Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi>

 

AFON TEIFI: LLECHRYD – CENARTH

AFON TEIFI: LLECHRYD - CENARTH

CYFEIRNOD GRID: SN243421
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 207

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal fach, gul hon a leolir o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro yn cynnwys gorlifdir bras, golygfaol rhannau isaf Afon Teifi rhwng Llechryd i’r gorllewin a Chenarth i’r dwyrain, a’r cymer ag Afon Cych. Mae’r ardal gyfan yn cynnwys tir amaeth ac fe’i nodweddir gan dir pori wedi’i rannu’n gaeau eithaf mawr, rheolaidd eu siâp. Mae Afonydd Teifi a Chych yn ffurfio’r ffiniau rhwng y tair sir, ac mae’r hanes canoloesol a diweddarach yn wahanol yn y tair sir.

Arhosodd Cantref Is Aeron (cwmwd Iscoed) i’r gogledd o Afon Teifi yn nwylo’r Cymry tan y 13eg ganrif, er ei fod o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1100 a 1136. Yn y diwedd fe’i cyfeddiannwyd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi.

I’r de o Afon Teifi, roedd Cantref Emlyn wedi’i rannu’n ddau gwmwd gan Afon Cych; sef Emlyn Uwch-Cych ac Emlyn Is-Cych. Daethpwyd ag Emlyn Is-Cych, i’r dwyrain o Afon Cych, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan y’i had-drefnwyd i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Mae’n bosibl na chafodd ei oresgyn yn llwyr ac roedd yn ôl dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, o leiaf, ac arhosodd felly trwy’r 12fed ganrif a dechrau’r 13eg ganrif. Fe’i cyfeddiannwyd gan Ieirll Marshal Eingl-Normanaidd Penfro ym 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu nes iddo gael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn Sir Gaerfyrddin, ym 1536.

I’r dwyrain o Afon Cych, parhaodd Emlyn Is-Cych yn un o arglwyddiaethau’r gororau (Arglwyddiaeth Cilgerran), gyda chyfnodau ysbeidiol pan fu o dan reolaeth y Cymry, tan ddiwedd y 15fed ganrif pan y’i trosglwyddwyd i’r goron. Fe’i hymgorfforwyd yn y diwedd yn Sir Benfro (Cantref Cilgerran) ym 1536.

Efallai mai’r ardal gymeriad hon oedd lleoliad brwydr gynharach, am fod Llechryd wedi’i gysylltu’n betrus â’r Llech-y-crau a gofnodwyd ym 1088 fel safle brwydr y mae’n amlwg ei fod yn lleoliad cydnabyddedig. At ei gilydd parhaodd yr ardal i fod yn ddarostyngedig i batrymau tirddaliadaeth Cymreig – na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchogion – a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth; mae hyn a llifogydd achlysurol wedi llesteirio unrhyw anheddu yn yr ardal hon.

Fodd bynnag, lleolid fferm a elwid yn Ddol ar un adeg ar lawr y dyffryn, ond ni fu unrhyw sôn amdani ers y 1840au. Arferai adeilad presennol Plasty Stradmore – a gofnodwyd yn gyntaf ym 1610 – fod wedi’i leoli ar y gorlifdir hefyd, lle y mae ei ardd â wal o’i chwmpas i’w gweld o hyd, ond fe’i dinistriwyd gan lifogydd ar ddechrau’r 19eg ganrif ac fe’i hadleolwyd i’w safle presennol ar esgair yn edrych dros y plasty gwreiddiol (y tu hwnt i’r ardal gymeriad).

