Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Drefach-Felindre >

COED MAWR

COED MAWR

CYFEIRNOD GRID: SN363392
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 140

Cefndir Hanesyddol

Ardal fach o fewn ffiniau modern sir Gaerfyrddin sy’n cynnwys darn o dir a amgaewyd trwy ddeddf Seneddol yn y 19eg ganrif, a nodweddir gan gaeau hirsgwar, rheolaidd eu siâp, sydd bellach yn goediog ar y cyfan. Gorweddai’r ardal o fewn cantref canoloesol Emlyn, yng nghwmwd Emlyn Uwch-Cych. Dygwyd Cantref Emlyn yn rhannol o dan reolaeth Eingl-Normanaidd tua 1100. Sefydlwyd nifer o gestyll yng nghwmwd Uwch-Cych - nad oes gan yr un ohonynt unrhyw hanes cofnodedig - ond roedd y cwmwd yn ôl o dan reolaeth y Cymry erbyn y 1130au, ac arhosodd felly trwy gydol y 12fed ganrif a’r 13eg ganrif. Cymerodd Ieirll Marshall Eingl-Normanaidd Penfro feddiant ar gwmwd Uwch-Cych yn 1223, ond fe’i rhoddwyd i Maredudd ap Rhys, ac arhosodd ym meddiant ei deulu yntau nes cael ei gyfeddiannu yn y diwedd gan goron Lloegr yn 1283. Yn y diwedd daeth yn rhan o Gantref Elfed yn sir Gaerfyrddin yn 1536. Rhoddwyd Uwch-Cych i Syr Rhys ap Thomas, ffefryn yn y llys brenhinol, ar ddiwedd y 15fed ganrif. Dychwelodd i’r goron yn 1525 a’i rhoddodd i Syr Thomas Jones o Haroldston, sir Benfro, yn 1546. Arhosodd ym meddiant y teulu hwn am nifer o genedlaethau cyn cael ei drosglwyddo yn y diwedd trwy briodas i Ystad Gelli Aur y teulu Vaughan, a oedd yn dal i fod yn berchen ar bron yr holl dir ar ochr ddeheuol afon Teifi o Bentre-cwrt yn y dwyrain i Genarth yn y gorllewin yn y 19eg ganrif. Y patrwm tirddaliadaeth canoloesol Cymreig - na chynhwysai na threflannau na ffïoedd marchog - a fu’n bennaf cyfrifol am y patrwm anheddu gwasgaredig yn y rhanbarth. Yn wir ni chafwyd fawr ddim anheddu yn yr ardal hon, a oedd yn dir comin yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, a chyn hynny yn ôl pob tebyg. Ar fap degwm 1839 nodir bod yr ardal yn cynnwys tir agored, ac ar y dyraniad cysylltiedig fe’i henwir yn Dir Comin Waun Fawr, a nodir ei fod yn eiddo i Iarll Cawdor. Mae tystiolaeth y map degwm yn awgrymu bod pobl wedi bod yn tresmasu ar gyrion y tir comin hwn yn ddiweddar a’u bod wedi’i amgáu. Yn 1855, rhoddwyd Dyfarniad Cau Seneddol i amgáu 138 o erwau o dir comin a thir diffaith, a elwid bryd hynny yn Waunmeiros. Dangosir canlyniad y dyfarniad hwn - sef caeau rheolaidd eu siâp a darn syth o ffordd - ar Argraffiad Cyntaf Map yr Arolwg Ordnans a luniwyd yn 1887. Y patrwm caeau a sefydlwyd yn 1855 yw’r un a welir heddiw. Sefydlwyd planhigfa fach o goetir erbyn 1887, a heddiw mae’r ardal yn cynnwys cymysgedd o goetir a thir pori.

COED MAWR

Disgrifiad ac elfennau hanfodol y dirwedd hanesyddol

Erbyn hyn nid oes llawer o wahaniaeth rhwng yr ardal gymeriad dirwedd hanesyddol gymharol fach hon, sy’n ymestyn ar draws tir gweddol donnog rhwng 60m a 89m o uchder, a thirweddau’r ardaloedd sy’n ffinio â hi, ond mae ganddi hanes tirwedd diweddar ar wahân y mae cryn dystiolaeth ddogfennol iddo. Mae’r patrwm presennol o gaeau cymharol fach, rheolaidd eu siâp a rennir gan wrychoedd ar gloddiau yn dyddio o 1855, pan y’i sefydlwyd o ganlyniad i Ddeddf Cau Tiroedd Seneddol. Mae darn syth o ffordd sy’n croesi’r ardal yn nodweddiadol o weithgarwch amgáu tir Seneddol. Sefydlwyd planhigfa fach o goed collddail erbyn 1887 ac ers hynny mae coetir collddail wedi aildyfu dros lawer o gaeau eraill neu maent wedi’u plannu â choetir collddail. Mae’r coetir hwn a’r ffaith bod y gwrychoedd wedi tyfu’n wyllt yn rhoi golwg dra choediog i’r dirwedd. Ymddengys nad yw ansawdd y tir cystal â’r tir mewn ardaloedd cyfagos am y ceir llawer o dir pori heb ei wella a thir brwynog gwlyb. Ni cheir unrhyw anheddau nac unrhyw adeiladau eraill, ac nid oes unrhyw safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Mae caeau rheolaidd eu siâp, coetir a’r ffaith nas oes unrhyw adeiladau yn gwahaniaethu rhwng yr ardal hon a’r ardaloedd sy’n ffinio â hi. Ar wahân i’r elfennau hyn, nid yw cymeriad cyffredinol y dirwedd yn annhebyg i weddill y rhan hon o gefn gwlad gogledd sir Gaerfyrddin.

Ffynonellau: Argraffiad Cyntaf Map 1:2500 yr Arolwg Ordnans, tua 1880; Chapman, J, 1992, A Guide to Parliamentary Enclosures in Wales, Gwasg Prifysgol Cymru, Caerdydd; Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol Rhanbarthol a gedwir gan Archeoleg Ymddiriedolaeth Archaeolegol Dyfed; Craster, O E, 1957, Cilgerran Castle, Llundain; Lewis, S, 1833, A Topographical Dictionary of Wales 1 a 2, Llundain; Lloyd, J E, 1935, A History of Carmarthenshire, Cyfrol I, Caerdydd; map degwm plwyf Llangeler, 1839; Rees, W, 1932, ‘Map of South Wales and the Border in the XIVth century’; Rees, W, 1951, An Historical Atlas of Wales, Llundain

MAP COED MAWR

 

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221