Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Rhan Isaf Dyffryn Tywi >

 

ABERCYCH

ABERCYCH

CYFEIRNOD GRID: SN250406
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 29

Cefndir Hanesyddol

Ardal gul, fach o fewn ffiniau modern Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro, sy’n cynnwys pentrefan diwydiannol Abercych, a nodweddir gan ddatblygiadau llinellol yn dyddio o’r 19eg ganrif – 20fed ganrif ar hyd Afon Cych gerllaw ei chymer ag Afon Teifi. Mae Afon Cych yn ffurfio’r ffin rhwng y ddwy sir, ac o ganlyniad mae hanes canoloesol a diweddarach yr ardal ychydig yn wahanol ar y naill ochr a’r llall i’r afon. Rhannai Afon Cych gantref canoloesol Emlyn yn ddau gwmwd, sef Emlyn Uwch-Cych ac Emlyn Is-Cych.

Daethpwyd ag Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin o Afon Cych, o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan y’i had-drefnwyd i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Fodd bynnag, mae’n bosibl na chafodd ei oresgyn yn llwyr ac roedd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy’r 12fed ganrif a dechrau’r 13eg ganrif. Fe’i cyfeddiannwyd gan Ieirll Marshal Eingl-Normanaidd Penfro ym 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu nes iddo gael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr ym 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn Sir Gaerfyrddin, ym 1536. Parhaodd Emlyn Is-Cych i’r dwyrain yn un o arglwyddiaethau’r gorau, gyda chyfnodau pan fu o dan reolaeth y Cymry, tan ddiwedd y 15fed ganrif pan y’i trosglwyddwyd i’r goron, ac fe’i hymgorfforwyd yn y diwedd yn Sir Benfro (Cantref Cilgerran) ym 1536. Serch hynny, at ei gilydd parhaodd yr ardal i fod yn ddarostyngedig i batrymau tirddaliadaeth Cymreig a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig.

Yn wir, ni chofnodir unrhyw anheddiad yn nyffryn Afon Cych nes i efail, sydd wedi diflannu bellach, gael ei sefydlu yn Forge Cych ar lawr y dyffryn. Daeth yr efail yn ganolbwynt i weithgarwch anheddu, a gynhwysai dai gweithwyr yn bennaf. Erbyn arolygon degwm dechrau’r 1840au cynhwysai’r anheddiad tua 30 o dai wedi’u gwasgaru ar hyd llethr y dyffryn. Adeiladwyd dau gapel i wasanaethu’r gymuned hon yn ystod y 19eg ganrif, ac ychwanegwyd eglwys haearn, sydd ar gau bellach, yn yr 20fed ganrif, sy’n tystio i bwysigrwydd y gymuned newydd. Parhaodd yr anheddiad i ddatblygu a sefydlwyd rhagor o ddiwydiannau gwasanaethu yno trwy’r 20fed ganrif ac i mewn i’r 21ain ganrif.

ABERCYCH

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae Abercych yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol adeiledig, fach iawn sy’n cynnwys yn bennaf lethrau serth dyffryn Afon Cych sy’n wynebu’r dwyrain a’r gogledd-ddwyrain, rhwng 10m a 30m uwchlaw lefel y môr. Pentref llinellol ydyw, neu’n hytrach gyfuniad o nifer o bentrefannau – sef Pont Hercws, Forge Cych, Abercych, Penrhiw a Phont Treseli – a leolir ar hyd isffordd sy’n rhedeg ar hyd llethrau serth y dyffryn ac i lawr i orlifdir Afon Cych ar hyd y B4332. Oherwydd y llethrau serth lleolir y tai naill ai ar derasau wedi’u torri i mewn i’r llethr uwchlaw’r ffordd neu wedi’u hadeiladu allan dros lethr y dyffryn islaw’r ffordd. Mae’r mwyafrif o’r anheddau yn dai gweithwyr yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif ac maent wedi’u hadeiladu o lechi dibatrwm o ddyffryn Teifi. Mae’r llechi hyn naill ai wedi’u gadael yn foel neu maent wedi’u rendro â sment. Llechi gogledd Cymru yw’r deunydd toi mwyaf cyffredin. Ceir cymysgedd o arddulliau adeiladu, ond mae gan y mwyafrif o’r tai ddau lawr a thri bae – fel tai teras, tai pâr a thai ar wahân – a chilbyst ffenestri a drysau o frics sy’n ategu’r waliau cerrig. Ceir bythynnod unllawr sydd wedi’u haddasu gryn dipyn, yn ogystal â rhai tai gweithwyr ar wahân sy’n dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif sydd ychydig yn fwy o faint ac sy’n cynnwys addurniadau’r cyfnod megis ffenestri bae ac ymylon bondo. Ym Mhont Hercws, mae’n bosibl bod bwthyn unllawr â tho o haearn rhychog dros wellt, sydd bellach yn anghyfannedd, yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ac mae’n dynodi’r math o adeilad a ddisodlwyd gan y rhai a ddisgrifiwyd uchod. Mae o leiaf un hen efail wedi goroesi sy’n dynodi tarddiad diwydiannol yr anheddiad hwn. Mae adeiladau i wasanaethu’r gymuned yn cynnwys dau gapel wedi’u hadeiladu o gerrig sy’n dyddio o’r 19eg ganrif (un rhestredig), eglwys haearn Sant Ioan yn dyddio o’r 20fed ganrif, a dwy dafarn. Llenwyd llawer o’r mannau agored a arferai fod rhwng y tai a adeiladwyd yn y 19eg ganrif gan dai ar wahân yn dyddio o’r 20fed ganrif a’r 21ain ganrif; mae’r broses hon yn parhau. Mae Pont Treseli, pont ffordd a adeiladwyd yn y 19eg ganrif, yn adeilad rhestredig. Mae’r archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys rhai o’r adeiladau y cyfeiriwyd atynt uchod a chyfeiriadau dogfennol at Forge Cych.

Ffynonellau: Cadw – cronfa ddata Adeiladau o Ddiddordeb Pensaernïol neu Hanesyddol Arbennig; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Fenton, R., 1811 A Historical Tour through Pembrokeshire, Llundain; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol 1, Caerdydd; Ludlow, N, 2000, ‘The Cadw Welsh Historic Churches Project: Pembrokeshire churches’, adroddiad nas cyhoeddwyd gan Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Map degwm plwyf Cenarth 1840; Map Degwm Plwyf Manordeifi 1842; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP ABERCYCH

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221