Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

TWYNI TYWOD TYWYN A GWBERT

TWYNI TYWOD TYWYN A GWBERT

CYFEIRNOD GRID: SN165491
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 143

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern Ceredigion sy’n edrych dros aber olygfaol Afon Teifi. Mae bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn yn dystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardal, ond nid yw’n nodwedd amlwg yn y dirwedd ac ni nodwyd unrhyw systemau caeau cysylltiedig.

Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng Nghantref canoloesol Iscoed, yng nghwmwd Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi. Parhaodd yn arglwyddiaeth frenhinol – ar wahân i gyfnod byr rhwng 1215 – 1223 pan fu o dan reolaeth y Cymry – tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’. Mae’r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa Ferwig, a sefydlwyd o bosibl cyn y goresgyniad Normanaidd. Patrymau tirddaliadaeth canoloesol – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig a welir yn gyffredinol yn y rhanbarth.

Arferai gorlifo gan dywod, er ei bod yn digwydd yn ôl pob tebyg o gyfnod cynnar, fod yn llai helaeth nag ydyw ar hyn o bryd. Cloddiwyd pwll ysbwriel canoloesol yn y rhan o’r clogwyn sy’n erydu, i’r de-orllewin o bentref presennol Gwbert, yn ystod y 1970au. Cafwyd nifer o esgidiau lledr canoloesol o’r pwll, yn ogystal â chrochenwaith, a roddodd ei enw i ‘Gwbert Ware’. Ymddengys fod y pwll yn perthyn i anheddiad canoloesol a gladdwyd o dan y twyni tywod. Credir bod yr enw lle yn ffurf lygredig ar gysegriad ‘Celtaidd’ sy’n awgrymu bod capel o bosibl wedi’i leoli yn y fan hon. Er na chofnodir Gwbert, wrth ei enw, fel anheddiad mewn dogfennau canoloesol, cofnodwyd Fferm Tywyn - ar gwr gogleddol y twyni tywod - fel ty bonedd/anheddiad yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol, a oedd yn eiddo i Gwilym ap Einon, cwnstabl Castell Aberteifi, ym 1326. Ni ellir gweld unrhyw nodweddion tirwedd cysylltiedig o dan y tywod. Am ei fod yn cael ei raddol orchuddio â thywod mae’n debyg bod y tir bob amser wedi’i ddefnyddio yn bennaf ar gyfer tir pori garw ar y twyni tywod - mae’n amlwg bod yr enw lle ‘Warren’ yn cyfeirio at y twyni tywod yn hytrach nag at ffermio cwningod. Ar fap degwm 1839 dangosir yr ardal hon wedi’i rhannu’n nifer o gaeau mawr mewn cyferbyniad â’r caeau amaethyddol llai o faint oddi amgylch, ond nid yw’n glir a oedd y caeau hyn yn dir comin. Fodd bynnag, mae cwpl o fythynnod anghysbell yn arwydd o weithgarwch tresmasu. Ymddengys nad aeth y broses hon yn ei blaen. Mae’r pentref presennol yn ei gyfanrwydd yn anheddiad de novo yn dyddio o’r 20fed ganrif, a dim ond yn ystod y 100 mlynedd diwethaf y mae datblygiadau - gwesty a thai yng Ngwbert, parc carafannau a chlwb hwylio/parc gerllaw’r afon a thai gwasgaredig yn y tywod a chwythir gan y gwynt - wedi cael effaith ar yr ardal hon.

 

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Twyni Tywod Tywyn a Gwbert yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol fach ar lan ogleddol aber Afon Teifi, sy’n gorwedd ar lethrau sy’n wynebu’r gorllewin i fyny at 120m uwchlaw lefel y môr. Er gwaethaf ei maint mae’n ardal gymhleth a unir gan dywod a chwythir gan y gwynt a/neu adeiladau yn dyddio o’r 20fed ganrif a’r 21ain ganrif. Mae’r tywod a chwythir gan y gwynt fwyaf amlwg ar y llethr arfordirol serth iawn lle y mae wedi’i orchuddio â phrysgwydd eithin. Lleolir parc carafannau a chlwb/iard hwylio ar y gro a’r tafod o dywod a chwythir gan y gwynt yn aber Afon Teifi, a cheir anheddau gwasgaredig yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif, byngalos yn bennaf, yn y llethrau tywod a chwythir gan y gwynt yn y pen deheuol. Yn y pen gogleddol uwchlaw clogwyni o greigiau caled mae pentref Gwbert, sy’n cynnwys tai yn dyddio o ddiwedd yr 20fed ganrif yn bennaf ond hefyd adeilad mawr Cliff Hotel, wedi datblygu mewn ffordd linellol, fwy cynlluniedig. Sefydlwyd cwrs golff a chlwb modern yn y man uchaf yn yr ardal hon. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys darganfyddiadau Neolithig a darganfyddiadau yn dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ogystal â bryngaer bosibl yn dyddio o’r Oes Haearn.

Mae gan ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Twyni Tywod Tywyn a Gwbert lawer o elfennau tirwedd hanesyddol sy’n wahanol i rai’r ardal amaethyddol sy’n ffinio â hi. Fodd bynnag mae’n anodd nodi ei ffiniau yn fanwl gywir.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Jones, F, 2000, Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Y Ferwig 1839; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain; Ymddiriedolaeth Archeolegol Dyfed, 1986, Archaeology in Dyfed, Caerfyrddin

MAP TWYNI TYWOD TYWYN A GWBERT

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221