Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

281 CRUGIAU DWY

CYFEIRNOD GRID: SN168310
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 190.6

Cefndir Hanesyddol
Llain gul o dir o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr dwyreiniol Mynydd Preseli. Yn ystod yr oesoedd canol gorweddai o fewn Cantref Cemaes y daethpwyd ag ef o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Fel y rhan fwyaf o ran dde-ddwyreiniol y Farwniaeth o fewn Mynydd Preseli, parhawyd i ddal ardal gymeriad Crugiau Dwy o dan systemau Cymreig o ddirddaliadaeth. Ym 1118, rhoddodd William Fitzmartin yr ardal, fel rhan o faenor Nigra Grangia, i Dironiaid Abaty Llandudoch. Mae'r ffaith mai dim ond hanner ffi marchog oedd yr asesiad o'i gwerth yn awgrymu bod y faenor yn ôl pob tebyg yn rhostir pori agored yn ystod y cyfnod canoloesol. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd, fe'i trosglwyddwyd i John Bradshaw o Lanandras, ynghyd ag Abaty Llandudoch, ac ar ôl hynny fe'i delid o Farwniaeth Cemaes. Ymddengys iddi barhau yn dir comin o rostir agored tan yn weddol ddiweddar, ac erbyn hyn fe'i nodweddir gan system o gaeau mawr iawn ac iddynt ffiniau syth, y mae'n amlwg eu bod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod ôl-ganoloesol ond sy'n bresennol erbyn y 1840au pan ymgymerwyd â'r arolwg degwm. Gan fod yr ardal yn gorwedd rhwng ardal gymeriad Mynachlog-ddu i'r gorllewin, a amgaewyd i bob pwrpas rhwng yr 16eg ganrif a'r 18fed ganrif, ac ardal gymeriad Pentre Galar i'r dwyrain, a amgaewyd ym 1812, ymddengys fod y caeau mawr yn gynharach na 1812, ond nid o lawer o flynyddoedd yn ôl pob tebyg. Atgynhyrchir cofnod Charles Hassall, ym 1794, o'r 'tir diffaith helaeth' a fodolai o hyd ym Maenclochog yn Hanes y Sir. Nid oes unrhyw anheddiad erbyn hyn, ac ni chofnodir unrhyw anheddiad ar fapiau hanesyddol, ond mae pen deheuol yr ardal yn cynnwys chwarel lechi nas defnyddir bellach a adwaenid fel Klondyke a gafodd ei gweithio o bryd i'w gilydd o ddechrau'r 19eg ganrif (a chyn hynny o bosibl), ac a ddatblygwyd ym 1910-12 pan gyflogai 150 o bobl cyn iddi gau.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Lleolir ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Crugiau Dwy ar esgair lyfngrwn sy'n ymestyn o'r de i'r gogledd i'r dwyrain o Fynydd Preseli. Lle y mae ar ei huchaf mae'r esgair yn cyrraedd 360m. Mae'r ardal hon yn cynnwys ochrau'r esgair i lawr at 280m o uchder fwy neu lai. I'r de mae'r esgair yn codi hyd at gopa ardal gymeriad Foel Drych. Ni ddefnyddir yr hen gloddiau terfyn erbyn hyn, ac mae ffensys gwifrau yn rhannu'r ardal yn gaeau mawr iawn, ond mae i lawer o'r dirwedd olwg agored ar wahân i'r pen gogleddol a drawsnewidiwyd yn dir pori wedi'i wella yn ddiweddar ac sydd wedi'i hisrannu gan ffensys gwifrau yn gaeau rheolaidd eu siâp. Fodd bynnag, tir pori garw sy'n cynnwys pocedi mawr o rug a rhedyn yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf. Nid oes unrhyw adeiladau yn sefyll o fewn yr ardal hon. Nodweddir y dirwedd gan ambell glwstwr o goed ar ochr ddwyreiniol fwy cysgodol yr esgair sy'n nodi safleoedd ffermydd a bythynnod anghyfannedd. Ar wahân i'r coed hynny a phlanhigfa o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif ar lethrau deheuol yr esgair, tirwedd foel ydyw. Mae olion y chwarel yn un o nodweddion amlwg llethrau deheuol yr ardal. Nid oes unrhyw ffyrdd na llwybrau.

Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i ddau, efallai dri chrug crwn o'r oes efydd, ac olion chwarel Klondyke a thwneli ysbwriel helaeth (un ohonynt â phont) yn dyddio o'r cyfnod ôl-ganoloesol, twnel draenio sydd wedi dymchwel, ac olion yr hyn a all fod yn efail a thþ powdwr.

I'r gorllewin, i'r gogledd ac i'r dwyrain mae tir amgaeëdig is yn darparu ffiniau pendant ar gyfer yr ardal hon. Dim ond i'r de lle y mae'r ardal hon yn ymdoddi i fryn agored, uwch Foel Drych y mae unrhyw debygrwydd rhwng yr ardal gymeriad tirwedd hanesyddol hon ac ardal gymeriad tirwedd hanesyddol ei chymydog.

Ffynonellau: Howells 1987; Map degwm a rhaniad Llanfyrnach, 1844; Map degwm a rhaniad Llanglydwen, 1846; Map degwm a rhaniad Mynachlogddu, 1846; Rees 1932; Richards, 1998.