Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

284 HAFOD TUDFUL

CYFEIRNOD GRID: SN116337
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 11.5

Cefndir Hanesyddol
Ardal gymeriad fach iawn gerllaw copa Mynydd Preseli. Mae'n cynnwys ardal fach o dir amgaeëdig - 13 o gaeau bach - o amgylch fferm, sef Hafod Tudful. Fe'i lleolir o fewn tir agored comin Mynydd Preseli yr oedd siarter gan Nicholas Fitzmartin wedi rhoi'r hawl i rydd-ddeiliaid Cemaes bori anifeiliaid a thorri mawn arno ar ddiwedd y 13eg ganrif. Ar yr wyneb, ymddengys i'r tir gael ei amgáu ar ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol, ond cyfeirir at 'Hafod Tidvill' mewn dogfen o 1585-6 fel 'daliad o 8 erw', a oedd ym meddiant y teulu Bowen o Bentre Ifan. Ymddengys ei bod yn un o nifer o ardaloedd o gyn-gaeau o fewn y tir comin, y gellir gweld tystiolaeth ohonynt mewn mannau eraill fel systemau o gloddiau hindreuliedig, sydd weithiau yn gysylltiedig â safleoedd aneddiadau gwledig anghyfannedd ar y rhostir. Aseswyd bod 2 aelwyd yn Hafod Tudful ym 1670, ac roedd wedi cymryd ei ffurf bresennol erbyn o leiaf adeg yr arolwg degwm, ym 1841. Bu pobl yn byw ynddo tan y 1950au.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hafod Tudful yn cynnwys nifer o gaeau a amgylchynnir gan rostir agored Mynydd Preseli. Fe'i lleolir ar lethrau sy'n wynebu'r gogledd rhwng 150m a 220m o uchder. Mae'r caeau'n fach ac yn afreolaidd eu siâp, ac fe'i rhennir gan gloddiau o bridd a cherrig. Mae'r gwrychoedd ar ben y cloddiau wedi tyfu'n wyllt ac mae llawer o goed bach yn tyfu ynddynt. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir. Dymchwelwyd annedd ac adeiladau eraill y fferm.

Ni chofnodwyd unrhyw archeoleg arall yn yr ardal gymeriad hon.

Mae'r ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon yn ardal dra gwahanol; mae ei chaeau a'i gwrychoedd yn ffurfio ynys o lesni yn y rhostir agored oddi amgylch.

Ffynonellau: Charles 1992; Jones 1996; Map degwm a rhaniad Meline, 1841