Ymddengys fod y dirwedd o gaeau mawr, afreolaidd eu siâp yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ac roedd wedi cymryd ei ffurf bresennol erbyn diwedd y 18fed ganrif pan y’i dangosir gan fapiau ystad ar ei gwedd bresennol. Fodd bynnag, byddai wedi bod yn fwy anghysbell yn ystod y cyfnod hanesyddol, am na fodolai’r ffordd sydd bellach yn rhedeg ar hyd ochr ogleddol y gorlifdir - sef yr A484 - nes iddi gael ei hadeiladu o’r newydd fel ffordd dyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif. Cyn hynny, cyrhaeddid llawr y dyffryn trwy lwybrau a lonydd fferm. Felly bu hanes y dirwedd hon yn un amaethyddol gan mwyaf. Fodd bynnag, mae elfen ddiwydiannol wedi helpu i’w ffurfio. Rhwng 1764 a 1770 sefydlwyd gwaith haearn a thunplat helaeth yng Nghastell Maelgwyn, ar lannau Afon Teifi ym Mhenygored a leolir ychydig i’r gorllewin o’r ardal hon. Mae’r gamlas (neu’r ffrwd) a gyflenwai ddwr i’r gwaith yn dal i redeg trwy’r ardal ychydig i’r de o’r afon. Daethpwyd â deunyddiau ar gyfer y gwaith i fyny’r afon fordwyadwy ac roedd digon o goetir ar lethrau’r dyffryn ar gyfer tanwydd. Roedd y gwaith yn llwyddiannus ac aeth trwy nifer o ddwylo nes cael ei brynu gan Syr Benjamin Hammet, a brynodd ystâd Castell Maelgwyn hefyd. Caeodd y gwaith ym 1806.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol hon yn cynnwys 7km o orlifdir Afon Teifi rhwng Llechryd a Chenarth. Mae’n 300m o led ar gyfartaledd ac fe’i lleolir 10m uwchlaw lefel y môr. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir bron yn gyfan gwbl a cheir rhywfaint o dir âr. Mae’r caeau yn gymharol fawr a cheir gwrychoedd o bobtu iddynt. Mae’r gwrychoedd hyn wedi’u plannu ar gloddiau isel neu wrth ochr ffosydd draenio. Mae llawer ohonynt wedi tyfu’n wyllt, ac nid yw rhai yn ddim mwy na rhesi anniben o lwyni a choed bellach. Ar wahân i ardd sylweddol â wal o’i chwmpas ac adeiladau cysylltiedig yn dyddio o’r 18fed ganrif - 19eg ganrif ar y gorlifdir (cyn-safle Plasty Stradmore), a nifer o iardiau coed nid oes unrhyw strwythurau sy’n sefyll yn yr ardal hon. Mae’r A484 sy’n rhedeg ar hyd ymyl y gorlifdir yn darparu ffin bendant i ochr ogleddol yr ardal hon. Mae cwrs camlas wedi’i rhannol fewnlenwi - sy’n ffrwd i fod yn fwy cywir - a gyflenwai ddðr i waith tunplat i lawr yr afon, i’w weld ym mhen gorllewinol yr ardal hon. Prin yw’r safleoedd archeolegol ac maent yn cynnwys safle fferm anghyfannedd a elwir yn Ddol, a phont.

Mae i ardal gymeriad dirwedd hanesyddol Afon Teifi: Llechryd – Cenarth ffiniau pendant oherwydd ei natur wastad mewn cyferbyniad â’r tir amaeth tonnog oddi amgylch.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 9; Archifdy Caerfyrddin, Cawdor 227, 1768, tud3; Brooke, E H, 1932, Monograph of Tinplate Works in Great Britain, Abertawe; Cadw 2002, Cofrestr o Dirluniau, Parciau a Gerddi o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru, Rhan 1 Parciau a Gerddi, Sir Gaerfyrddin, Ceredigion a Sir Benfro; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed Craster, OE, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Fenton, R, 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Jones, F, 1996, Historic Houses of Pembrokeshire and their Families, Casnewydd; Jones, F, 2000, Historical Cardiganshire Homes and their Families, Casnewydd; Jones, T, 1952, Brut y Tywysogyon, Llawysgrif Peniarth MS 20, Caerdydd; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Ceredigion churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Cenarth 1840; Map degwm plwyf Llangoedmor 1839; Map degwm plwyf Llechryd 1841; Map degwm plwyf Manordeifi 1842; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Map 7616 1758 Llyfrgell Genedlaethol Cymru; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP AFON TEIFI: LLECHRYD - CENARTH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221