|
272 BANC DU
CYFEIRNOD GRID: SN056317
ARWYNEBEDD MEWN HECTARAU: 217.4
Cefndir Hanesyddol
Ardal fach o fewn ffiniau modern Sir Benfro a leolir ar lethrau gorllewinol
Mynydd Preseli, o fewn Cantref canoloesol Cemaes. Daethpwyd â Chemaes
o dan reolaeth Eingl-Normanaidd gan y teulu Fitzmartin c.1100. Fe'i cadwyd
gan y teulu Fitzmartin, fel Barwniaeth Cemaes, tan 1326 pan gawsant eu
holynu gan y teulu Audley. Roedd y farwniaeth yn gydamserol â Chantref
Cemaes a grëwyd yn ddiweddarach ym 1536, ond parhaodd llawer o hawliau
a rhwymedigaethau ffiwdal, rhai ohonynt tan mor ddiweddar â 1922. Yn ystod
y cyfnod canoloesol, rhoddodd Nicholas Fitzmartin mewn siarter yn dyddio
o ganol y 13eg ganrif hanner gogleddol yr ardal gymeriad hon i rydd-ddeiliaid
Cemaes fel rhan o gomin mawr Preseli lle'r oedd ganddynt yr hawl i bori
anifeiliaid a thorri mawn. Cyfatebai hyn i'r hanner hwnnw o'r ardal a
orweddai i'r gogledd o glawdd sylweddol a redai o'r dwyrain i'r gorllewin,
sef y 'palis'. Er y defnyddid y clawdd hwn fel ffin i wahanu'r tir comin
a'r tir i'r de, mae'n rhagflaenu siarter Fitzmartin, ac erbyn dyddiad
y siarter roedd eisoes yn cael ei adnabod fel y 'Via Fandrensica' neu
Ffordd y Fflemiaid. Dyna'r enw a roddwyd iddo yn y ddogfen hon ac mewn
dogfennau canlynol. Ystyrid hefyd ei fod yn llwybr cynhanesyddol. Mae'n
bosibl bod rhan ddeheuol ardal gymeriad Banc Du yn rhan o gyn-faenor Redwalls,
y lleolir ei chraidd yn y Fagwyr Goch ychydig i'r de-orllewin o'r ardal
gymeriad hon. Ceir sôn amdani yn gyntaf ym 1293 pan roddodd y Brenin Edward
I i Robert de Vale, sef Arglwydd Dale yn Sir Benfro, farchnad wythnosol
a ffair flynyddol yn para tri diwrnod 'ar gyfer ei faenor Redwalls'.Roedd
y faenor wedi'i throsglwyddo i'r teulu Vales o Farwniaeth Cemaes yn ystod
y 13eg ganrif. Ni wyddom pryd na sut y daeth i feddiant y teulu ond mae
ei lleoliad, a'r ffaith nad aseswyd y faenor erioed o ran ffïoedd marchog,
yn awgrymu ei bod wedi'i chreu'n ddiweddar - assart sylweddol ar dir cymharol
wael yn dyddio o'r 13eg ganrif. Yn ystod yr 16eg ganrif delid y faenor
yn ôl systemau tirddaliadaeth 'Seisnig' a 'Chymreig' fel y cofnodwyd mewn
Extent o'r Farwniaeth a luniwyd ym 1594. Fodd bynnag, ymddengys hefyd
bod y faenor yn dirywio; ni chofnodwyd ond cyfanswm o bedwar daliad o
ddemên - a allai fod wedi wedi'u lleoli yn ardal gymeriad Mynydd-du -
ynghyd â thenantiaid a hawliau pori gwartheg ar y llain-gaeau. Fodd bynnag
mae'n bosibl bod rhan ddeheuol ardal gymeriad Banc Du yn cynrychioli ardal
o dir comin a berthynai i'r faenor. Neu mae'n bosibl ei bod wedi''i chynnwys
o fewn Morfil a ffiniai â hi yr aseswyd ei bod yn werth 2 garaciwt o dir
âr a ddelid yn uniongyrchol o'r farwniaeth trwy ddeiliadaeth 'ganolig'
neu ddeiliadaeth faenoraidd gyfyngedig. Sut bynnag, parhaodd y dwy ran
o'r ardal gymeriad i fod yn rhostir agored tan gyfnod diweddar, ac mae
patrwm y caeau mawr rheolaidd eu siâp yn nodweddiadol o'r patrwm amgáu
ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y broses hon wedi'i chwblhau erbyn arolwg
degwm 1839. Ni ddangosir unrhyw aneddiadau ar y map degwm. Ni newidiodd
y sefyllfa fawr ddim dros y 160 o flynyddoedd diwethaf, ond plannwyd coedwig
o goed coniffer ym mhen gogleddol yr ardal yn ail hanner yr 20fed ganrif.
Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg
Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001.
Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint
y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded:
GD272221
Disgrifiad a hanfodion hanesyddol y dirwedd
Mae ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Banc Du yn cynnwys stribyn
o dir lled-amgaeëdig ar ochrau de-orllewinol Mynydd Preseli yn gorwedd
rhwng 250m a 360m o uchder. Mae'r rhan fwyaf o'r dirwedd hon yn cynnwys
llethrau llyfn, er y ceir brigiadau creigiog o bryd i'w gilydd. Ar wahân
i ddwy blanhigfa fach o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif, tirwedd
foel ydyw. Tir pori wedi'i wella yw'r defnydd a wneir o'r tir yn bennaf
a cheir darnau o dir pori garw a thir gwlypach brwynog mewn pantiau. Caiff
y caeau mawr amgaeëdig eu ffurfio o gloddiau cerrig neu ddaear a cloddiau
cerrig. Ni cheir unrhyw wrychoedd ar y cloddiau. Mae'r ffensys gwifrau
sy'n rhedeg ar hyd copa'r cloddiau yn darparu ffiniau atal-stoc. Nid oes
unrhyw lonydd na llwybrau. Ar wahân i bont ôl-ganoloesol, nid oes unrhyw
strwythurau/adeiladau o fewn yr ardal gymeriad hon.
Cyfyngir archeoleg a gofnodwyd i'r llwybr cynhanesyddol/clawdd
terfyn canoloesol, a dau glawdd arall o ddyddiad a swyddogaeth anhysbys,
y mae un ohonynt yn amgylchynnu pwynt uchaf Banc Du. Mae hefyd yr hyn
a all fod yn safle adeiladu ôl-ganoloesol a/neu grug crwn yn dyddio o'r
oes efydd.
Mae i'r ardal hon ffiniau eithaf pendant. Mae'n gorwedd
rhwng rhostir agored uwch Mynydd Preseli i'r dwyrain a thir ffermio amgaeëdig
i'r gogledd, i'r gorllewin ac i'r de lle y ceir aneddiadau.
Ffynonellau: Cal. Charter Rolls 2; Charles 1992; Howells
1997; Lewis 1972; Map a rhaniad degwm Morfil, 1839; Owen 1892; Owen 1897;
Rees 1932
|