Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

AFON TEIFI: CENARTH – CASTELLNEWYDD EMLYN

AFON TEIFI: CENARTH – CASTELLNEWYDD EMLYN

CYFEIRNOD GRID: SN284413
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 105

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal fach, gul hon a leolir o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin a Cheredigion yn cynnwys gorlifdir bras, golygfaol rhannau isaf Afon Teifi rhwng Cenarth i’r gorllewin a Chastellnewydd Emlyn i’r dwyrain. Mae’r ardal gyfan yn cynnwys tir amaeth ac fe’i nodweddir gan dir pori wedi’i rannu’n gaeau eithaf mawr, rheolaidd eu siâp. Mae Afon Teifi yn ffurfio’r ffin rhwng y ddwy sir ond mae hanes canoloesol a diweddarach yr ardal yn debyg yn y ddwy. Arhosodd Cantref Emlyn (cwmwd Emlyn Uwch-Cych) i’r de o’r afon, a Chantref Is Aeron (cwmwd Iscoed) i’r gogledd o’r afon yn nwylo’r Cymry tan y 13eg ganrif er iddynt ddod o dan reolaeth Eingl-Normanaidd am gyfnod byr rhwng 1100 a 1136 pan sefydlwyd nifer o gestyll. Cyfeddiannwyd y ddwy ardal yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283, pan grëwyd Sir Aberteifi. Yn y pen draw daeth cwmwd Emlyn Uwch-Cych yn rhan o Gantref Elfed yn Sir Gaerfyrddin, ym 1536. Bu patrymau tirddaliadaeth Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffioedd marchogion - yn bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn yr ardal. Mae hyn a llifogydd achlysurol wedi llesteirio unrhyw anheddu yn yr ardal lle y mae ymyriadau dynol yn gyfyngedig i ffiniau caeau, ffosydd draenio a beddrod siambrog sy’n dyddio o bosibl, o’r cyfnod cynhanesyddol. Roedd y dirwedd wedi cymryd ei ffurf bresennol erbyn diwedd y 18fed ganrif, pan ddengys mapiau ystad y dirwedd fel y mae heddiw. Fodd bynnag, byddai wedi bod yn fwy anghysbell nag ydyw heddiw yn ystod y cyfnod hanesyddol, am fod y ddwy ffordd sydd bellach yn rhedeg ar y naill ochr a'r llall i’r gorlifdir - sef yr A484 ar yr ochr ddeheuol a’r B4333 i’r gogledd - yn gyn-ffyrdd tyrpeg a adeiladwyd o’r newydd ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gyfan yn cynnwys gorlifdir Afon Teifi rhwng Cenarth a Chastellnewydd Emlyn, pellter o ryw 4km. At ei gilydd mae’r gorlifdir rhwng 250m a 400m o led, ond yn y pen gorllewinol uwchlaw Rhaeadrau Cenarth mae’n culhau nes ei fod mor llydan â’r afon. Fe’i lleolir ar uchder o 20m uchlaw lefel y môr. Tir pori wedi’i wella yw’r defnydd a wneir o’r tir yn bennaf. Mae’r caeau o faint canolig i fawr ac fe’u rhennir gan wrychoedd. Mae’r gwrychoedd hyn naill ai ar gloddiau isel iawn neu ni cheir unrhyw gloddiau oddi tanynt. Ceir ffosydd draenio o bobtu i rai ohonynt. Mae llawer o’r gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt, ac mae’r rhain ynghyd â’r nifer fawr o goed gwrychoedd yn rhoi golwg parcdir i’r dirwedd. Mae’r B4333 i’r gogledd a’r A484 i’r de yn rhedeg bob ochr i’r gorlifdir mewn mannau. Ni cheir unrhyw adeiladau, a’r unig archeoleg a gofnodwyd yw safle posibl beddrod siambrog Neolithig.

Mae’r diffyg adeiladau a’r natur wastad yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon a thir amaeth tonnog yr ardaloedd sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn – Eiddo John Vaughan 1778, map 2; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; map degwm plwyf Cenarth 1840; map degwm plwyf Llandygwydd 1842; Meyrick, S R, 1810, The History and Antiquities of Cardiganshire, Llundain; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth Century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP AFON TEIFI: CENARTH – CASTELLNEWYDD EMLYN

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221