|
298 Y FELINGANOL
CYFEIRNOD GRID: SM805258
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 105
Cefndir Hanesyddol
Ardal o fewn ffiniau modern Sir Benfro ar ochr ddeheuol Penrhyn Tyddewi,
sy'n cynnwys dyffryn Afon Solfach o amgylch y Felinganol, i fyny'r afon
o bentref Solfach.Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog,
neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n
graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef
brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Erbyn hyn lleolir yr
ardal gymeriad o fewn plwyf Tre-groes, a hyd yn oed heddiw mae iddi dopograffi
eglwysig go arbennig. Mae'n bosibl bod enw lle 'Clyn Ysbyty', sydd wedi'i
ddefnyddio ers 1610 o leiaf, yn nodi safle ysbyty canoloesol. O 1115 ymlaen,
pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd
o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol
â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Gorweddai'r ardal
gymeriad o fewn 'maenor' Cantref Cymreig a Thydwaldy ond ymddengys fod
systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu
mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Afon Solfach yw nodwedd amlycaf yr
ardal gymeriad a chredai Gerallt Gymro ei bod yn werth sôn amdani oddeutu
1200. Roedd Pebidiog wedi bod yn enwog am ei dir âr ffrwythlon ers amser
maith ac felly ceir sôn am felin þd yn Solfach yn Llyfr Du Tyddewi dyddiedig
1326, a all gynrychioli melin bresennol Solfach i'r de o'r ardal gymeriad
hon. Ni restrir Melin Caerforiog, yn y gogledd, yn y Llyfr Du ond ymddengys
ei bod yn perthyn i'r cyfnod canoloesol hefyd, ac mae ei phwll - Llyn-yr-alarch
- yn cynnwys yr hyn a all fod yn safle â ffos o'i amgylch a chyn-golomendy
(gweler ardal gymeriad Caerforiog). Ni restrwyd y Felinganol chwaith ym
1326 ac mae ei enw yn rhagdybio mai hi oedd y ddiweddaraf o'r tair melin.
Cyfeiriwyd at Bont y Felinganol yn ôl ei henw mewn dogfen yn dyddio o
1598, sy'n dangos bod melin wedi'i sefydlu erbyn yr adeg honno. Roedd
gan Solfach a'r Felinganol yr hawl i bori tir comin o fewn yr ardal sy'n
awgrymu efallai i'r broses o ddosrannu tir comin ym Mhebidiog ddechrau,
o leiaf yn rhannol, yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Nodir melin þd Fferm y
Felinganol, a safai yn ôl pob tebyg ar safle'r felin y cyfeiriwyd ati
yn yr 16fed ganrif, ar fap yn dyddio o 1760, ynghyd â Thþ'r Felin, ac
roedd yn dal i weithio fel melin þd ym 1812. Fodd bynnag, erbyn y cyfnod
hwn roedd y Felinganol wedi datblygu'n ganolfan i'r diwydiant brethyn
yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Yn yr 17eg ganrif, gwerthwyd 2500 o erwau o
dir gan gynnwys y Felinganol i sidanwr o Lundain ac yn y 1830au y dwysedd
uchaf o felinau gwlân ar gyfer unrhyw ardal yn Sir Benfro oedd dwy ar
bymtheg yng nghymdogaeth Tyddewi. Cynhwysent y Felinganol yr oedd pentref
lled-ddiwydiannol wedi datblygu o'i amgylch, gyda chapel a thþ tafarn.
Ni sefydlwyd y ffatri frethyn bresennol, fodd bynnag, tan 1907. O dan
yr enw 'Thomas Griffiths and Son' bu'n allforio brethyn ledled y DU, ac
yn fwy diweddar buwyd yn cynhyrchu carpedi yn y ffatri.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol y Felinganol yn gorchuddio
llawr ac ochrau dyffryn Afon Solfach i fyny'r afon o bentref Solfach.
Mae llawr y dyffryn yn gorwedd rhwng 5m i 10m o uchder ac mae'r ochrau'n
codi'n serth i dros 50m o uchder. I lawr yr afon o bentrefan y Felinganol
amgaeir y gorlifdir cul ac ochrau is y dyffryn gan gloddiau o bridd neu
bridd a cherrig i ffurfio caeau bach o dir pori wedi'i wella. Mae'r gwrychoedd
ar y cloddiau hyn yn aflêr ac maent wedi tyfu'n wyllt ac ni allant ddal
anifeiliaid bellach. Defnyddir ffensys gwifrau i ddal yr anifeiliaid.
Mae ochrau'r dyffryn a llawr y dyffryn uwchben y Felinganol wedi'u gorchuddio
naill ai â choetir collddail a/neu goetir prysglog yn cynnwys canran uchel
o eithin. Ar hyd y lonydd troellog rhwng pentref Solfach a'r Felinganol
ceir nifer o fythynnod gwasgaredig o'r 19eg ganrif yn y traddodiad brodorol
a byngalos modern mewn amrywiaethau o arddulliau. Mae'r Felinganol, fel
y noda'r enw, yn bentrefan lled-ddiwydiannol bach. Yn ei ganol ceir melin
wlân a yrrir gan ddðr yn dyddio o'r 19eg ganrif neu'r 20fed ganrif, sydd
erbyn hyn yn atyniad i ymwelwyr. Mae'r pentrefan yn cynnwys yn bennaf
glwstwr o dai a bythynnod o gerrig yn y traddodiad brodorol sy'n dyddio
o'r 19eg ganrif, y mae llawer ohonynt wedi'u hadfer, a chapel, a leolir
ar ochr ddwyreiniol is y dyffryn. Lleolir chwarel fawr - sy'n rhannol
weithredol o hyd - ag adeiladau concrid ar ochr orllewinol uchaf y dyffryn
sy'n edrych dros bentrefan y Felinganol. Lleolir gwaith trin dðr ar lawr
y dyffryn.
Mae pum adeilad rhestredig yn y Felinganol. Tþ'r Felin
a'r felin, a chorn þd Fferm y Felinganol â'i holwyn dros y rhod sydd yn
eu hanfod yn perthyn i'r 18fed ganrif ac a nodir ar fap o 1760, capel
y Bedyddwyr, pont y Felinganol a Phont Caerforiog y cyfeiriwyd atynt ym
1598. Ymhlith yr adeiladau heb eu rhestru mae'r Llanwas Arms a'r Ffatri
Frethyn, a'r tu allan i'r pentref, Melinau Caerforiog a Solfach, a phontydd
Pont-y-cerbyd a Phont Ifangwr.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i fan darganfod o'r oes
efydd, bryngaer bosibl o'r oes haearn, y clostir canoloesol, hirsgwar,
cofrestredig sydd â ffos o'i amgylch yn Llyn-yr-alarch, enw lle sydd o
bosibl yn nodi 'ysbyty' canoloesol, a chwareli a grobyllau o'r cyfnod
ôl-ganoloesol.
Mae dyffryn coediog a phatrwm anheddu cymharol ddiweddar
yr ardal yn ei gosod ar wahân i'r ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol
cyfagos lle y ceir hen gaeau a ffermydd sefydlog. Mae'r Felinganol yn
ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ar wahân.
Ffynonellau: Charles 1992; Fenton 1811; James 1981; Jones
1966-70; Lidlow 1994; Llyfrgell Genedlaethol Cymru, NLW Coll B488; Map
a rhaniad degwm Tre-groes (Tyddewi), 1840-41; Willis-Bund 1902
|