Cartref > Tirweddau Hanesyddol >Tyddewi >

 

290 PWLL TREFEIDDAN

CYFEIRNOD GRID: SM735253
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 39.7

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o dir comin agored o fewn ffiniau modern Sir Benfro ym mhen de-orllewinol Penrhyn Tyddewi. Yn ystod yr Oesoedd Canol gorweddai o fewn Cantref Pebidiog, neu 'Dewisland', a ddelid yn uniongyrchol gan Esgobion Tyddewi, a fu'n graidd i'r Esgobaeth ers 1082 pan gafodd ei roi gan Rhys ap Tewdwr, sef brenin Dyfed cyn y goresgyniad, i'r Esgob Sulien. Lleolir yr ardal gymeriad o fewn plwyf Tyddewi. O 1115 ymlaen, pan benodwyd Bernard yn Esgob ar Dyddewi, cyflwynwyd systemau Eingl-Normanaidd o lywodraeth ffiwdal a gweinyddiaeth eglwysig i Bebidiog, a oedd yn gyffiniol â Chantref Pebidiog a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536. Fodd bynnag, ymddengys fod systemau tirddaliadaeth Cymreig wedi goroesi, er iddynt gael eu haddasu mewn ffyrdd gwahanol, tra parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal hyd ddechrau'r 20fed ganrif. Roedd Pebidiog yn enwog am ei dir âr ffrwythlon. O ddwysedd uchel ei boblogaeth a'r system Gymreig o dirddaliadaeth y deilliodd prif batrwm anheddu'r ardal, patrwm a gynrychiolir gan ddwysedd uchel o bentrefannau bach. Mae enwau'r mwyafrif o'r pentrefannau hyn yn cynnwys yr elfen Tre- ac maent yn seiliedig i raddau helaeth ar y treflannau canoloesol. Ymddengys fod pob un yn arfer bod yn gysylltiedig â dwy ardal fach ar wahân o dir comin. Gelwid y naill ardal yn 'gomin' a'r llall yn waun, ac roedd yr olaf yn dir diffaith. Ceir yr un cysylltiad, ar raddfa fwy, yn ardal gymeriad Pwll Trefeiddan a gofnodwyd yn gyntaf ym 1614 a all ddangos fod y system yn perthyn i'r cyfnod ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, mae'r ardal hefyd yn cynnwys Rhos Treswni. Er iddo gael ei gofnodi yn gyntaf ym 1650, mae'n bosibl bod yr enw Treswni yn gysylltiedig â'r elfen rhos sy'n awgrymu bod y tir comin yn rhagflaenu'r dreflan, sy'n dangos bod y system yn perthyn i'r cyfnod canoloesol. Mae'r ardal gymeriad hefyd yn cynnwys tir comin sy'n gysylltiedig â threflan Rhosson. Mae'r tir comin a ddangosir ar fap degwm 1840 yn gorchuddio'r un ardal â heddiw fwy neu lai, a all gynrychioli ei ffiniau gwreiddiol.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Pwll Trefeiddan yn gorwedd ar draws llawr dyffryn/pant hirfain agored ar uchder o 35m fwy neu lai. Ac eithrio rhan fach o'i ymyl ogleddol, mae wedi'i hamgylchynu gan gaeau a ffermydd ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Treleddyn - Treginnis. Er bod lôn yn rhedeg ar ei thraws, mae'r ardal gymeriad yn agored, ac mae'n cynnwys rhostir a gweundir gwlyb ac ardal helaeth o ferddwr a chors cawn - sef Pwll Trefeiddan. Nid oes unrhyw aneddiadau. Tir comin ydyw, ond nis porir erbyn hyn. Mae'n debyg y câi mawn yr ardal hon ei dorri ar gyfer tanwydd. Nid oes unrhyw adeiladau yn sefyll o fewn yr ardal, ac nid oes unrhyw safleoedd archeolegol a gofnodwyd.

Mae'r ardal hon o dir comin gwlyb yn dirwedd hanesyddol hollol ar wahân ac mae'n cyferbynnu â'r ardaloedd oddi amgylch lle y ceir ffermydd a chaeau.

Ffynonellau: Charles 1992; Dicks 1968; Howell 1993; Howells 1971; Howells 1987; James 1981; Map degwm a rhaniad Tyddewi, 1840-41; Willis-Bund 1902