Cartref > Tirweddau Hanesyddol > Preseli >

278 CARNEDD MEIBION-OWEN

CYFEIRNOD GRID: SN090365
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 114.4

Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr gogleddol pellaf Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd i'r Farwniaeth yr un ffiniau â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Erbyn hyn rhostir anial, creigiog ydyw heb fawr ddim tir amgaeëdig, ond ar ei llethrau isaf o leiaf mae'n bosibl ei bod wedi'i gorchuddio â choed gynt. Roedd coedwig ganoloesol Cilruth - y mae Coedwig Pentre Ifan yn cynrychioli rhan ohoni sydd wedi goroesi - wedi bod tan awdurdod coedwig y Farwniaeth ers y 12fed ganrif pan ddywedwyd ei bod yn ymestyn i fyny llethrau Carnedd Meibion Owen, ac fe'i nodir fel 'Fforest' ar fap Rees. Cliriwyd yr ardal cyn ceisio ei hamgáu â system o gaeau mwy o faint ac afreolaidd eu siâp. Mae golwg caeau diweddar i'r caeau hyn, ac mae'n debyg bod yr anheddiad anghyfannedd a gofnodwyd yma yn ddiweddar yn cynrychioli anheddiad sgwatwyr yn dyddio o'r blynyddoedd hynny yn ystod y 18fed ganrif pan fu'r boblogaeth dan bwysau. Nid oes unrhyw aneddiadau erbyn hyn, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa a gofnodwyd ar fap degwm 1843, ac mae llawer o ran ogledd-orllewinol yr ardal hon yn troi'n goetir unwaith eto.

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Carnedd Meibion-Owen yn fryn creigiog anghysbell sydd wedi'i amgylchynnu gan dir ffermio amgaeëdig. Tua chopa'r bryn, ar 244m o uchder, mae'r nifer o frigiadau creigiog eponymaidd sy'n debyg i foelydd yn gorwedd mewn rhostir agored llawn rhedyn, eithin a grug. I'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de mae'r rhostir hwn yn disgyn nes ei fod o dan 150m o uchder. Ar yr ochr orllewinol ceir rhai cloddiau nad oes eu hangen bellach. Mae coetir yn dechrau tyfu unwaith eto dros y llethrau isaf sy'n wynebu'r gogledd-orllewin. O bob tu i'r rhostir mae cloddiau mawr ac iddynt wynebau o gerrig sydd hefyd yn isrannu'r tir ar yr ochr ddeheuol rywfaint. Nid oes unrhyw wrychoedd. Cafodd pen dwyreiniol y copa i lawr hyd at ryw 180m o uchder ei wella yn ddiweddar i greu tir pori ac ychydig o dir âr ac fe'i rhannwyd â ffensys gwifrau. Nid oes unrhyw adeiladau yn yr ardal hon. Lonydd a llwybrau yw'r unig elfennau yn y dirwedd yn ymwneud â thrafnidiaeth.

Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys dwy feddrod siambrog bosibl o'r oes neolithig (sef Carnedd Meibion Owen), llwybr o ddyddiad anhysbys, ffynnon sanctaidd ganoloesol a safle'r anheddiad ôl-ganoloesol.

Mae'r elfen o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Carnedd Meibion-Owen sy'n cynnwys rhostir agored yn nodedig ac mae iddi ffiniau pendant. Fodd bynnag o ganlyniad i waith a wnaed yn ddiweddar i wella pen dwyreiniol yr ardal mae'r gwahaniaethau rhyngddi â'r tir ffermio amgaeëdig o'i hamgylch yn llai pendant. Yn y fan hon nid oes ffin bendant rhyngddi a'i chymdogion bellach.

Ffynonellau: Map degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Trethowan 1998.