|
277 TREHAIDD
CYFEIRNOD GRID: SN092346
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 247.6
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar gwr gogleddol pellaf Mynydd
Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes o dan reolaeth
Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd gan y teulu
Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu holynu gan
y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref Cemaes a grëwyd
yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau a rhwymedigaethau
ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Mae'r ardal gymeriad hon
yn gorwedd o fewn plwyf Nanhyfer, a fu'n un o fwrdeistrefi'r farwniaeth
yn ystod y cyfnod canoloesol. Fe'i lleolir ar gwr gogleddol comin mawr
Mynydd Preseli, y rhoddasid yr hawl i bori anifeiliaid a thorri mawn arno
i rydd-ddeiliaid Cemaes gan siarter a wnaed gan Nicholas Fitzmartin ar
ddiwedd y 13eg ganrif. Fel mae'n digwydd enwyd Trehaidd fel un o ffiniau'r
tir comin yn y siarter, pan ymddengys ei fod yn dirddaliad pwysig. Er
bod yna gyfeiriad ar wahân at Glyn-yr-wyn mewn dogfen o 1343, ni restrwyd
yr un o'r daliadau eraill yn yr ardal gymeriad hon yn Extent Cemaes yn
dyddio o 1577 sy'n awgrymu bod daliad Trehaidd yn cynnwys yr ardal gyfan.
Mae'n bosibl bod rhai o'r caeau hir, cul o fewn yr ardal hon, yr ymddengys
o ran eu ffurf eu bod yn cynrychioli'r math o gae sy'n berthyn i'r cyfnod
ôl-ganoloesol - wedi'r cyfan nodir yr ardal fel 'Fforest' ar fap Rees
- mewn gwirionedd wedi'u creu trwy amgáu cyn-lain-gaeau. Mae'n bosibl
bod y ffermydd yn Nhrebwlch, y ceir sôn amdano yn gyntaf ym 1671, a Phen-y-lan
fach, y ceir sôn amdano ym 1715, wedi'u sefydlu o ganlyniad i isrannu'r
daliad Trehaidd oedd yn fwy o faint yn ystod cyfnod diweddarach. Mae'r
prif lwybr o Hwlffordd i Abergwaun wedi croesi'r ardal hon ers y cyfnod
canoloesol, ac ar y ffin rhyngddi a'r tir comin saif Tafarn-y-bwlch, y
mae'n rhaid ei fod yn dafarn eisoes ym 1729 pan gafodd ei nodi, a'i labelu,
ar fap Emanuel Bowen. Cafodd y ffordd ei throi'n ffordd dyrpeg yn ddiweddarach
ac erbyn hyn ffordd y B4329 ydyw. Sefydlwyd gweddill y ffermydd yn y 18fed
ganrif ac ar ddechrau'r 19eg ganrif, ac erbyn arolwg degwm 1843 roedd
yr ardal wedi cymryd ei ffurf bresennol.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Trehaidd yn gorwedd ar lethrau
sy'n wynebu'r dwyrain ac sy'n graddol ddisgyn rhwng 160m a 280m o uchder
ar ochr ogleddol Mynydd Preseli. Fe'i nodweddir gan aneddiadau gwasgaredig
a chan gaeau sydd â thuedd bendant i ymestyn o'r dwyrain i'r gorllewin.
Mae'r caeau hyn o faint bach i ganolig ac at ei gilydd mae iddynt siâp
hirsgwar fwy neu lai. Rhennir y caeau gan gloddiau a rhai cloddiau o bridd
a cherrig. Ar y cloddiau ceir gwrychoedd, ond ac eithrio'r rhai sy'n rhedeg
ar hyd ffyrdd a llwybrau a rhai mewn ambell leoliad ar lefelau is nid
yw'r gwrychoedd hyn mewn cyflwr da ac naill ai maent wedi tyfu'n wyllt
neu nid ydynt yn ddim mwy na rhesi ar chwâl o lwyni a choed bach. Mae'r
coed hyn ynghyd ag ychydig o goetir prysglog, yn arbennig ar lefelau is,
yn rhoi golwg goediog i rannau o'r dirwedd. Fodd bynnag nid yw coetir
yn nodwedd ddiffiniol. Ffensys gwifrau yn bennaf a ddefnyddir i ddal gwartheg.
Tir pori yw'r defnydd a wneir o'r tir bron yn gyfan gwbl a cheir ychydig
o dir âr. Mae'r tir pori yn gymysgedd o dir pori wedi'i wella, tir pori
heb ei wella a thir brwynog, mwy garw. Mae'r aneddiadau gwasgaredig yn
cynnwys ffermydd a bythynnod. At ei gilydd mae'r anheddau yn dyddio o'r
19eg ganrif ac maent yn yr arddull brodorol. Ceir adeiladau ag un llawr,
llawr a hanner a dau lawr. Maent wedi'u hadeiladu o gerrig (wedi'u rendro
a cherrig moel), ac iddynt doeau llechi a thri bae. Mae tai gwasgaredig
yn dyddio o'r 20fed ganrif mewn amrywiaeth o arddulliau a defnyddiau,
o ddechrau'r ganrif ddiwethaf ac o gyfnodau diweddarach yn ystod y ganrif,
yn nodwedd o adeiladau'r ardal hon. Mae'r adeiladau fferm lle y maent
yn bresennol hefyd yn eithaf bach. Fel arfer mae un rhes wedi'i hadeiladu
o gerrig yn dyddio o'r 19eg ganrif, weithiau ynghyd â strwythur o haearn
rhychog o ganol yr 20fed ganrif a/neu adeiladau bach o ddur, asbestos
a choncrid o ddiwedd yr 20fed ganrif. Mae gan rai o'r ffermydd mwy o faint
gasgliad o adeiladau amaethyddol mwy o faint yn dyddio o'r 20fed ganrif.
Nid oes unrhyw adeiladau rhestredig o fewn yr ardal gymeriad hon. Cyfyngir
elfennau trafnidiaeth i'r B4239 a lonydd a llwybrau a ddefnyddir gan y
trigolion lleol. Maent i gyd yn gul ac yn droellog a chanddynt gloddiau
o bob tu iddynt.
Mae archeoleg a gofnodwyd yn cynnwys mannau darganfod neolithig
neu o'r oes efydd, pâr o gerrig cofrestredig o'r oes efydd, a maen hir
cofrestredig. Hefyd mae carreg arysgrifedig o ddechrau'r cyfnod Cristnogol,
a safle ffynnon sanctaidd.
Mae Trehaidd yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol nodedig
ac iddi ffiniau pendant. Yn cyffinio â hi i'r gorllewin, i'r de ac i'r
dwyrain mae rhostir agored Mynydd Preseli. I'r gogledd-orllewin ac i'r
gogledd-ddwyrain mae ardaloedd cymeriad nodedig Cilgwyn a Brynberian-Miraniog,
ac i'r gogledd tir agored Carnedd Meibion Owen.
Ffynonellau: Bowen 1729; Charles 1992; Howells 1977; Map
degwm a rhaniad Nanhyfer, 1843; Rees 1932; Ymddiriedolaeth Archeolegol
Dyfed 1997
|