Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

DYFFRYN BARGOD A DYFFRYN ESGAIR

DYFFRYN BARGOD A DYFFRYN ESGAIR

CYFEIRNOD GRID: SN348367
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 171

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys dyffrynnoedd llethrog Nant Bargod a’i hisafon, Nant Esgair. Mae’n cynnwys llethrau tra choediog yn bennaf. Gorweddai’r ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100 pan ad-drefnwyd cwmwd Emlyn Is-Cych, i’r gorllewin i greu Arglwyddiaeth Cilgerran. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Roedd yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536, pan ymunodd Is-Cych â sir Benfro. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir ni chafwyd fawr ddim anheddu yn yr ardal hon, er bod y darluniad cartograffig cyntaf ar raddfa fawr o’r ardal hon - sef mapiau ystâd 1778 - yn dangos llawer llai o goetir nag sydd yno heddiw, gyda mwy o gaeau ar lethrau serth y dyffryn. Erbyn yr arolwg degwm a wnaed tua 1840, dangosir mwy o goetir, ond mae’n dal i fod yn llai helaeth nag ydyw heddiw. Ers hynny, mae coetir naill ai wedi aildyfu dros hen gaeau neu wedi’i blannu. Ers yr Ail Ryfel Byd, plannwyd coetir conifferaidd naill ai mewn pocedi bach rhwng coed collddail, neu yn fwy helaeth ar y llethrau uwch tuag at ran ddeheuol yr ardal hon.

 

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Mae’r ardal gymeriad dirwedd hanesyddol goediog hon yn ymestyn ar draws llethrau serth y nentydd sy’n llifo i’r gogledd, sef Nant Bargod a Dyffryn Esgair. Mae’r llethrau is yn y pen gogleddol tua 50m uwchben lefel y môr. Yn y pen deheuol, mae llethrau yn codi i dros 200m uwchben lefel y môr lle y maent ar eu huchaf. Ar wahân i ychydig o gaeau o brysgwydd a thir pori garw, mae’r cyfan yn llawn coed. Ceir cymysgedd o goetir collddail a choed coniffer. Coetir collddail a geir gan amlaf ym mhen gogleddol isaf yr ardal gymeriad ar y llethrau uwchben pentrefi a phentrefannau Dre-fach, Felindre, Cwmpengraig a Drefelin, ac mae coed coniffer yn fwy cyffredin ar y tir uwch i’r de. Mae rhywfaint o’r coetir collddail yn hynafol, efallai fod rhywfaint wedi aildyfu’n gymharol ddiweddar ac efallai fod rhywfaint wedi’i blannu.

Nid oes unrhyw adeiladau sy’n sefyll yn yr ardal hon, ond cofnodir sawl bwthyn adfeiliedig sy’n gysylltiedig â diwydiant gwlân Dre-fach Felindre ar y Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol, yn ogystal â sawl ffrwd melin a arferai gyflenwi’r melinau gwlân â dðr. Prin yw’r safleoedd archeolegol eraill, ond maent yn cynnwys bryngaer yn dyddio o’r Oes Haearn, a nifer o hen chwareli yn dyddio o’r 19eg ganrif yn ôl pob tebyg.

Mae hon yn ardal gymeriad dirwedd hanesyddol ar wahân. Mae’n dra gwahanol i’r ardaloedd cymeriad amaethyddol a’r ardaloedd diwydiannol/anheddu sy’n ffinio â hi.

Ffynonellau: Cadw - Archifdy Caerfyrddin c/v 5885 Ystad Castellnewydd Emlyn - Eiddo John Vaughan 1778; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed ; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; map degwm plwyf Llangeler 1839; map degwm plwyf Penboyr 1840; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain.

MAP DYFFRYN BARGOD A DYFFRYN ESGAIR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221