276 GOCHEL SYTHI
CYFEIRNOD GRID: SN059361
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 166.8
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro, ar ochr ddeheuol Mynydd Carn
Ingli, i'r gogledd o'r Waun, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd
â Chemaes o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100.
Fe'i cadwyd gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan
gawsant eu holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol
â Chantref Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer
o hawliau a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â
1922. Mae'r ardal gymeriad hon yn gorwedd o fewn plwyf Trefdraeth, a fu'n
un o fwrdeistrefi'r farwniaeth yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae'n bosibl
i'r caeau afreolaidd, o faint canolig a leolir mewn rhan o'r ardal hon
gael eu hamgáu o dan reolaeth Dolrannog, a leolir o fewn ardal gymeriad
Cilgwyn yn union i'r de. Cyfeiriwyd at Ddolrannog mewn dogfen yn dyddio
o c.1280, ac aseswyd bod yn rhaid i Thomas Lloid dalu 6d amdano mewn Extent
o 1577. Mae'n debyg bod y caeau mwy o faint, mwy rheolaidd eu siâp a leolir
i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r dwyrain o'r ardal hon yn cynrychioli'r
gwaith a wnaed yn ddiweddarach i amgáu Carn Ingli (un o diroedd comin
bwrdeistref Trefdraeth) yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau'r 19eg
ganrif ar adeg pan oedd y boblogaeth yn tyfu. Fe'i cysylltir â ffermydd
sydd bellach yn anghyfannedd sy'n awgrymu anheddu gan sgwatwyr neu dai
unnos, er enghraifft Gochel Sythi. Yn gysylltiedig â'r aneddiadau mae
padogau lle y gwelir olion grynnau amaethu, ond arhosodd yr ardal yn un
o dir pori yn benanf ac mae'n cynnwys tair corlan - dwysedd uchel ar gyfer
nifer mor fach o ffermydd. Dengys map degwm 1843 y system o gaeau a nifer
o ffermydd. I bob pwrpas roedd y ffermydd wedi'u gadael yn wag erbyn canol
i ddiwedd y19eg ganrif, ac mae'r caeau ar lefelau uwch yn graddol droi'n
rhostir agored unwaith eto.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Gochel Sythi yn gorwedd ar
lethrau eithaf serth sy'n wynebu'r de-ddwyrain rhwng 180m a 300m o uchder
ar ochr ddeheuol Mynydd Carn Ingli. Fe'i rhennir yn gaeau afreolaidd eu
siâp o faint bach i ganolig. Rhennir y caeau gan gloddiau o bridd a cherrig
a chloddiau caregog. Ceir gwrychoedd ar chwâl ar hyd y cloddiau ar lefelau
is, ond ar y tir uwch nid oes unrhyw wrychoedd ac mae'r caeau'n troi'n
rhostir agored unwaith eto. Mae ffensys gwifrau wedi'u codi rhwng y caeau
i ddal gwartheg. Cymysgedd o dir pori wedi'i wella (ar lefelau is gan
amlaf) a thir pori heb ei wella a thir pori garw a thir brwynog yw'r defnydd
a wneir o'r tir. Mae llai a llai o dir wedi'i wella ar uchder uwch. Nid
oes unrhyw adeiladau cyfannedd, er bod ffermwydd anghyfannedd wedi'u hamgylchynnu
gan glystyrau o goed yn un o nodweddion trawiadol y dirwedd. Ar wahân
i'r coed hyn ac ychydig o enghreifftiau ar wrychoedd sydd wedi tyfu'n
wyllt ar lefelau is, ni nodweddir yr ardal hon gan goetir. Lleolir tair
corlan yn yr ardal hon. Cyfyngir elfennau trafnidiaeth i ychydig o ddarnau
o drac sy'n arwain i mewn i'r ardal hon o'r tir is i'r de.
Mae archaeoleg a gofnodwyd yn cynnwys crug crwn posibl,
safle clostir anhysbys a grynnau amaethu ac ati a gysylltir â'r ffermydd
ôl-ganoloesol.
Mae'r ardal hon yn gorwedd rhwng rhostir agored i'r gogledd
a thir ffermio amgaeëdig i'r de ac i'r dwyrain. Lleolir coedwig o goed
coniffer a blannwyd i'r gorllewin.
Ffynonellau: Charles 1992; Dyfed Archaeological Trust 2000; Howells
1977; Map a rhaniad degwm Trefdraeth, 1843.
|