Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

YNYS ABERTEIFI A LLAIN ARFORDIROL

YNYS ABERTEIFI A LLAIN ARFORDIROL

CYFEIRNOD GRID: SN160507
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 64

Cefndir Hanesyddol

Ardal hir, gul o fewn ffiniau modern Ceredigion a nodweddir gan y clogwyni serth ar hyd yr arfordir rhwng Craig-y-Gwbert a Mwnt, gan gynnwys Ynys Aberteifi. Yn ystod y cyfnod hanesyddol, gorweddai’r ardal gymeriad hon yng Ngheredigion, yng Nghantref Iscoed, yng nghwmwd Is-Hirwern. Daethpwyd â Cheredigion, gan gynnwys Cantref Iscoed, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1110 a 1136, o dan ieirll de Clare. Arhosodd Ceredigion yn nwylo’r Cymry trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif, nes iddi gael ei chyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Fodd bynnag, ildiwyd cwmwd Is-Hirwern i’r Brenin Normanaidd John ym 1201 pan y’i gwnaed yn arglwyddiaeth frenhinol, a weinyddid o Gastell Aberteifi, ac arhosodd felly tan Ddeddf Uno 1536 pan ddaeth yn rhan o Gantref Troedyraur. At ei gilydd parhaodd yr arglwyddiaeth i fod yn ddarostyngedig i gyfreithiau a phatrymau tirddaliadaeth Cymreig trwy gydol y cyfnod canoloesol, ac fe’i gweinyddid fel ‘brodoraeth’. Mae’r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn un o israniadau’r cwmwd, sef Gwestfa Ferwig, a sefydlwyd o bosibl cyn y goresgyniad Normanaidd. Patrymau tirddaliadaeth canoloesol – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig a welir fel arfer yn y rhanbarth.

Bu’r llain arfordirol, sy’n gul iawn, bob amser yn dir ymylol ac fe’i defnyddid yn ôl pob tebyg ar gyfer tir pori garw o gyfnod cynnar. Ni nodwyd unrhyw safleoedd anheddu hanesyddol o fewn y llain hon ar y tir mawr, ond darperir tystiolaeth ei bod wedi’i defnyddio yn y cyfnod ôl-ganoloesol gan odyn galch ger Gwbert. Mae Ynys Aberteifi yn cynnwys crug crwn yn dyddio yn ôl pob tebyg o’r Oes Efydd, sy’n awgrymu bod pobl yn bresennol ar yr ynys yn gynnar. Er y gall rhai nodweddion cloddweithiau ar yr ynys fod yn llwyfannau cytiau yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol, nis dyddiwyd ac ynghyd â nodweddion eraill ar yr ynys mae’n bosibl eu bod yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, neu o gyfnod diweddarach. Nid oes unrhyw dystiolaeth bod yr ynys wedi’i defnyddio gan fynachod ar ddechrau’r cyfnod canoloesol neu ar ôl hynny fel y tybid yn draddodiadol, ac mae’n debyg na sefydlwyd unrhyw anheddau parhaol ar ôl y cyfnod cynhanesyddol. Fodd bynnag, credir bod rhai o’r cloddweithiau yn cynrychioli cwningaroedd, ac mae digon o dystiolaeth ddogfennol bod cwningod wedi’u ffermio ar ynysoedd eraill ar hyd arfordir de-orllewin Cymru, ac er nad yw’r un ohonynt yn ymwneud ag Ynys Aberteifi ceir cyfeiriadau anuniongyrchol at gwningod ar yr ynys mewn chwedlau lleol. Ceir rhai systemau cefnen a rhych ar yr ynys hefyd, yr ystyrid eu bod yn ‘hynafol’ yng nghanol y 19eg ganrif, ond am fod yr ynys yn eiddo i’r teulu Brigstocke o Flaenpant – a oedd yn wellhawyr amaethyddol enwog – yn ystod y 18fed ganrif, efallai eu bod yn cynrychioli tir ymylol a wellhawyd at ddibenion amaethyddol. Fodd bynnag, dim ond yn dymhorol y câi’r ynys ei defnyddio yn ystod y 19eg ganrif pan ‘gynhyrchai borfa dda ar gyfer gwartheg a defaid, yn bennaf ar gyfer y farchnad yn Aberteifi. Erbyn hyn mae’r ynys yn warchodfa natur.

YNYS ABERTEIFI A LLAIN ARFORDIROL

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys Ynys Aberteifi a’r clogwyni uchel o greigiau caled sy’n codi o’r môr i dros 70m, o aber Afon Teifi i gildraeth Mwnt, pellter o tua 5km. Yn y fan hon anaml y mae’r llain arfordir yn fwy na 100m o led, ac mae’n cynnwys tir pori garw a thir diffaith yn ffinio â thir amaeth yn ogystal â’r clogwyni. Ceir clogwyni uchel o bobtu i’r ardal fach o dir pori heb ei wella sy’n ffurfio Ynys Aberteifi sy’n anghyfannedd. Nid oes unrhyw adeiladau cyfannedd yn yr ardal hon, er bod odyn galch restredig wedi’i chofnodi yng Ngwbert. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn gyfoethog ac yn amrywiol ac mae’n cynnwys nifer fawr o safleoedd sy’n gysylltiedig â chyfnodau cynharach o anheddu/amaethu ar Ynys Aberteifi. Ar ben hynny ceir bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn ar y llain ar y tir mawr, glanfeydd ôl-ganoloesol a safleoedd eraill.

Mae Ynys Aberteifi a’r llain arfordirol yn ardal gymeriad hanesyddol nodedig ac mae’n cyferbynnu â chaeau a ffermydd yr ardaloedd cymeriad sy’n ffinio â hi.


Ffynonellau: Bewers, P, 1994, ‘Cardigan Island, Y Ferwig’, Archaeology in Wales 34, 3-6; Cadw – Cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; James, T, a Simpson, D., 1980, Ancient West Wales from the Air, Caerfyrddin; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Ludlow, N, 2002, ‘The Cadw Early Medieval Ecclesiastical Sites Project, Stage 1: Ceredigion’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf y Ferwig 1839; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP YNYS ABERTEIFI A LLAIN ARFORDIROL

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221