid ydynt yn nodwedd o’r ardal.

Mae’r ffaith nad oedd fawr ddim gwrychoedd a choed yn yr ardal hon yn ei gwneud yn wahanol i’r ardal amaethyddol gyfagos i’r gogledd. I’r cyfeiriadau eraill mae ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol, y parth arfordirol, gwersyll milwrol a phentrefi yn pennu ffiniau’r dirwedd hon yn eithaf manwl.

Ffynonellau: Charles 1992; map degwm Plwyf Maenorbyr 1842; Llyfrgell Genedlaethol Cymru Cyf 88, Map Pictwn 11, Castell Pictwn Cyf 4; Swyddfa Gofnodion Sir Benfro HDX/945/2; Walker 1992

Map Hill Farm - Baldwin's Moor

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221